Ymgynghori

Mae Tai Pawb yn cynnig gwasanaeth ymgynghori a chymorth i gynorthwyo sefydliadau i fynd i’r afael â’r heriau cydraddoldeb a wynebant.  Mae pob prosiect ymgynghori a gwasanaeth cymorth wedi’i deilwra’n arbennig i’r sefydliad dan sylw.

Ein gwaith diweddar

Adolygu Polisïau

Archwiliad Iechyd – Cydraddoldeb

Hwyluso Asesu Effaith ar Gydraddoldeb

Byddwch yn onest â chi’ch hun. Mae’n rhwydd dweud eich bod wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth ond a yw hynny’n cael ei drosglwyddo i gyflenwi gwasanaeth, diwylliant y sefydliad, a’ch amgylchedd gwaith yn ymarferol?

Gallwn ni eich helpu os fyddwch chi'n ateb 'ie' i unrhyw un o'r cwestiynau hyn

Ydych chi eisiau newid diwylliant a dull gweithio eich sefydliad o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth?

Ydych chi eisiau sicrhau eich bod chi wedi gwneud popeth y gallech pan fyddwch yn gwynebu cwyn?

Ydych chi wedi cael cwyn, barn rheoleiddio negyddol neu adroddiad gan yr Ombwdsmon sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac angen cymorth er mwyn ymateb i argymhellion?

Ydych chi ar goll, yn betrus o ran lle i ddechrau neu’n ansicr o ran sut i flaenoriaethu meysydd gwaith yn nhermau cydraddoldeb?

Ydych chi wedi gwneud dechrau da; wedi defnyddio Asesiadau Effaith Cydraddoldeb am gyfnod, wedi dechrau creu proffiliau o gwsmeriaid, wedi cael grŵp cydraddoldeb dim ond i’r cyfan rewi neu beidio gweithio yn y modd yr hoffech? Ydych chi am gael cymorth er mwyn adolygu a datblygu dull gweithredu newydd?

 

Ydy monitor cydraddoldeb yn eich pryderu a’ch drysu?

Ydych chi’n ymwybodol eich bod yn methu cyrraedd neu gyfarfod anghenion grŵp gwarchodedig benodol ac eisiau newid hyn?

Fel arweinwyr ym maes cydraddoldeb a thai yng Nghymru, gall Tai Pawb eich helpu i oresgyn y materion hyn drwy ein gwasanaeth ymgynghori a chymorth. Yr ansawdd gorau o wasanaeth am y rhesymau cywir.

 

Y cyngor diweddaraf yn unol â’r polisïau a’r ymarferion cyfredol. 

Mae gennym arbenigedd a sgiliau technegol ym maes cydraddoldeb gyda blynyddoedd lawer o brofiad o”rr ffordd orau o roi’r technegau gofynnol ar waith mewn cyd-destun tai. Mae gennym wybodaeth drylwyr o faterion tai a chydraddoldeb ar gyfer gwahanol grwpiau gwarchodedig, o’r arferion gorau ac o ddeddfwriaeth gydraddoldeb. Rydyn ni bob amser yn ymwybodol o gymhlethdod darparu gwasanaethau a’r angen i sefydliadau feddwl ar draws adrannau er mwyn gwireddu dyheadau cydraddoldeb. Golyga hyn fod ein cymorth yn hyrwyddo atebion ymarferol a thechnegol.

 

Mae ein ffordd o weithredu’n wahanol iawn i lawer o ymgynghorwyr eraill. 

Fel elusen, rydyn ni’n darparu ein cymorth oherwydd ein bod yn credu mewn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth – dyna beth rydyn ni’n ei wneud.  Cenhadaeth ein sefydliad yw hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ym maes tai yng Nghymru, ac mae hynny bob amser ym mlaen ein meddwl ac yn llywio’r gwaith a wnawn. Mae ein holl staff yn gyfeillgar, yn gefnogol, yn agos-atoch a bob amser yn barod i helpu. Fel sefydliad sydd ddim â’i fryd ar wneud elw, mae ein ffioedd yn gystadleuol iawn. Bydd unrhyw elw a wnawn yn cael ei ail-fuddsoddi yn ôl i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth – mae mor syml â hynny.

