Ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Staff

Ein cwrs mwyaf poblogaidd! Nod yr hyfforddiant hwn yw sicrhau bod gan staff ddealltwriaeth gadarn o’r mathau gwahanol o wahaniaethu, a’u bod yn gwerthfawrogi’r rhwystrau cyffredin i gydraddoldeb o safbwynt pobl â nodweddion gwarchodedig.

Mae’n canolbwyntio ar y meysydd darparu gwasanaethau a chyflogaeth. Bydd hefyd yn sicrhau bod aelodau staff yn deall rhwymedigaethau cyfreithiol sefydliadau tai dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae hon yn sesiwn ryngweithiol sy’n archwilio’r Ddeddf Cydraddoldeb, a’r rhwystrau yng nghyd-destun gwaith o ddydd i ddydd y sefydliad. Mae’r hyfforddiant hwn wedi’i deilwra ar gyfer y sector tai, ond gellir ei addasu fel ei fod yn fwy perthnasol i fudiadau eraill yn y trydydd sector.

Amcanion - Bydd y dysgwr yn gallu gwneud y canlynol:

Egluro pam fod cydraddoldeb yn bwysig

Nodi eu rhwymedigaethau cyfreithiol fel unigolion ac fel sefydliad o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010

Disgrifio pwy sy’n cael eu gwarchod rhag gwahaniaethu a’r ffurfiau gwahanol o wahaniaethu

Asesu profiadau defnyddwyr gwasanaeth ar draws y Nodweddion Gwarchodedig ac adnabod y rhwystrau y gallen nhw eu hwynebu a sut i oresgyn y rhwystrau hynny.

Amlygu effaith stereoteipio a rhagfarn o safbwynt nodweddion gwarchodedig.

Cynulleidfa darged

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at bob math o staff a gellir ei deilwra’n hawdd i ganolbwyntio mwy ar anghenion staff rheng flaen neu staff uwch. Hefyd, gellir ei addasu i fod yn fwy perthnasol ar gyfer mudiadau trydydd sector sydd ddim yn gweithio’n uniongyrchol ym maes tai.

 

Hyd y cwrs

1/2 diwrnod

Information

Sut i archebu

Os hoffech chi drefnu sesiwn Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Staff neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â helpline@taipawb.org neu ffonio 029 2053 7630.

Adborth gan fynychwyr a sefydliadau:

“R0edd yn agoriad llygad i faterion sefydliadol”

“Llawer i gnoi cil drosto – defnyddiol iawn, diolch!”

“Senarios da! Ffordd dda o arddangos materion penodol”