Cyrsiau Ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Aelodau Bwrdd

Bydd yr hyfforddiant hwn yn sicrhau fod aelodau bwrdd yn deall rhwymedigaethau cyfreithiol sefydliadau tai gyda ffocws penodol ar eu rôl a’u dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Nod yr hyfforddiant hwn yw rhoi dealltwriaeth gadarn i aelodau bwrdd o’r gwahanol fathau o wahaniaethu. Bydd hefyd yn eu gwneud yn ymwybodol o’r rhwystrau cyffredin o ran cydraddoldeb ym maes tai i bobl â nodweddion gwarchodedig. Mae hon yn sesiwn ryngweithiol sy’n archwilio’r Ddeddf Cydraddoldeb, y rhwymedigaethau i gymdeithasau tai, a rôl aelodau bwrdd a llywodraethwyr wrth graffu ar berfformiad y sefydliad o safbwynt cydraddoldeb.

Amcanion - Bydd y dysgwr yn gallu:

Egluro pam fod cydraddoldeb yn bwysig ym maes tai

Cydnabod rhwymedigaethau cyfreithiol eu cymdeithas tai

Nodi yr hyn mae’n rhaid i aelodau bwrdd ei wneud o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010

Disgrifio pwy sydd wedi’u gwarchod rhag camwahaniaethu a’r ffyrdd gwahanol y gall pobl brofi hyn

Adnabod a deall y rhwystrau cyffredin a wynebir gan bobl â nodweddion gwarchodedig. Asesu’r dulliau gweithredu a’r ymarfer da y gellir eu defnyddio i oresgyn y rhwystrau hyn.

Gwerthuso rôl y drefn lywodraethu wrth graffu ar berfformiad eu sefydliad o safbwynt cydraddoldeb.

Cynulleidfa darged

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at aelodau bwrdd cymdeithasau tai a staff sy’n ymwneud â’r drefn lywodraethu.

Hyd y Cwrs

1/2 diwrnod

Information

Sut i archebu

Os hoffech chi archebu sesiwn Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Aelodau Bwrdd neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â helpline@taipawb.org neu ffoniwch 029 2053 7630.

Adborth gan fynychwyr a sefydliadau:

“Mae’n dda cael trafodaethau grŵp i drafod y materion”