Os byddwch chi'n gweithio gyda ni, byma beth allwch chi ei ddisgwyl:

Rydyn ni’n cynnig her ac yn craffu ar eich sefydliad o’r tu allan, gan fanteisio ar ein gwybodaeth o ddeddfwriaeth ac arferion gorau i roi adborth onest i chi ar sut rydych chi’n perfformio neu unrhyw feysydd sydd angen eu gwella. Serch hynny, rydyn ni’n cydnabod bod angen mwy na dim ond herio, felly rydyn ni’n mabwysiadu dull gweithredu sy’n datrys problemau ac sy’n canolbwyntio ar yr ateb i gyflawni canlyniadau cadarnhaol. Ar y diwedd, bydd gennych gamau gweithredu a fydd yn gwneud gwahaniaeth.

Rydyn ni am eich helpu i ganfod atebion ond yn cydnabod ar yr un pryd bod ymrwymiad staff, eu hadborth a’u cefnogaeth yn hanfodol. Eich staff a’ch tenantiaid yw’r arbenigwyr yn eich sefydliad a’r ffordd mae’n gweithio (nhw sydd hefyd yn rhoi’r mewnwelediad gorau ar yr hyn sy’n digwydd go-iawn ar lawr gwlad). Ydych chi wedi talu am wasanaeth ymgynghori a bod y profiad wedi’ch gadael yn siomedig, heb ymrwymiad y staff a dim cymorth parhaus, lle na fanteisiwyd ar yr arbenigedd sydd eisoes yn bodoli yn eich sefydliad gan olygu nad yw’r staff yn meithrin perchnogaeth dros y camau gweithredu i’r dyfodol? Nid dyna’r gwasanaeth na’r canlyniadau rydyn ni am eu cyflawni wrth ddarparu ein gwaith. O ganlyniad, rydyn ni am geisio gweithio’n agos â chi a’ch staff drwy gydol y broses a’r tu hwnt. I ni, dyna’r ffordd orau o ymwreiddio’r newidiadau a’r camau gweithredu.

Mae gennym brofiad o weithio gydag amrywiol cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol o bob maint lliw a llun, gyda gwahanol lefelau o arbenigedd mewnol ac arferion gweithredu ym maes cydraddoldeb. Byddwn yn teilwra ein dull gweithredu fel ei fod yn gweddu â’ch amgylchedd gweithredol a’ch anghenion fel sefydliad. Byddwn yn gweithio gyda chi i archwilio sut i gyfateb offer a thechnegau cydraddoldeb ag anghenion eich sefydliad, gan sicrhau eich bod hefyd yn cydymffurfio â’r gofynion deddfwriaethol a’r arferion gorau. Rydyn ni’n mwynhau torri tir newydd!

Gallwn ddarparu cymorth parhaus drwy ein llinell gymorth i aelodau. Gall eich staff holi am unrhyw faterion sy’n codi yn y dyfodol yn ôl y gofyn. Rydyn ni hefyd yn darparu amrywiol wasanaethau hyfforddi y gallwch chi fanteisio arnyn nhw i lenwi bwlch os oes angen.

Information

Sut mae defnyddio'r gwasanaeth?

I drafod unrhyw faes yr hoffech chi gael cymorth arno neu o gael gwybodaeth am ein ffioedd hanner diwrnod a diwrnod ar gyfer aelodau a’r rheini sydd ddim yn aelodau, mae croeso i chi gysylltu â info@taipawb.org neu ffonio 029 2053 7630.

Os oes angen cyngor arnoch ar gydraddoldeb neu dai, cysylltwch â'n:

Llinell Gymorth i Aelodau

helpline@taipawb.org

029 2053 7630