{"id":22683,"date":"2017-12-14T08:39:27","date_gmt":"2017-12-14T08:39:27","guid":{"rendered":"http:\/\/www.taipawb.org\/?post_type=news&amp;p=5641"},"modified":"2017-12-14T08:39:27","modified_gmt":"2017-12-14T08:39:27","slug":"cyllid-newydd-gan-ehrc-ar-gyfer-pecyn-cymorth-tai-hygyrch","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/news\/2017\/cyllid-newydd-gan-ehrc-ar-gyfer-pecyn-cymorth-tai-hygyrch\/","title":{"rendered":"Cyllid newydd gan EHRC ar gyfer Pecyn Cymorth Tai Hygyrch"},"content":{"rendered":"<p><span class=\"lead\">Mae Tai Pawb, mewn partneriaeth ag Access Design Solutions, wedi\u2019i gomisiynu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Equality and Human Rights Commission\/EHRC) i ddatblygu pecyn cymorth ar gyfer Cynghorwyr lleol yng Nghymru a fydd yn hybu dealltwriaeth ynghylch anghenion tai pobl anabl a darpariaeth tai hygyrch.<br \/>\n<\/span><\/p>\n<p>Bydd y pecyn cymorth yn cefnogi aelodau etholedig wrth eu gwaith, ac yn eu symbylu i drafod dogfennau cynllunio strategol a pholis\u00efau tai eraill i sicrhau bod anghenion pobl anabl yn cael eu hystyried o\u2019r camau cynharaf.<\/p>\n<p>Bydd yn cynnwys gwybodaeth am ofynion Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus; yr angen i ymgorffori ystyriaethau ynghylch anabledd a thai mewn cynllunio strategol; astudiaethau achos ar arfer gorau; a chyngor ymarferol ar gydymffurfiad cyfreithiol.<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-5605\" src=\"http:\/\/www.taipawb.org\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/EHRC-600x300.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"150\" \/><\/p>\n<p>Bydd y pecyn cymorth yn cael ei ddatblygu drwy weithio\u2019n agos gyda Chynghorwyr, awdurdodau lleol ac aelodau Tai Pawb i adolygu polis\u00efau cyfredol, prosesau datblygiad strategol, ac i asesu\u2019r ddealltwriaeth bresennol ar y pwnc. Trwy weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, bydd y pecyn cymorth yn rhoi ystyriaeth i\u2019r lleihad yng nghyllidebau awdurdodau lleol.<\/p>\n<p>Bwysicaf oll, bydd Tai Pawb hefyd yn gweithio gyda phobl anabl i sicrhau y caiff eu lleisiau eu clywed a bod y pecyn cymorth yn cael ei lywio gan eu profiadau nhw.<\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2021, gydag disgwyl i 13,000 o\u2019r cyfanswm hwn gael ei gyflenwi gan gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol. Bydd y pecyn cymorth yn chwarae r\u00f4l hollbwysig mewn llywio penderfyniadau fel bod nifer briodol o\u2019r cartrefi newydd hyn yn hygyrch ac yn diwallu anghenion pobl anabl yn lleol.<\/p>\n<p>Bydd Tai Pawb yn defnyddio ei sefyllfa unigryw fel y mudiad arweiniol ar gydraddoldeb yn y maes tai yng Nghymru i ddatblygu\u2019r adnodd hon ar gyfer EHRC.<\/p>\n<p>Mae Access Design Solutions yn ymgynghorwyr gyda phrofiad rhyngwladol, sy\u2019n cyfuno profiad helaeth gydag anghenion mynediad a symudedd pobl anabl a phobl h\u0177n gyda medrau cynllunio ac asesu amgylcheddol proffesiynol, i ddarparu atebion dylunio a rheoli sy\u2019n gyraeddadwy ac yn ymarferol.<\/p>\n<p>Meddai Cyfarwyddwr Tai Pawb, Alicja Zalesinska:<\/p>\n<blockquote><p>Deallwn fod gwaith anodd yn wynebu Cynghorwyr wrth gydbwyso anghenion pawb yn eu ward, ac nid oes modd iddyn nhw fod yn arbenigwyr ym mhob maes. Gobeithiwn y bydd y pecyn cymorth EHRC newydd hwn yn caniat\u00e1u iddyn nhw wneud penderfyniadau mwy gwybodus a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl anabl.<\/p>\n<p>Mae gan bobl anabl hawl i dai diogel, o ansawdd da a gwyddom y gall hyn arwain at welliannau ym mron iawn i bob agwedd o fywyd unigolyn, drwy wella llesiant a hybu annibyniaeth.<\/p><\/blockquote>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Tai Pawb, mewn partneriaeth ag Access Design Solutions, wedi\u2019i gomisiynu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Equality and Human Rights Commission\/EHRC) i ddatblygu pecyn cymorth ar gyfer Cynghorwyr lleol yng Nghymru a fydd yn hybu dealltwriaeth ynghylch anghenion tai pobl anabl a darpariaeth tai hygyrch. Bydd y pecyn cymorth yn cefnogi aelodau etholedig [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":12,"featured_media":22261,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[124],"tags":[],"temporary-categorisation-from-im":[114],"class_list":["post-22683","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-projects","temporary-categorisation-from-im-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/22683","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/12"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=22683"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/22683\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/22261"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22683"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=22683"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22683"},{"taxonomy":"temporary-categorisation-from-im","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/temporary-categorisation-from-im?post=22683"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}