{"id":22676,"date":"2016-12-07T10:34:44","date_gmt":"2016-12-07T10:34:44","guid":{"rendered":"http:\/\/www.taipawb.org\/news\/coming-soon-brand-new-equality-diversity-mark-tai-pawb\/?lang=cy"},"modified":"2016-12-07T10:34:44","modified_gmt":"2016-12-07T10:34:44","slug":"yn-dod-yn-fuan-marc-cydraddoldeb-ac-amrywiaeth-newydd-sbon-gan-tai-pawb","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/news\/2016\/yn-dod-yn-fuan-marc-cydraddoldeb-ac-amrywiaeth-newydd-sbon-gan-tai-pawb\/","title":{"rendered":"Yn dod yn fuan \u2013 Marc Cydraddoldeb ac Amrywiaeth newydd sbon gan Tai Pawb"},"content":{"rendered":"<p><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" id=\"longdesc-return-3417\" class=\" wp-image-3417 alignleft\" tabindex=\"-1\" src=\"http:\/\/www.taipawb.org\/wp-content\/uploads\/2016\/11\/OK-sign.png\" alt=\"Quality Hand Sign \" width=\"266\" height=\"334\" longdesc=\"http:\/\/www.taipawb.org?longdesc=3417&amp;referrer=3416\" srcset=\"https:\/\/www.taipawb.org\/wp-content\/uploads\/2016\/11\/OK-sign.png 252w, https:\/\/www.taipawb.org\/wp-content\/uploads\/2016\/11\/OK-sign-239x300.png 239w\" sizes=\"(max-width: 266px) 100vw, 266px\" \/><\/p>\n<p>\u201cSut beth yw da?\u201d<\/p>\n<p>Dyna\u2019r cwestiwn gan ein haelodau pan maent yn gweld bod angen gwneud mwy ym maes Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae Tai Pawb yn credu\u2019n gryf bod darparwyr tai yng Nghymru yn arwain y ffordd o ran eu hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Ond, nid yw\u2019n faes hawdd i fynd i\u2019r afael ag ef, yn enwedig heb ffordd gyson o fesur ymrwymiadau yn erbyn realaeth a heb ffordd o fesur cynnydd. Yn sicr mae awydd ymysg ein haelodau i wella eu gwasanaethau, dileu rhwystrau a diwallu anghenion cwsmeriaid amrywiol.<\/p>\n<p>Y newyddion da yw ein bod ni wedi gwrando ar yr hyn sy\u2019n cael ei ddweud ac rydym wrthi\u2019n datblygu Marc Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Tai Pawb newydd sbon (dylid nodi mai teitl dros dro yw\u2019r enw hwn).<\/p>\n<p>Er ein bod yn dal i berffeithio diwyg y marc, gallwn ddweud y bydd ar flaen y gad o ran datblygiadau diweddaraf ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth. Bydd yn cynnig cyfle go iawn i ddangos cynnydd ac yn trawsnewid ffyrdd o feddwl, gwasanaethau a diwylliannau sefydliadol.<br \/>\nBydd y marc yn darparu set o ganlyniadau a safonau y gellir asesu sefydliadau yn eu herbyn er mwyn gweld sut maent yn perfformio ym maes Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Bydd yn:<br \/>\n\u2022 Gosod y safon<br \/>\n\u2022 Gwella profiadau tenantiaid, cwsmeriaid a staff amrywiol<br \/>\n\u2022 Darparu fframwaith i sefydliadau ar gyfer gwaith cydraddoldeb ac amrywiaeth<br \/>\n\u2022 Cynnig cyfle i ennyn egni a ffocws staff ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth<\/p>\n<p>Er mwyn i&#8217;r marc fod yn drawsnewidiol a chreu newid cadarnhaol a gwirioneddol mewn sefydliadau, roedd yn hanfodol i ni nad yw\u2019n ymarfer ticio\u2019r blwch nac wedi\u2019i ffocysu ar gydymffurfio\u2019n unig. Dyna pam bod yr asesiad rydyn ni\u2019n bwriadu ei ddefnyddio yn heriol ond nid yn feichus, a bydd Tai Pawb yno i\u2019ch cynorthwyo yn ystod pob cam. (Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses rydyn ni\u2019n bwriadu ei defnyddio isod).<\/p>\n<p>Rydyn ni wedi bod yn gweithio\u2019n agos gyda Melin Homes i gynnal archwiliad ar y fframwaith y byddwn yn ei defnyddio, ac wedi ymgynghori \u00e2&#8217;r sector ehangach. Mae yna eisoes lawer iawn o ddiddordeb ac agweddau cadarnhaol ynghylch y marc. Rydyn ni hefyd wedi bod yn gweithio\u2019n agos gyda Th\u00eem Rheoleiddio Tai Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y marc yn diwallu eu gofynion rheoleiddio sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 chydraddoldeb ac amrywiaeth, ac i wneud yn si\u0175r bod modd ei ddefnyddio fel tystiolaeth ar gyfer asesiadau.<\/p>\n<p><strong>Cwestiynau Cyffredin<\/strong><\/p>\n<p><strong>Sut fydd y broses yn edrych?