{"id":22687,"date":"2016-04-18T15:51:25","date_gmt":"2016-04-18T14:51:25","guid":{"rendered":"http:\/\/taipawborg.creo.co.uk\/blog\/blog-item-1\/?lang=cy"},"modified":"2016-04-18T15:51:25","modified_gmt":"2016-04-18T14:51:25","slug":"blog-item-1-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/news\/2016\/blog-item-1-2\/","title":{"rendered":"Cysylltiadau cymunedol a\u2019r cynnydd mewn digwyddiadau hiliol yn dilyn Refferendwm yr UE"},"content":{"rendered":"<p><span class=\"lead\"> Yma yn Tai Pawb rydym yn credu\u2019n gryf bod ein haelodau yng Nghymru\u2019n arwain y ffordd yn eu hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chyfiawnder cymdeithasol. Mae gan fudiadau tai cymdeithasol hanes hir o groesawu pobl, ac o gefnogi a dathlu amrywiaeth eu tenantiaid.<\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Yn anffodus, mae naws y ddadl ar refferendwm yr UE wedi gwneud i lawer o gymunedau mewnfudwyr a lleiafrifoedd ethnig deimlo\u2019n anghyfforddus ac mae wedi arwain at gynnydd mewn achosion o gam-drin hiliol. Yn ystod y misoedd diwethaf rwyf wedi gwerthfawrogi\u2019n fawr y negeseuon niferus a diffuant o groeso a\u2019r cymorth a gefais gan gydweithwyr, ffrindiau, teulu a chymdogion, ac rwyf yn si\u0175r bod y cymunedau rydych yn gweithio \u00e2 hwy\u2019n teimlo\u2019r un fath.<\/p>\n<p>Gwyddom fod y rhan fwyaf o ddigwyddiadau casineb yng Nghymru\u2019n digwydd yn agos at gartrefi pobl ac nad yw\u2019r rhan fwyaf ohonynt (tua 70 y cant) yn cael eu hysbysu i\u2019r awdurdodau. Rwyf yn si\u0175r y byddwch yn ystod yr amser anodd hwn yn gwneud popeth o fewn eich gallu i roi tawelwch meddwl i denantiaid a chymunedau o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a mewnfudwyr ac yn gwneud iddynt sylweddoli bod croeso iddynt yma ac y byddant yn cael pob help os byddant yn profi unrhyw gamdriniaeth hiliol, aflonyddwch neu fygythiadau. Mae hyn yr un mor bwysig mewn ardaloedd \u00e2 lefelau uchel ac isel o amrywiaeth lle gall cymunedau deimlo\u2019n fwy ynysig.<\/p>\n<p>Roeddwn mor falch o weld datganiadau gan ein haelodau sy\u2019n cadarnhau hynny:\u00a0<a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/TaffHousing\/posts\/999839210084765\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><span style=\"color: #ac1250;\">Cymdeithas Tai Taf<\/span><\/a>,\u00a0<a href=\"http:\/\/www.cadwyn.co.uk\/cadwyn-news\/cadwynstatementbrexit\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><span style=\"color: #ac1250;\">Cymdeithas Tai Cadwyn<\/span><\/a>,\u00a0<span style=\"color: #ac1250;\">Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd (CCHA)<\/span>,\u00a0<a href=\"http:\/\/www.cynon-taf.org.uk\/news\/increase-in-reports-of-hate-crime-following-eu-referendum\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><span style=\"color: #ac1250;\">Gr\u0175p Cartrefu Cymunedol Cynon Taf<\/span><\/a>\u00a0a llawer mwy. Yn fy marn i mae\u2019r digwyddiadau hiliol hyn yn cael eu hachosi gan leiafrif bychan o bobl sy\u2019n credu bod canlyniadau\u2019r bleidlais yn cyfiawnhau eu hymddygiad, ond mae gennym ni i gyd, staff a thenantiaid, ran i\u2019w chwarae i herio hyn.<\/p>\n<p>Wrth edrych ar gyd-destun canlyniadau refferendwm yr UE a phwysigrwydd ymgysylltu \u00e2 chymunedau ar draws rhaniadau hil, cenedligrwydd, oedran a dosbarth cymdeithasol, rwy\u2019n credu ei bod yn hynod bwysig hefyd ein bod yn meddwl am r\u00f4l landlordiaid cymdeithasol a phartneriaid i godi pontydd ar draws y rhaniadau hyn yn y tymor hir er mwyn gwella cysylltiadau cymunedol. Roedd y prif weinidog yn llygad ei le pan ddywedodd, \u201cmae angen inni ddod o hyd i ffordd o siarad \u00e2\u2019n gilydd unwaith eto \u2013 efallai ein bod wedi pleidleisio mewn ffordd wahanol, ond rydym yn parhau i fod yn gymdogion, ffrindiau a theulu.\u201d<\/p>\n<p>Ym mis Awst, buom yn cynnal seminar ar thema\u00a0<a href=\"http:\/\/www.taipawb.org\/news\/migrants-refugees-community-cohesion-event\/\"><span style=\"color: #ac1250;\">Mewnfudwyr, Ffoaduriaid a Chysylltiadau Cymunedol<\/span><\/a>, i drafod y pwnc pwysig hwn ag aelodau, i rannu arferion gorau ac i ystyried y camau nesaf.<\/p>\n<p>Os bydd angen rhagor o help arnoch i ddelio ag achosion o ddigwyddiadau casineb, gallwch ddefnyddio <a href=\"http:\/\/gov.wales\/topics\/housing-and-regeneration\/services-and-support\/managing-social-housing\/anti-social-behaviour\/publications\/hate-crime-toolkit\/?lang=en\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><span style=\"color: #ac1250;\">pecyn cymorth troseddau casineb<\/span><\/a> Tai Pawb a Llywodraeth Cymru, sy\u2019n cynnwys arferion da a rhestrau gwirio i adolygu eich arferion gweithio a\u2019ch polis\u00efau. Mae gennym hefyd <a href=\"http:\/\/eepurl.com\/b7Ny8H\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><span style=\"color: #ac1250;\">gwrs hyfforddi troseddau casineb<\/span><\/a>, ac efallai yr hoffech fanteisio arno.<\/p>\n<p>Gadewch i ni i gyd gydnabod y cryfder sy\u2019n dod yn sgil ein hamrywiaeth a\u2019r r\u00f4l mae\u2019n ei chwarae i wneud Cymru\u2019n lle gwell i fyw.<\/p>\n<p>Alicja Zalesinska<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yma yn Tai Pawb rydym yn credu\u2019n gryf bod ein haelodau yng Nghymru\u2019n arwain y ffordd yn eu hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chyfiawnder cymdeithasol. Mae gan fudiadau tai cymdeithasol hanes hir o groesawu pobl, ac o gefnogi a dathlu amrywiaeth eu tenantiaid. &nbsp; Yn anffodus, mae naws y ddadl ar refferendwm yr UE wedi [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":12,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[120,121],"tags":[],"temporary-categorisation-from-im":[115],"class_list":["post-22687","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-legislation","category-policy","temporary-categorisation-from-im-blog"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/22687","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/12"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=22687"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/22687\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22687"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=22687"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22687"},{"taxonomy":"temporary-categorisation-from-im","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/temporary-categorisation-from-im?post=22687"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}