Brecwastau Briffio i Gontractwyr – Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae ein sesiwn briffio dros frecwast i’n contractwyr wedi’i lunio’n arbennig fel sesiwn gyflym i gyflwyno ein contractwyr a’n staff cynnal a chadw i faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth. Ei nod yw datblygu dealltwriaeth contractwyr o rwymedigaethau cyfreithiol eu sefydliadau a’u hunain fel unigolion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae’r sesiwn hefyd yn archwilio ac yn codi ymwybyddiaeth o effaith stereoteipio a rhagfarn o safbwynt nodweddion gwarchodedig. Fel staff rheng flaen sy’n darparu gwasanaethau yn nhai pobl, bydd y sesiwn yn cynnig awgrymiadau ar gyfathrebu, gwneud apwyntiadau, trin unigolion â pharch, a phethau i’w hystyried wrth wneud gwaith cynnal a chadw yn nghartref person. Mae’r sesiwn hon yn hynod fuddiol i gontractwyr sy’n gweithio gyda sefydliadau sy’n teilwra eu gwasanaethau mewn ffordd benodol.

Amcanion - Bydd y dysgwr yn gallu gwneud y canlynol:

Disgrifio pam fod Cydraddoldeb yn bwysig

Gwerthuso rhwymedigaethau cyfreithiol eu sefydliad a nhw eu hunain fel unigolion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010

Egluro profiad defnyddwyr gwasanaethau ar draws y Nodweddion Gwarchodedig a pham fod sefydliadau’n teilwra gwasanaethau

Ymateb i anghenion tenantiaid os ydynt yn gweithio yn eu cartref

Cydnabod effaith stereoteipio a rhagfarn mewn cysylltiad â nodweddion gwarchodedig.

Cynulleidfa darged

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at gontractwyr allanol a staff cynnal a chadw sy’n gweithio i sefydliadau tai.

 

Hyd y cwrs

1/2 diwrnod

Information

Sut i archebu

Os hoffech chi drefnu Brecwast Briffio i Gontractwyr – Ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â helpline@taipawb.org neu ffonio 029 2053 7630.