Prosiectau wedi’u Teilwra
Mae gan Tai Pawb brofiad helaeth o ddarparu prosiectau wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer sefydliadau yn y sector tai. Yn aml iawn, mae’r prosiectau hyn yn canolbwyntio ar ddatrys problem benodol mae’r sefydliad yn ei hwynebu, drwy gynnig gwasanaeth ffrind beirniadol neu gyngor arbenigol ym maes cydraddoldeb os nad yw’r arbenigedd hwnnw ar gael yn fewnol. Byddwn yn gweithio gyda chi o’r cychwyn cyntaf i adnabod yr hyn sydd angen ei gyflwyno a’i gyflawni drwy’r prosiect. Bydd pob prosiect yn cael ei deilwra’n benodol i ddiwallu eich anghenion unigol.
Proffilio Cwsmeriaid a Monitro Cydraddoldeb
Efallai eich bod chi’n credu eich bod yn darparu gwasanaeth cyfartal a theg, ond ydych chi’n hollol siŵr? Drwy gasglu ac wedyn dadansoddi data, gall sefydliadau weld sut maen nhw’n perfformio ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth. Drwy edrych ar y data hyn, gall sefydliadau weld a yw pobl sydd â nodweddion gwarchodedig:
- yn cael eu trin yn deg
- yn gallu cael gafael ar wasanaethau neu gyfleoedd cyflogaeth
- yn cael eu trin yn deg o fewn gwasanaethau o ran profiadau a chanlyniadau.
Drwy edrych ar y stori y tu ôl i’r data, efallai byddwch chi’n sylwi bod pobl o grwpiau penodol yn cael eu tangynrychioli, yn wynebu canlyniadau gwaeth neu’n llai bodlon na phobl o grwpiau eraill. Os felly, byddwch chi’n gallu llunio camau gweithredu i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn. Felly os byddwch chi’n wynebu her o safbwynt camwahaniaethu, yn enwedig o ran gwahaniaethu anuniongyrchol, bydd angen i chi ddefnyddio’ch gwybodaeth fonitro ar gydraddoldeb.
Facilitation and assistance in development of Accessible Housing Registers
If your organisation is looking to develop an accessible housing register or is working with others to develop one we can provide facilitation to help with this process. Tai Pawb has expert knowledge and plenty of experience in this area. We help with identifying and discussing the benefits, potential challenges for both stand alone and partnership approaches.
Gwaith ymchwil a phapurau ar bynciau penodol
Efallai eich bod yn canolbwyntio ar ddarn penodol o waith ac am wybod sut gallai hynny effeithio ar grŵp cydraddoldeb penodol neu efallai eich bod am ddarganfod a oes unrhyw arferion da ar gael yn y maes. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y defnydd gorau o’ch adnoddau a’ch ymdrechion drwy ein comisiynu ni i gynnal gwaith ymchwil desg. Byddwn yn casglu’r holl wybodaeth ynghyd a llunio papur ar eich cyfer fel sail i’ch gwaith.
Craffu ar Gydraddoldeb
Mae pwyso a mesur pa mor dda ydych chi’n gwneud rhywbeth yn gallu bod yn brofiad annymunol, ond drwy gael y prosesau cywir ar waith bydd yn sicrhau bod yr ymdrechion a wnewch o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth yn arwain at y canlyniadau rydych chi’n eu deisyfu. Gall proses graffu effeithiol eich galluogi i reoli ansawdd mewn meysydd megis achosion o gamwahaniaethu neu archwilio i gwynion er mwyn sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn deg. Mae’r cwestiynau heriol sy’n cael eu gofyn yn gallu arwain at welliannau yn y gwasanaeth ac yn sicrhau nad ydych chi’n llaesu dwylo.
Llunio Canllawiau a Llawlyfrau ar Gydraddoldeb
Yr hyn sy’n hanfodol wrth ddarparu gwasanaeth sy’n ymatebol ac yn sensitif i anghenion amrywiol yw cael gweithlu gwybodus a pharod. Mae’n bosib llunio canllawiau, llawlyfrau a thaflenni ar gydraddoldeb er mwyn ategu’r hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth. Gall y rhain fod yn ddeunyddiau defnyddiol y gall staff rheng flaen gyfeirio atynt wrth ddarparu gwasanaethau yng nghartrefi pobl. Gall y canllawiau hyn gynnwys awgrymiadau ar gyfathrebu, trefnu apwyntiadau, trin unigolion â pharch, ymweld â thŷ, a gwneud gwaith yng nghartref rhywun. Caiff cynnwys, fformat a hyd y dogfennau hyn eu teilwra i ddiwallu anghenion y sefydliad, ei staff a’r gwasanaethau a ddarperir.
Am ragor o wybodaeth am sut gallwn ni eich cynorthwyo a’ch cefnogi gyda phrosiect penodol, mae croeso i chi gysylltu â info@taipawb.org neu ffonio 029 2053 7630.