Archwiliadau Iechyd Cydraddoldeb
Mae ein archwiliad iechyd ni yn arolygiad o’ch sefydliad/ adran sy’n amlygu meysydd ymarfer gorau ac yn adnabod meysydd gwan posib. Mae’r archwiliad iechyd wedi’i seilio ar ddyletswyddau eich adran yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, fframweithiau gweithdrefnau a chydraddoldeb ac ymarfer gorau. Bydd yn archwilio y ffordd rydych chi’n adnabod ac yn ymateb i anghenion pobl ar draws y nodweddion gwarchodedig: Oed, Anabledd, Ailbennu Rhywedd (hunaniaeth rhywedd), Priodasau a Phartneriaethau Sifil, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Hil (gan gynnwys lliw croen, cenedl a tharddiad ethnig), crefydd neu gred, Rhyw a Chyfeiriadedd Rhywiol. Mae ein Archwiliad Iechyd Cydraddoldeb wedi’i deilwra ar gyfer y sector dai.
Manteision Cwblhau’r Archwiliad Iechyd Sylfaenol
Bydd yr archwiliad iechyd yn cynnig argymhellion ymarferol ar gyfer camau gweithredu gall eich helpu chi i wella eich darpariaeth o wasanaethau ac ymarferion cyflogi teg.
Archwiliad Iechyd Sylfaenol (Am ddim ar gyfer aelodau)
Mae’r archwiliad bwrdd iechyd sylfaenol yn asesiad bwrdd gwaith neu wyneb i wyneb gydag adroddiad byr er mwyn eich helpu i adnabod meysydd ar gyfer camau gweithredu yn y dyfodol. Mae’n canolbwyntio ar y meysydd craidd canlynol:
- Hyrwyddo diwylliant sefydliadol cynhwysol
- Tynnu rhwystrau, cynyddu mynediad a chyfarfod anghenion amrywiol
- Herio, Dadansoddi a gwella gwasanaethau a pherfformiad ar gydraddoldeb
Yn ystod y broses byddwn ni’n gofyn i chi ddarparu dogfennau a byddwn yn dweud os oes angen adolygu’r dogfennau. Fel rhan o’r broses byddwn ni hefyd yn amlygu meysydd ymarfer da. Bydd yr archwiliad iechyd sylfaenol yn cynnwys un diwrnod o amser Tai Pawb.
Archwiliad Iechyd Cydraddoldeb Uwch
Mae’r archwiliad iechyd cydraddoldeb uwch yn fersiwn gwell o’r archwiliad iechyd cydraddoldeb sylfaenol gyda mwy o ffocws ar dystiolaeth. Mae’n cynnwys arolwg bwrdd gwaith dyfnach, cyfweliadau gyda staff a datblygiad cynllun gweithredu i gloi. Bydd aelodau staff ar wahanol lefelau’r sefydliad yn cael eu cyfweld i gael golwg clir o’r ffordd y mae cydraddoldeb wedi’i ymgorffori yn eich sefydliad. Bydd yr archwiliad iechyd uwch yn cael ei deilwra ar gyfer anghenion eich sefydliad/ adran a bydd yn cymryd 5 diwrnod.
Yn ystod y broses byddwn ni’n eich gofyn i ddarpau dogfennau a byddwn ni’n dweud os oes angen adolygu unrhyw ddogfennau.
Adolygu’r Archwiliad Iechyd (Am ddim ar gyfer aelodau)
Yn y blynyddoedd sy’n dilyn eich archwiliad iechyd cyntaf, bydd gennych y dewis i adolygu:
- Eich cynydd tuag at roi sylw i argymhellion y flwyddyn flaenorol ac awgrymiadau pellach ar draws pob maes busnes a phwnc cydraddoldeb
- Cynydd o fewn maes busnes a/neu bwnc cydraddoldeb penodol
I gael rhagor o wybodaeth am yr archwiliad iechyd cydraddoldeb neu os ydych chi am gynnal un cysylltwch â info@taipawb.org neu ffoniwch 029 2053 7630.