Cymorth gydag Asesu Effaith ar Gydraddoldeb

Mae gan Tai Pawb brofiad helaeth o ddarparu cymorth wrth gynnal asesiadau effaith ar gydraddoldeb i ddarparwyr tai yng Nghymru.

“Asesu effaith, ymateb i’r her a gwneud gwahaniaeth”

Mae Asesu Effaith ar gydraddoldeb yn broses sy’n:

  • eich galluogi i feddwl yn benodol am effaith penderfyniadau, polisïau, arferion a meysydd gwasanaeth o safbwynt grwpiau/nodweddion gwarchodedig.
  • seiliedig ar gasglu tystiolaeth er mwyn helpu i adnabod rhwystrau ac effeithiau posib ar grwpiau/nodweddion gwarchodedig.
  • eich galluogi i adnabod rhwystrau posib ac effeithiau negyddol a’u goresgyn drwy ddatblygu camau gweithredu i fynd i’r afael â nhw.
  • eich helpu i atal gwahaniaethu, cydymffurfio â dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus ac yn arwain at welliannu yn y gwasanaeth os ydych chi’n ei wneud yn effeithiol.

Sut gall Tai Pawb eich cynorthwyo gydag asesiadau effaith ar gydraddoldeb:

Helpu sefydliad i ddatblygu fframwaith o flaenoriaethau ar gyfer asesiadau

Darparu sesiynau hwyluso Asesu Effaith ar Gydraddoldeb

Cynnal adolygiadau desg o’r polisïau a’r dogfennau sy’n ymwneud â’r maes sy’n cael ei asesu a fydd yn bwydo i mewn i’r asesiad

Adnabod ffynonellau o wybodaeth allanol a fydd yn sail i’r asesiad er mwyn ategu eich data mewnol

Crynhoi’r wybodaeth allanol berthnasol

Helpu wrth lunio cwestiynau ymgysylltu

Rhoi arweiniad a help wrth lunio cynllun gweithredu ar ôl cynnal yr Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb yn ogystal â chamau lliniaru arfaethedig.

Darparu adborth ar ffurflenni, adroddiadau a chynlluniau gweithredu yr Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb terfynol

Please note we also provide Equality Impact Assessment training specifically tailored for the housing sector and have developed an Equality Impact Assessment Toolkit and EIA Template Form.

Information

I gael rhagor o wybodaeth am sut gallwn ni eich helpu gydag Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb, mae croeso i chi gysylltu â info@taipawb.org neu ffonio 029 2053 7630.