{"id":22692,"date":"2016-12-05T11:11:16","date_gmt":"2016-12-05T11:11:16","guid":{"rendered":"http:\/\/www.taipawb.org\/?post_type=blog&amp;p=3517&amp;lang=cy"},"modified":"2016-12-05T11:11:16","modified_gmt":"2016-12-05T11:11:16","slug":"astudiaeth-achos-proffil-cwsmeriaid-ac-asesiadau-o-effaith-ar-gydraddoldeb-yng-nghymdeithas-tai-sir-fynwy","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/news\/2016\/astudiaeth-achos-proffil-cwsmeriaid-ac-asesiadau-o-effaith-ar-gydraddoldeb-yng-nghymdeithas-tai-sir-fynwy\/","title":{"rendered":"Astudiaeth Achos: Proffil cwsmeriaid ac asesiadau o effaith ar gydraddoldeb yng nghymdeithas Tai Sir Fynwy"},"content":{"rendered":"<p><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-3516 alignright\" src=\"http:\/\/www.taipawb.org\/wp-content\/uploads\/2016\/11\/data-1-600x398.jpg\" alt=\"data\" width=\"415\" height=\"275\" \/><\/p>\n<p><span class=\"lead\">Chris York, Swyddog Polisi a Chynlluniau Newydd yng nghymdeithas Tai Sir Fynwy yn pwyso a mesur gwaith y gymdeithas ar yr asesiadau o effaith ar gydraddoldeb a defnyddio data cwsmeriaid i ennyn newid go iawn.<\/span><\/p>\n<p>Ers cychwyn gyda Chymdeithas Tai Sir Fynwy sawl blwyddyn yn \u00f4l, rwyf wedi bod yn gyfrifol am arwain y gwaith o wella\u2019r ffordd rydym yn cynnal yr asesiadau o effaith ar gydraddoldeb.<\/p>\n<p>Yn 2014 cynhaliwyd dau asesiad mawr o effaith ar gydraddoldeb: ymddygiad gwrthgymdeithasol a rheoli tenantiaid. Yn 2015 aethom ati hefyd i gwblhau asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar gyfer ein gwasanaeth rheoli \u00f4l-ddyledion rhent. Ar hyn o bryd, rydym wrthi\u2019n cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb fel rhan o adolygiad o\u2019n gwasanaethau cynnwys tenantiaid.<\/p>\n<p>Yn 2014 aethom ati hefyd i lunio ein gweithdrefn ein hunain ar gyfer asesiad o effaith ar gydraddoldeb gyda chymorth Tai Pawb, gan deilwra ein dull gweithredu i weddu i gymdeithas Tai Sir Fynwy ac adlewyrchu proffil ein cwsmeriaid. Mae&#8217;r weithdrefn yn cynnwys cyngor ymarferol a syml i bob aelod o staff sy\u2019n cynnal asesiadau.<\/p>\n<p>Yn dilyn hynny, rydym wedi cael adborth da gan Tai Pawb a Llywodraeth Cymru ynghylch ein ffordd o gynnal asesiadau o effaith ar gydraddoldeb.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h3><strong>Rhai pethau i feddwl amdanynt, a all daro tant:<\/strong><\/h3>\n<ul>\n<li>Rydym yn gweld asesiadau o effaith ar gydraddoldeb fel ffordd strwythuredig o adolygu data ar gydraddoldeb, a fydd yn helpu Cymdeithas Tai Sir Fynwy i wneud penderfyniadau gwell. Y nod yw creu gwell canlyniadau i gwsmeriaid a hefyd ein helpu ni i sicrhau nad yw&#8217;r hyn a wnawn yn gwahaniaethu nac yn creu anfantais yn anfwriadol i grwpiau penodol o bobl. Y gwir amdani yw ein bod yn cynnal asesiadau o effaith ar gydraddoldeb am resymau penodol! Maent yn ymwneud \u00e2\u2019n datganiad o genhadaeth, ein gweledigaeth a\u2019n nodau a\u2019n gwerthoedd. Maent hefyd yn effeithio\u2019n uniongyrchol ar ddatblygiad ein polis\u00efau. Rydym mewn sefyllfa erbyn hyn lle mae&#8217;r asesiadau\u2019n rhoi cryn syniad i ni, sy\u2019n fuddiol dros ben, ac maent yn rhan annatod erbyn hyn o\u2019r adolygiadau o\u2019r gwasanaeth.<\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li>Yn gyffredinol, i\u2019n helpu i benderfynu pa bryd i gynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i feysydd gwasanaeth sy\u2019n allweddol i gyflawni ein nodau a\u2019n gwerthoedd. Hefyd, mewn sefyllfaoedd lle gallai&#8217;r gwasanaethau gael eu dileu neu eu newid yn sylweddol ac y gallai hyn gael effaith andwyol anghymesur nad oes modd ei chyfiawnhau ar rai staff, defnyddwyr gwasanaethau a\/neu&#8217;r cymunedau y maent yn gweithio ynddynt.