<\/strong><br \/>\nBydd Cam 1 y broses o sefydlu\u2019r marc yn cynnwys holiaduron, adolygiadau bwrdd gwaith, grwpiau ffocws a chyfweliadau \u00e2 staff a thenantiaid sydd wedi\u2019u ffocysu ar ganlyniadau a safonau\u2019r fframwaith. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni lenwi unrhyw fylchau a chanfod meysydd o arferion da. Yn dilyn y cam hwn, byddwn yn eich cynorthwyo i ddatblygu cynllun gweithredu i roi sylw i unrhyw fylchau. Bydd sefydliadau yn cael amser i wella unrhyw feysydd lle bydd bylchau wedi\u2019u canfod a bydd Cam 2 yn cynnwys adolygiad o\u2019r cynnydd (lle bydd y marc, gobeithio, yn cael ei dyfarnu).<\/p>\n<p><strong>Faint fydd hyn yn ei gostio?<\/strong><br \/>\nBydd y marc yn costio tua \u00a35,000. Bydd y gost yn cael ei rhannu, gyda 70% yn cael ei dalu yng Ngham 1 a 30% yn cael ei dalu yng Ngham 2. Yn ymarferol, efallai y bydd y costau\u2019n cael eu rhannu rhwng dwy flynedd ariannol.<\/p>\n<p><strong>Beth yw manteision y marc Cydraddoldeb ac Amrywiaeth?<\/strong><br \/>\nI gyrraedd y marc, bydd eich sefydliad yn sicrhau bod ei wasanaethau yn deg a chyfiawn, a bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu prif ffrydio drwy bob lefel o\u2019r busnes; o staff rheng flaen i\u2019r bwrdd. Bydd gennych hefyd gynllun clir o\u2019r hyn sydd angen i\u2019ch sefydliad ei wneud i wella ei wasanaethau a\u2019i ddiwylliant yn barhaus mewn perthynas \u00e2 chydraddoldeb ac amrywiaeth.<br \/>\nMantais ychwanegol cyflawni\u2019r marc yw y bydd yn gyson \u00e2\u2019r gofynion rheoleiddio o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth ac y gellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth ar gyfer asesiadau rheoleiddio, am fod y rheoleiddiwr yn fodlon cydnabod y marc yn y ffordd hon.<\/p>\n<p><strong>Am ba hyd fydd y marc yn ddilys?<\/strong><br \/>\nAr hyn o bryd mae\u2019n debygol y bydd y marc yn ddilys am ddwy i dair blynedd.<br \/>\nA fydd gwahanol lefelau neu dim ond un safon?<br \/>\nUn lefel yn unig fydd ar gael, ond gallwn ddatblygu mwy o lefelau yn y dyfodol.<\/p>\n<p><strong>Pa feysydd fydd y canlyniadau\u2019n ymwneud \u00e2 nhw?<\/strong><br \/>\nY canlyniadau yw:<br \/>\n1.Defnyddio dull strategol clir i sicrhau cydraddoldeb ym mhob rhan o waith y sefydliad<br \/>\n2.Darparu gwasanaethau teg, sydd ddim yn gwahaniaethu ac sy\u2019n diwallu anghenion pobl, gan ymateb yn barhaus i newidiadau a heriau wrth iddynt ddatblygu.<br \/>\n3. Bydd yr holl bobl yn ymwybodol o\u2019r gwasanaethau sy\u2019n cael eu darparu, bydd ganddynt fynediad atynt a phrofiadau cadarnhaol ohonynt.<br \/>\n4. O ganlyniad i\u2019r ymgysylltu, bydd y sefydliad yn un tecach ac yn fwy ymatebol o ran sut mae\u2019n gweithio a&#8217;r hyn mae\u2019n ei wneud.<br \/>\n5.Bydd yn weithle cynhwysol sydd \u00e2 diwylliant sefydliadol sy\u2019n hyrwyddo, yn croesawu ac yn rhoi gwerth ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u201cSut beth yw da?\u201d Dyna\u2019r cwestiwn gan ein haelodau pan maent yn gweld bod angen gwneud mwy ym maes Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae Tai Pawb yn credu\u2019n gryf bod darparwyr tai yng Nghymru yn arwain y ffordd o ran eu hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Ond, nid yw\u2019n faes hawdd i fynd i\u2019r afael ag [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":12,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[119,117],"tags":[],"temporary-categorisation-from-im":[114],"class_list":["post-22676","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-leadership","category-resources","temporary-categorisation-from-im-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/22676","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/12"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=22676"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/22676\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22676"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=22676"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22676"},{"taxonomy":"temporary-categorisation-from-im","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/temporary-categorisation-from-im?post=22676"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}