{"id":17580,"date":"2023-06-06T18:02:54","date_gmt":"2023-06-06T17:02:54","guid":{"rendered":"https:\/\/www.taipawb.org\/?post_type=blog&amp;p=17580"},"modified":"2023-06-06T18:02:54","modified_gmt":"2023-06-06T17:02:54","slug":"dathlu-mis-balchder-taith-bersonol-o-wythlondeb-undod-a-chariad-gan-dai-thomas","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/news\/2023\/dathlu-mis-balchder-taith-bersonol-o-wythlondeb-undod-a-chariad-gan-dai-thomas\/","title":{"rendered":"Dathlu Mis Balchder: Taith Bersonol o Wydnwch, Undod, a Chariad gan Dai Thomas"},"content":{"rendered":"<p><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" class=\" wp-image-17576 alignright\" src=\"https:\/\/www.taipawb.org\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Dai-headshot-600x600.png\" alt=\"\" width=\"296\" height=\"296\" \/><\/p>\n<p><span class=\"lead\">Wrth i ni ddathlu Mis Balchder 2023, mae\u2019n anrhydedd i ni gynnwys blog gwadd gan <strong>Dai Thomas<\/strong>, cydymaith Tai Pawb. Yn y darn hynod bersonol hwn, mae Dai yn rhannu ei stori am ddigwyddiad trawmatig <span class=\"pink\">Balchder 2022 yn Oslo (dolen)<\/span> lle bu saethu torfol gan derfysgwr, collodd dau berson eu bywydau yn drasig a chafodd 22 arall eu hanafu. Darllenwch pam fod Dai yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddigwyddiadau Balchder eleni, yn llawn gobaith, iach\u00e2d, ac ymdeimlad o bwrpas newydd.<\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"alignnone  wp-image-17588\" src=\"https:\/\/www.taipawb.org\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Untitled-design-15-600x600.png\" alt=\"\" width=\"32\" height=\"32\" \/>Byddaf yn dathlu Mis Balchder yn 2023 am nifer o resymau, a hoffwn rannu pam, er ei bod yn bwysig mewn unrhyw flwyddyn, yn 2023 mae yna reswm ychwanegol a phersonol iawn. Ond na\u2019i ddechrau gyda rhai rhesymau cyffredinol.<\/p>\n<p>Mae gwreiddiau Mis Balchder yn Nherfysgoedd Stonewall ym mis Mehefin 1969, a ystyrir yn eang i fod yn ddechreuad i\u2019r hyn sydd, erbyn heddiw, yn fudiad hawliau LHDTCRhA+, ac mae\u2019r mis yn talu teyrnged i&#8217;r hanes hwnw, a dewrder y rhai fu\u2019n ymladd y pryd hyny dros hawliau ac amlygrwydd ein cymuned. Ni ddylem fyth anghofio\u2019r gwreiddiau protestio hynny wrth i ni ddathlu Mis Balchder, ond mae angen i ni hefyd anrhydeddu pob un o&#8217;r hunaniaethau amrywiol yn ein cymuned a&#8217;r llawenydd y gall cymuned hynny ei gynnig.<\/p>\n<p>Mae Mis Balchder yn ein hatgoffa y dylai pawb allu cofleidio\u2019u gwir hunain heb ofn na gwahaniaethu. Does ond rhaid i chi edrych o gwmpas y byd i weld faint o wledydd sydd wedi symud ymlaen o ran hawliau LHDTCRhA+, wrth i eraill llithro\u2019n \u00f4l ar gyflymder brawychus. Dylem ddathlu&#8217;r cyntaf a sefyll yn gadarn yn erbyn yr olaf.<\/p>\n<p>Felly, wrth i ni gofio, anrhydeddu a dathlu, mae gennym hefyd lwyfan ar gyfer eiriolaeth, gan godi ymwybyddiaeth am faterion parhaus fel gwahaniaethu, trais, triniaeth anghyfartal, ac yn cael ein hatgoffa\u2019n bwerus bod y frwydr dros gydraddoldeb a chyfiawnder bell o fod ar ben.<\/p>\n<p>Mae Mis Balchder yn gyfle i addysgu&#8217;r cyhoedd ehangach wrth helpu i chwalu stereoteipiau ac i feithrin empathi a dealltwriaeth. Trwy ddigwyddiadau cyhoeddus, ymgyrchoedd a thrafodaethau, mae Mis Pride yn hyrwyddo deialog ac yn annog unigolion i ddod yn gynghreiriaid yn ein brwydr barhaus dros hawliau LHDTCRhA+. Mae hefyd yn ein hatgoffa ni gyd nad yw&#8217;r frwydr dros hawliau LHDTCRhA+ wedi&#8217;i chyfyngu i ranbarthau penodol. Mae undod yn hanfodol wrth greu newid ar raddfa ehangach.