Datgelu Rhagfarnau Anymwybodol
Mae’r rhaglen hyfforddi undydd rhyngweithiol ac ymarferol hon yn trafod y tueddiadau unigol a diwylliannol sy’n effeithio ar ein perthnasau gwaith. Mae’n caniatáu i bobl, mewn awyrgylch saff, ddeall rhagfarn anymwybodol a datblygu strategaethau personol i sicrhau bod modd rheoli rhagfarn personol yn effeithiol.
Bydd yr hyfforddiant ar ragfarn anymwybodol yn trafod beth yw rhagfarn anymwybodol, mecanweithiau rhagfarn, a sut mae’n gallu sleifio i mewn ac effeithio ar y gweithle. Bydd yn galluogi cyfranogwyr i adnabod ffyrdd o reoli rhagfarn gan unigolion, mewn tîm ac mewn sefydliad er mwyn gwneud penderfyniadau gwell a mwy effeithiol yn y gweithle. Bydd yr hyfforddwr yn gweithio gyda’r cyfranogwyr i sicrhau eu bod yn deall rhagfarn anymwybodol, ac yn datblygu strategaethau i reoli rhagfarnau personol yn effeithiol.
Cynulleidfa darged
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at bob aelod staff. Gellir ei deilwra’n hawdd i ganolbwyntio mwy ar anghenion staff rheng flaen neu staff uwch.
Hyd y cwrs
1/2 diwrnod
Sut i archebu
Os hoffech chi drefnu Hyfforddiant Datgelu Rhagfarnau Anymwybodol ar gyfer Staff, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â helpline@taipawb.org neu ffonio 029 2053 7630.