<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h3><strong>Un o\u2019n prif gryfderau yw casglu data:<\/strong><\/h3>\n<p>Mae gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy raglen dreigl i gasglu gwybodaeth am gartrefi. Gallwn ddefnyddio ein gwybodaeth ym mhroffil tenantiaid fel oed, rhyw, ethnigrwydd ac ati a chysylltu&#8217;r wybodaeth honno \u00e2 maes sy\u2019n cael ei adolygu fel adennill \u00f4l-ddyledion rhent. Mae cael y data a\u2019r meddalwedd i gyflawni hynny yn bwysig iawn i ni.<\/p>\n<p>Mae\u2019n hawdd i ni drosglwyddo\u2019r wybodaeth hon i daenlen a chyfatebu pob un o\u2019n tenantiaid a deiliaid gyda data cydraddoldeb, a&#8217;r data yn cael ei osod mewn rhesi ar wah\u00e2n. Felly, gan ddefnyddio asesiad o effaith ar gydraddoldeb yng nghyd-destun rhent fel enghraifft, aethom ati i osod data am nodweddion gwarchodedig e.e. oed, rhyw, ethnigrwydd, mewn rhesi a chymharu hynny \u00e2 gwybodaeth am rent mewn mwy nag un golofn e.e. y ganran sydd ag \u00f4l-ddyledion, cyfartaledd yr \u00f4l-ddyledion, hysbysiadau sydd wedi\u2019u cyflwyno, gorchmynion llys yn ystod tenantiaeth ac yn y blaen. Roedd y dull syml hwn yn effeithiol dros ben ac wedi ein helpu ni i ddeall y gwasanaeth a\u2019i effaith ar fathau penodol o gartrefi.<\/p>\n<p>Rydym hefyd wedi defnyddio data arall i\u2019n helpu i wella asesiadau. Mae ffynonellau eraill yn cynnwys y canlynol: gwybodaeth am gwynion ac arolygon boddhad (gallwn gysylltu\u2019r rhain \u00e2 data cydraddoldeb hefyd); gwybodaeth gan grwpiau cynnwys tenantiaid; grwpiau ffocws; adborth gan staff sy\u2019n darparu gwasanaeth; data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol; data Cyfrifiad 2011; ymchwil sydd wedi\u2019i chyhoeddi; data\u2019r heddlu a data gan sefydliadau cynrychioladol. I ni, mae unrhyw ddata y gellir ei gysylltu \u00e2 defnyddwyr gwasanaeth yn wybodaeth allweddol i\u2019w defnyddio mewn asesiad o effaith ar gydraddoldeb.<\/p>\n<h3><strong>Rhoi cipolwg o\u2019r sefyllfa i gydweithwyr y gallant ei ddefnyddio:<\/strong><\/h3>\n<p>Rydym yn gwybod o\u2019r adolygiad o \u00f4l-ddyledion rhent fod mwy o duedd i denantiaid sydd \u00e2 nodweddion penodol fod ag \u00f4l-ddyledion, sef: mamau beichiog, tenantiaid iau, pobl sydd \u00e2 phroblemau iechyd meddwl, problemau alcohol a chamddefnyddio sylweddau neu unigolion nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Mae\u2019r cipolwg hwn yn dangos y meysydd i ni ganolbwyntio arnynt wrth symud ymlaen.<\/p>\n<h3><strong>Gwerthuso\u2019r effaith:<\/strong><\/h3>\n<p>Dyma&#8217;r maes nesaf i ni ei wella. Y bwriad yw cynnal asesiadau pellach o effaith ar gydraddoldeb mewn rhaglen dreigl, i asesu effaith y newidiadau rydym wedi&#8217;u gwneud.<\/p>\n<h3><strong>Goresgyn rhwystrau:<\/strong><\/h3>\n<ul>\n<li>Rwy\u2019n meddwl ei bod yn fuddiol cael o leiaf un person mewn sefydliad sy\u2019n meithrin arbenigedd i gynnal yr asesiadau o effaith ar gydraddoldeb.<\/li>\n<li>Rhaid i\u2019r person hwnnw fod wedi cael hyfforddiant perthnasol cyn iddo gychwyn ei asesiad cyntaf.<\/li>\n<li>Mae\u2019n rhaid cael y data diweddaraf sydd o safon dda i gychwyn asesiad o effaith ar gydraddoldeb.<\/li>\n<li>Gwnewch yn si\u0175r fod y data cywir yn cael ei gasglu a\u2019i gadw mewn ffordd hygyrch.<\/li>\n<li>Rhaid siarad gyda defnyddwyr y gwasanaeth, er mwyn gallu deall y gwasanaeth yn well.<\/li>\n<li>Rhaid i\u2019r person sy\u2019n arwain yr asesiad greu cynllun a gwybod yn union sut mae am gychwyn yr asesiad a\u2019i ddatblygu, cyn iddo gychwyn arni. Ac addasu wedyn os bydd angen.