<\/p>\n<p>Felly dyna&#8217;r rhesymau cyffredinol, pob un yn hynod bwysig ond yn wybodaeth am Fis Balchder sydd i&#8217;w gweld ar-lein eisoes mewn cymaint o flogiau ac erthyglau. Ond mae pob cymuned yn cynnwys unigolion, pob un \u00e2&#8217;i stori ei hun, ac felly dyma fy un i, y rhan bersonol o pam mae Mis Balchder eleni yn golygu cymaint i mi.<\/p>\n<p>Dwi\u2019n mynychu tri digwyddiad Balchder ym mis Mehefin a Gorffennaf 2023 \u2013 Cymru, Caerffili ac Oslo. A\u2019r olaf o rheiny sy&#8217;n gwneud Mis Balchder eleni mor bwysig.<\/p>\n<p>Mae gen i ffrindiau agos yn Oslo ac rydw i wedi bod yna sawl gwaith am sawl rheswm &#8211; ymweliadau penwythnos, penblwyddi, priodas a phenwythnosau Balchder blaenorol; mae&#8217;n ddinas hyfryd a chroesawgar. Ond yn anffodus roedd Balchder 2022 yn wahanol iawn. Hwn oedd fy nhro cyntaf yn \u00f4l yno yn gweld fy ffrindiau ers y mis cyn i&#8217;r pandemig daro, ac roeddwn i mor falch o gael eu gweld nhw eto, ac roeddwn yn edrych ymlaen at y daith.<\/p>\n<p>Mae London Pub a C\u00e9sar Bar &amp; Caf\u00e9 naill ochr i gyffordd drionglog eang o nifer o strydoedd yn Oslo. Mae yna arhosfan tramiau, caffis eraill, gwesty, Llys Dosbarth Oslo; mae&#8217;n stryd ddinas nodweddiadol mewn sawl ffordd.<\/p>\n<p>Ar ddydd Gwener, Mehefin 24ain 2022, roedd fy ffrindiau a minnau allan, ac wedi bod allan am oriau, gan ei bod hi&#8217;r noson cyn Dydd Sadwrn Balchder, cyn yr orymdaith enfawr a&#8217;r prif ddigwyddiad. Roedden ni wedi cerdded heibio i London Pub ond heb fynd i mewn, gan i ni weld ei fod yn llawn iawn, felly cerddon ni ar draws yr heol i\u2019r C\u00e9sar Bar &amp; Caf\u00e9.<\/p>\n<p>Tua 1am fe benderfynon ni wneud ein ffordd adref ac felly roedden ni&#8217;n sefyll ar y sgw\u00e2r ger y arhosfan tramiau yn aros am dacsi. Gyferbyn \u00e2 ni, roedd pobl yn bwyta ac yn yfed yn ardal allanol bwyty a thafarn Per p\u00e5 Hj\u00f8rnet. Yna\u2019n sydyn clywsom bobl yn gweiddi a s\u0175n fel t\u00e2n gwyllt bach. Roedden ni&#8217;n meddwl mai bach o hwyl Balchder oedd hyn, nes i un o&#8217;m ffrindiau weiddi mewn sioc mai dryll oedd.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n si\u0175r mai dim ond eiliadau y cymerodd y rhan nesaf, ond gallaf gofio o hyd y sgwrs fewnol, hir (ac i ddweud y gwir bach yn chwerthinllyd) a gefais i, am sut na allai hyn fod yn ddryll o gwbl, achos nid yw drylliau\u2019n swnio fel hynny mewn ffilmiau ac ar y teledu, mae nhw\u2019n swnio\u2019n llawer yn uwch ac yn ddyfnach na\u2019r clecian roeddwn i\u2019n gallu clywed; rhaid mai t\u00e2n gwyllt bach oedd y rhain. Dwi\u2019n gallu cofio teimlo bach fel fy mod wedi datod o realiti, am beth oedd yn teimlo fel amser hir, cyn i reddf goroesi gymryd drosodd a chael fy ymennydd i ofyn pam ar wyneb y ddaear oeddwn i&#8217;n sefyll yna\u2019n meddwl am effeithiau sain ac nid yn rhedeg i ffwrdd.<\/p>\n<p>Felly wnaethon ni redeg lawr stryd ochr ac i fyny stepiau i geisio rhoi pellter a chorneli rhyngom ni a beth oedd yn digwydd, y synau&#8217;n atseinio o bob cyfeiriad oherwydd eu bod yn bownsio oddi ar yr adeiladau cyfagos. Mae&#8217;n deimlad iasol, yn meddwl tybed a fyddwch yn teimlo ergyd yn eich cefn ond eto, roeddwn i&#8217;n dal i deimlo ar wah\u00e2n i bethau, hyd yn oed wrth i mi redeg.<\/p>\n<p>Wrth gwrs, roedden ni mor lwcus, ond doedd llawer ddim. Lladdwyd dau ac anafwyd llawer mwy o bobl, a newidiwyd eu teuluoedd am byth.