Adolygu polisïau, strategaethau a chynlluniau gweithredu
Mae Tai Pawb yn arbenigwr yn y maes hwn a gallwn eich helpu i sicrhau bod eich polisïau, eich strategaethau a’ch cynlluniau gweithredu’n rhoi sylw i ystyriaethau cydraddoldeb ac yn glynu wrth yr arferion gorau.
Fel sefydliad, bydd gennych bolisïau allweddol a chynlluniau neu strategaethau arfaethedig gyda’r nod o:
- sicrhau bod eich sefydliad yn cydymffurfio â deddfwriaeth gydraddoldeb
- hyrwyddo cyfle cyfartal
- bod yn ymatebol i anghenion amrywiol yn eich gwaith
Yn aml, nid yw sefydliadau ym maes tai yn cael eu herio am resymau cydraddoldeb ar sail cynnwys eu polisïau cyfle cyfartal, ond yn hytrach oherwydd methiant polisïau eraill, fel polisïau sy’n ymwneud â dyrannu, atgyweirio, cynnal a chadw neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, i roi sylw digonol i ystyriaethau cydraddoldeb. O ganlyniad, mae angen i chi sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â meysydd eraill yn rhoi ystyriaeth ddigonol i faterion cydraddoldeb. Fel sefydliad, mae gennym arbenigedd mewn materion cydraddoldeb ac ym maes tai yng Nghymru, felly rydym mewn sefyllfa unigryw i ddarparu’r cyngor hwn.
For further information on how we can assist you with policy, procedure and strategy reviews please contact info@taipawb.org or call 029 2053 7630.