<\/li>\n<li>Yn fy marn i, mae defnyddio\u2019r data i adnabod problemau posib ac yna ymgynghori \u00e2 defnyddwyr y gwasanaeth ynghylch y meysydd hynny yn ffordd effeithiol.<\/li>\n<li>Defnyddiwch gryfderau aelodau eraill o\u2019r t\u00eem a chydweithio. Gallai hyn olygu cael help gan staff sy\u2019n gweithio i weld gwelliant parhaus neu rywun sy\u2019n goruchwylio cronfa ddata sy\u2019n cynnwys gwybodaeth am ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae cadw&#8217;r cyfarfodydd yn gryno ac esbonio\u2019n union beth sydd ei angen arnoch chi a phryd yn helpu i sicrhau cefnogaeth.<\/li>\n<li>Gofynnwch i bobl eraill helpu gyda\u2019r ymgynghoriad hefyd; bydd rhannu&#8217;r baich gwaith, cymaint ag y bo modd, yn golygu bod y dasg o reoli&#8217;r asesiad yn dipyn haws i bawb.<\/li>\n<li>Defnyddiwch gysylltiadau allanol a grwpiau cynnwys tenantiaid sydd eisoes yn bodoli.<\/li>\n<li>Mae&#8217;r wybodaeth orau wedi dod i law i mi drwy ffonio tenantiaid (sydd \u00e2 nodwedd benodol) ar hap a gofyn am gymorth h.y..\u2026rydym yn awyddus i wella \u2026..rydym yn casglu data i\u2019n helpu ni i wneud hynny\u2026.. mae&#8217;r wybodaeth sydd gennym yn awgrymu \u2026.dyna pam rydw i\u2019n eich ffonio chi\u2026.fyddech chi\u2019n teimlo\u2019n gyfforddus yn siarad gyda mi am hynny? Mae hyn yn gallu bod yn effeithiol dros ben. Edrychwch ar nodiadau cyfrif a hanes yr unigolyn cyn ei ffonio.<\/li>\n<li>Ceisiwch annog staff, defnyddwyr gwasanaeth ac unrhyw bartneriaid i gynnig camau gweithredu i\u2019w cyflawni, i gefnogi\u2019r asesiad.<\/li>\n<li>Rhowch wybod i\u2019r cwsmeriaid pam mae data penodol yn cael ei gasglu ac at beth y bydd yn cael ei ddefnyddio.<\/li>\n<li>Rydym wedi defnyddio asesiadau o effaith ar gydraddoldeb mewn adborth asesiad rheoleiddiol i Lywodraeth Cymru, a dylai hynny hefyd helpu i sicrhau cefnogaeth.<\/li>\n<li>Rhowch adborth i staff\/tenantiaid\/grwpiau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2&#8217;r asesiad neu mae&#8217;r asesiad yn effeithio arnynt, gan ddefnyddio\u2019r dull mwyaf priodol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch \u00e2 <span class=\"pink\"><a href=\"mailto:chris.york@monmouthshirehousing.co.uk\">chris.york@monmouthshirehousing.co.uk<\/a><\/span><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Chris York, Swyddog Polisi a Chynlluniau Newydd yng nghymdeithas Tai Sir Fynwy yn pwyso a mesur gwaith y gymdeithas ar yr asesiadau o effaith ar gydraddoldeb a defnyddio data cwsmeriaid i ennyn newid go iawn.<\/p>\n","protected":false},"author":12,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[129,137,116],"tags":[],"temporary-categorisation-from-im":[115],"class_list":["post-22692","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-case-study","category-customer-profiling","category-equality-impact-assessments","temporary-categorisation-from-im-blog"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/22692","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/12"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=22692"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/22692\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22692"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=22692"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22692"},{"taxonomy":"temporary-categorisation-from-im","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.taipawb.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/temporary-categorisation-from-im?post=22692"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}