<\/p>\n<p>Roedd fy mhartner gartref yng Nghymru ac yn y gwely, ac o ystyried yr amser o&#8217;r nos, byddai&#8217;r rhan fwyaf o fy nheulu a ffrindiau wedi bod yn cysgu hefyd. Ond gwelodd tri a oedd dal ar ddihun fy neges ddryslyd ar-lein, fy mod i a fy ffrindiau yn iawn, ac roedd eu cyswllt a&#8217;u cefnogaeth yn meddwl y byd i fi. Fel oedd cefnogaeth y ffrindiau yr oeddwn gyda nhw yn Oslo, ar y noson honno ac am weddill y penwythnos. Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod niwlog mewn ffordd, llawn dagrau bob hyn a hyn, galwadau ff\u00f4n oedd mawr eu hangen gyda fy mhartner a lot fawr o yfed.<\/p>\n<p>Hedfanais adref ar y dydd Llun, gyrrais adref o Heathrow, ac yna dechreuais feichio wylo pan oeddwn yn gyrru ar draws y l\u00f4n gefn o&#8217;r diwedd a gweld drysau&#8217;r garej a chefn y t\u0177. Doeddwn i ddim yn gallu edrych ym myw llygaid fy mhartner pan es i mewn, rhag ofn i fi dorri\u2019n llwyr. Ond roeddwn i adref.<\/p>\n<p>Na\u2019i orffen gydag atgof o&#8217;r dydd Sul hwnnw yn Oslo. Aethon ni&#8217;n \u00f4l i&#8217;r union fan, roedden ni&#8217;n gwybod bod yn rhaid i ni wneud; erbyn hynny roedd y stryd wedi&#8217;i gorchuddio \u00e2 blodau a baneri\u2019r enfys ac roedd cymaint o ddagrau gan bawb oedd yn sefyll yno, lot gen i hefyd. Roedd yn foment ar y cyd o gydnabod y sioc a\u2019r galar, ond hefyd yn foment hynod bwysig o undod ar y cyd.<\/p>\n<p>Dyma&#8217;r llun wnes i dynnu o London Pub y dydd Sul hwnnw, o&#8217;r tu \u00f4l i gadwyn yr heddlu.<img decoding=\"async\" class=\" wp-image-17578 alignright\" src=\"https:\/\/www.taipawb.org\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/dai-pride-oslo-600x409.jpg\" alt=\"\" width=\"497\" height=\"339\" \/><\/p>\n<p>Balchder Hapus a thyllau\u2019r bwledi.<\/p>\n<p>Felly dyna pam y byddaf yn dathlu Mis Balchder eleni, hyd yn oed yn fwy na&#8217;r arfer, ac yn annog eraill i wneud yr un peth.<\/p>\n<p>Oherwydd er gwaethaf y math o gasineb a arweiniodd at y noson honno, er gwaethaf yr holl frwydro, mae&#8217;n rhaid i ni gofio a dal i gredu bod cariad yn ennill, bod cariad bob amser yn ennill.<\/p>\n<p><span class=\"lead\">Dai Thomas<\/span><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth i ni ddathlu Mis Balchder 2023, mae\u2019n anrhydedd i ni gynnwys blog gwadd gan Dai Thomas, cydymaith Tai Pawb. Yn y darn hynod bersonol hwn, mae Dai yn rhannu ei stori am ddigwyddiad trawmatig Balchder 2022 yn Oslo (dolen) lle bu saethu torfol gan derfysgwr, collodd dau berson eu bywydau yn drasig a chafodd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":12,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"temporary-categorisation-from-im":[115],"class_list":["post-17580","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized","temporary-categorisation-from-im-blog"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/17580","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/12"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=17580"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/17580\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=17580"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=17580"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=17580"},{"taxonomy":"temporary-categorisation-from-im","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/temporary-categorisation-from-im?post=17580"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}