Addasiadau Rhesymol

Dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mae gan ddarparwyr gwasanaethau a gweithwyr gyfrifoldeb i wneud addasiadau rhesymol lle bynnag mae angen ar gyfer pobl gydag anableddau.

Information

Cael Mynediad at Adnoddau Aelodau

Mae rhai adnoddau ar gyfer aelodau Tai Pawb yn unig a bydd angen cyfrinair arnoch er mwyn cael mynediad atynt. Os ydych chi’n aelod Tai Pawb ac angen manylion y cyfrinair neu gopïau o ddogfennau mewn fformat gwahanol cysylltwch â helpline@taipawb.org 029 2053 7630.

 

Mae addasiadau rhesymol yn cynnwys gwneud newidiadau:

I’r ffordd y mae pethau’n cael eu gwneud

(fel newid polisi)

I’r amgylchedd adeiledig

(fel gwneud newidiadau i strwythur adeilad er mwyn ei wneud yn haws mynd iddo)

I ddarparu cymhorthion neu wasanaethau ategol

(fel darparu gwybodaeth mewn fformat hygyrch, dolenni sain cludadwy ar gyfer cwsmeriaid gyda chymhorthion clyw, meddalwedd cyfrifiadur arbenigol neu gymorth ychwanegol gan staff wrth ddefnyddio gwasanaeth.)

Beth sy’n rhesymol?

Rydym yn derbyn ymholiadau yn aml ynghylch beth sy’n cael ei ystyried yn rhesymol a phwy fydd yn talu am addasiadau rhesymol. Mae gan yr EHRC ganllawiau defnyddiol ar eu gwefan ar gyfer y ddau faes hyn:

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tai Pawb

Llinell Gymorth Aelodau

helpline@taipawb.org

029 2053 7630

Information

Nodwch fod yr adnoddau yn yr adran hon wedi’u bwriadu ar gyfer amcanion gwybodaeth yn unig ac nid ydynt yn cynrychioli cyngor cyfreithiol. Nid yw Tai Pawb yn gyfrifol am gynnwys adnoddau allanol