Cwrs Gloywi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae ein Cwrs Gloywi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth wedi’i lunio i adeiladu ar seiliau ar ein cwrs poblogaidd Ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb ac Amrywiaeth. Lluniwyd y cwrs hwn i loywi sgiliau dysgwyr am y meysydd a drafodwyd yn y cwrs blaenorol, yn ogystal â gweld sut i ddefnyddio’r wybodaeth hon mewn sefyllfaoedd cyffredin yn y sector tai.
Cyflawnir hyn drwy archwilio’r meysydd allweddol sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb ym maes tai: sef addasiadau rhesymol, troseddau casineb, gwrando ar grwpiau amrywiol a defnyddio data i wella gwasanaethau. Fodd bynnag, mae’n bosib y trafodir meysydd eraill hefyd er mwyn sicrhau perthnasedd ar gyfer y grŵp staff sydd dan sylw.
Cynulleidfa darged
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer pob aelod staff, ond mae wedi’i lunio ar gyfer y sawl sydd eisoes wedi cwblhau ein Cwrs Ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Hyd y cwrs
1/2 diwrnod
Sut i archebu
Os hoffech chi drefnu Hyfforddiant Cwrs Gloywi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â helpline@taipawb.org neu ffonio 029 2053 7630.