{"id":26484,"date":"2026-06-25T15:11:54","date_gmt":"2026-06-25T15:11:54","guid":{"rendered":"https:\/\/www.taipawb.org\/network\/caffi-gwneud-nid-dweud\/"},"modified":"2026-07-15T16:10:38","modified_gmt":"2026-07-15T16:10:38","slug":"caffi-gwneud-nid-dweud","status":"publish","type":"network","link":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/network\/caffi-gwneud-nid-dweud\/","title":{"rendered":"Caffi Gwneud nid Dweud"},"content":{"rendered":"<p>Rydyn ni\u2019n falch iawn o\u2019ch croesawu chi\u2019n \u00f4l i Gaffi Gwneud nid Dweud (Boreau Coffi Gwneud nid Dweud gynt) \u2013 man diogel, cefnogol a chyfrinachol sydd wedi\u2019i greu\u2019n benodol ar gyfer cydweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar draws y sector tai.<\/p>\n<p><b>Gwybodaeth am Gaffi Gwneud nid Dweud<\/b><\/p>\n<p>Mae Caffi Gwneud nid Dweud yn gyfarfod anffurfiol sydd wedi\u2019i gynllunio i ddod \u00e2 phobl at ei gilydd i gael sgwrs onest, dysgu ar y cyd, a chefnogi ei gilydd. P&#8217;un a ydych chi\u2019n newydd i Gwneud nid Dweud, neu wedi bod mewn cysylltiad ers y cychwyn cyntaf, mae hwn yn fan lle mae eich profiadau&#8217;n bwysig. <\/p>\n<p>Rydyn ni\u2019n cwrdd tair gwaith y flwyddyn \u2013 mae dyddiadau\u2019r cyfarfodydd yn y dyfodol wedi\u2019u rhestru isod. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal ar-lein, ond bydd y ddau gyfarfod nesaf yn cael eu cynnal mewn lleoliad i\u2019w gadarnhau. <\/p>\n<p>Byddwn yn dechrau drwy ofyn fesul un sut mae pawb, cyn cynnal trafodaeth agored, dan arweiniad, sy\u2019n canolbwyntio ar y pynciau canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Pa heriau ydyn ni\u2019n eu hwynebu ar hyn o bryd?<\/li>\n<li>Pa brofiadau cadarnhaol allwn ni eu dathlu?<\/li>\n<li>Ydy Gwneud nid Dweud wedi cael effaith? Os naddo, pam? <\/li>\n<li>Beth ellir ei wella?<\/li>\n<li>Sut gall y Panel eich cefnogi chi\u2019n well?<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Ein nod yw creu amgylchedd cynnes a chynhwysol lle gall y rhai sy\u2019n bresennol rannu\u2019n agored a theimlo eu bod nhw\u2019n cael eu clywed.<\/p>\n<p><b>Cyfrinachedd<\/b><\/p>\n<p>Mae\u2019r caffi hwn yn fan cyfrinachol, caeedig.<br \/>\nNi fydd unrhyw beth y bydd cyfranogwyr yn ei rannu yn cael ei gofnodi, ei adrodd, na&#8217;i briodoli i unrhyw un. Rydyn ni am i chi deimlo\u2019n ddiogel, eich bod yn cael eich parchu a\u2019ch bod yn gallu siarad yn agored. <\/p>\n<p><b>Pwy all fod yn bresennol?<\/b><\/p>\n<p>Mae\u2019r sesiwn hon yn agored i weithwyr proffesiynol Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy\u2019n gweithio yn y sector tai.<\/p>\n<p>Mae croeso i chi anfon y neges hon ymlaen at bawb a fyddai&#8217;n cael budd o ddod i&#8217;r sesiynau.<\/p>\n<p><b>Dyddiadau wedi&#8217;u cynllunio ar gyfer eleni<\/b><\/p>\n<p>Rydyn ni\u2019n cyfarfod tair gwaith y flwyddyn:<\/p>\n<ul>\n<li>18 Mehefin 2026 \u2013 Ar-lein (MS Teams)<\/li>\n<li>8 Hydref 2026 \u2013 Wyneb yn wyneb, lleoliad i\u2019w gadarnhau<\/li>\n<li>11 Chwefror 2027 \u2013 Wyneb yn wyneb, lleoliad i\u2019w gadarnhau<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"featured_media":26483,"template":"","class_list":["post-26484","network","type-network","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/network\/26484","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/network"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/network"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/26483"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=26484"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}