Arweinyddiaeth Amgen ym maes Amrywiaeth

Nod y cwrs ymarferol hwn yw galluogi cyfranogwyr i feddwl am arwain ym maes amrywiaeth yn ei ystyr ehangaf ac am eu dull rheoli/arwain. Y bwriad yw eu gwneud yn arweinwyr a rheolwyr mwy effeithiol mewn gweithlu amrywiol.

Mae’r hyfforddiant hwn yn ceisio gwella sgiliau’r rheini mewn swyddogaethau rheoli drwy edrych ar eu swyddogaeth eu hunain fel arweinwyr a sut maen nhw’n gallu defnyddio hynny i herio arferion presennol a safbwyntiau am gydraddoldeb ac amrywiaeth gan wneud newidiadau i gyflawni gwell canlyniadau.

Objectives - The learner will be able to:

Disgrifio sut i ystyried a buddsoddi mewn cydraddoldeb yn yr holl weithgareddau

Disgrifio sut mae pob un ohonom yn effeithio ar arferion amrywiaeth a dechrau asesu’r effaith honno

Egluro dulliau arwain gwahanol

Pwyso a mesur eu harweinyddiaeth nhw eu hunain

Defnyddio astudiaethau achos i ddangos sut gellir rheoli gwahaniaethau

Dangos sut gallent hybu amrywiaeth yn eu sefydliad

Herio mewn ffordd adeiladol

Cynllunio ar gyfer newidiadau yr hoffent eu gwneud i’r ffordd maen nhw’n arwain ac yn gweithio â gweithlu amrywiol.

Cynulleidfa darged

Unrhyw un mewn swydd arwain neu reoli sy’n dymuno gwella’r ffordd maen nhw’n arwain ym maes amrywiaeth yn rhinwedd eu swydd.

Hyd y cwrs

1/2 diwrnod

Information

Sut i archebu

Os hoffech chi drefnu cwrs Hyfforddiant Arweinyddiaeth Amgen ym maes Amrywiaeth, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â helpline@taipawb.org neu ffonio 029 2053 7630.