DYFARNIAD ANSAWDD MEWN CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH (QED)
Mae’r QED yn fwy na dim ond nod ansawdd anrhydeddus ar gyfer sector tai Cymru. Mae’n darparu fframwaith cynhwysfawr, penodol i Gymru, ar gyfer adolygu a gwella effaith cydraddoldeb ac amrywiaeth eich sefydliad ym maes llywodraethu, gwasanaethau, mynediad, cynnwys a diwylliant.
Mae methodoleg QED yn arloesol yn y ffordd ddiweddaraf o feddwl ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae’n cynnig cyfle real i fesur a dangos cynnydd a thrawsnewid meddwl sefydliadol, gwasanaethau a diwylliannau.
Mae QED yn cyfeirio at Ansawdd mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, yn ogystal â chlymu’n daclus gyda’r Lladin, ‘quod erat demonstrandum’ neu, ‘Fel hyn y cafodd ei arddangos’.
Y MANTEISION
Dyma’r manteision sydd i’w cael o weithio tuag at y dyfarniad QED:
• Dealltwriaeth glir o beth yw da
• Fframwaith i ymgorffori eich gwaith cydraddoldeb ac amrywiaeth
• Gallu cryfhau egni staff a chanolbwyntio ar gydraddoldeb ac amrywiaeth
Dyma’r manteision sydd i’w cael o ennill dyfarniad QED:
• Gwella profiadau tenantiaid, cwsmeriaid a staff amrywiol
• Fframwaith a chynllun clir ar gyfer gwelliant parhaus
• Tystiolaeth eich bod yn cydymffurfio â’r gofynion rheoleiddio
• Gallu defnyddio logo QED ar draws eich llwyfannau cyfathrebu
• Tynnu sylw at eich cyflawniadau a’ch arferion da
Y BROSES
Mae’r broses QED wedi’i rhannu’n ddau gam.
Mae Cam 1 yn cynnwys y canlynol:
• Arolwg staff a rhanddeiliaid
• Adolygiad bwrdd gwaith
• Ymweliadau / cyfweliadau ar y safle
• Asesiad
• Cynllun gweithredu
Mae Cam 1 yn cymryd oddeutu 12 wythnos i’w gwblhau.
Ar ôl hyn bydd gennych 6 mis i weithio drwy’r cynllun gweithredu ac ymgymryd â’r gweithgareddau sydd wedi’u nodi.
Ar ôl i’r 6 mis fynd heibio, byddwn yn dechrau Cam 2 y broses, sy’n cynnwys y canlynol:
• Ymweliad cynnydd
• Adroddiad argymhelliad
• Penderfyniad terfynol gan y panel QED
Ar ôl cwblhau’r broses yn llwyddiannus byddwch yn cadw statws y dyfarniad am dair blynedd.
FFIOEDD
Mae ffioedd y dyfarniad QED yn cael eu rhannu’n ddau gam. Mae hyn yn cyfateb i raniad 75/25.
Cam | Aelodau | Eraill |
1 | £3,592.79 | £4,670.63 |
2 | £1,219.39 | £1,585.21 |
Cyfanswm | £4,812.18 | £6,255.83 |
Rhaid talu ffi Cam 1 yn llawn cyn dechrau ar y gwaith.
Rhaid talu ffi Cam 2 cyn ailasesu er mwyn ennill statws dyfarniad QED.
Bydd rhaid talu unrhyw gostau sy’n codi wrth ddarparu’r dyfarniad QED yn ychwanegol at y ffioedd. Nid oes TAW i’w dalu ar y ffioedd.
RHAGOR O WYBODAETH
Am ragor o wybodaeth am ymgymryd â’r dyfarniad QED, cysylltwch â Ceri:
ceri@taipawb.org / 029 2053 7637
CAEL GWYBOD MWY