Ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Tenantiaid

Nod yr hyfforddiant hwn yw rhoi dealltwriaeth gadarn i denantiaid a grwpiau tenantiaid o’r gwahanol fathau o wahaniaethu. Bydd hefyd yn eu gwneud yn ymwybodol o’r rhwystrau cyffredin o ran cydraddoldeb ym maes tai i bobl â nodweddion gwarchodedig.

Bydd yn helpu tenantiaid i ddeall rhwymedigaethau cyfreithiol cymdeithasau tai o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bydd y sesiwn hefyd yn archwilio effaith ac yn codi ymwybyddiaeth o stereoteipio a rhagfarn mewn cysylltiad â nodweddion gwarchodedig.

Amcanion - Bydd y dysgwr yn gallu gwneud y canlynol:

Egluro pam fod cydraddoldeb ym maes tai yn bwysig

Nodi rhwymedigaethau cyfreithiol cymdeithasau tai o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010

Disgrifio pwy sy’n cael eu gwarchod rhag gwahaniaethu a’r ffurfiau gwahanol o wahaniaethu

Adnabod a deall y rhwystrau cyffredin a wynebir gan bobl â nodweddion gwarchodedig wrth geisio defnyddio a derbyn gwasanaethau, megis ym maes tai. Nodi dulliau gweithredu ac arferion da y gellir eu defnyddio i oresgyn y rhwystrau hyn.

Amlygu effaith stereoteipio a rhagfarn o safbwynt nodweddion gwarchodedig.

Cynulleidfa darged

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at denantiaid, defnyddwyr gwasanaethau a grwpiau tenantiaid a thrigolion.

 

Hyd y cwrs

1/2 diwrnod

Information

Sut i archebu

Os hoffech chi drefnu Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Tenantiaid neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â helpline@taipawb.org neu ffonio 029 2053 7630.

Adborth gan fynychwyr a sefydliadau:

“Mae’n braf cael trafodaethau grŵp i drafod y materion”