Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ym maes Tai yng Nghymru

Pam ein dewis ni?

Choose Tai Pawb for practical, tailored equality training that builds confidence and helps you deliver fair, inclusive services with real impact.

Jobs Page Image (Twitter Post)(7)

Ni yw'r unig sefydliad yng Nghymru sy'n arbenigo mewn materion tegwch a thai

Mae Tai Pawb yn dwyn ynghyd arbenigedd mewn materion tegwch a dealltwriaeth ddofn o’r sector tai yng Nghymru. Mae hyn yn sicrhau bod ein hyfforddiant a’n cefnogaeth wedi’u seilio ar yr heriau gwirioneddol y mae sefydliadau yn eu hwynebu.
Mae gan y rhan fwyaf o’n staff brofiad uniongyrchol o weithio ym maes tai, ochr yn ochr â gwybodaeth gref o arferion tegwch a deddfwriaeth. Mae’r cyfuniad hwn yn ein galluogi i ddarparu cymorth ymarferol, perthnasol sy’n adlewyrchu realiti’r sector yng Nghymru.

Rydym yn deall tegwch, ond rydym hefyd yn deall darparu gwasanaethau

Mae deall tegwch ac amrywiaeth yn hanfodol i unrhyw sefydliad sy’n darparu gwasanaethau, waeth beth fo’r sector. Mae ein tîm yn cyfuno arbenigedd tegwch â phrofiad darparu gwasanaethau yn y byd go iawn ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Mae hyn yn golygu ein bod yn deall sut mae tegwch yn gweithio’n ymarferol, nid yn unig mewn theori, a gallwn eich helpu i’w gymhwyso yn eich sefydliad.

“Roedd yr hyfforddiant Cydraddoldeb a ddarparodd Tai Pawb yn ddefnyddiol iawn. Mae’r staff a’r tenantiaid a gymerodd ran bellach yn deall beth mae monitro cydraddoldeb yn ei olygu a pham ei fod mor bwysig. Cyflwynwyd yr hyfforddiant mewn fformat a oedd yn hawdd ei ddeall ac yn ddiddorol. Mae wedi gwneud staff yn fwy ymwybodol o’r nodweddion gwarchodedig a sut y gellir darparu ein gwasanaethau mewn ffordd sy’n deg ac yn ddiwahaniaethol.”

Cymdeithas Tai Hafod

Gyda Tai Pawb, rydych chi hefyd yn cael:

Hofrannwch dros bob blwch i ddysgu mwy.

Dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector

Mae Tai Pawb wedi bod yn gweithio yn y sector tai ers 2005, gan adeiladu gwybodaeth ddofn, ymarferol am dai a thegwch yng Nghymru.

Mae’r profiad hirsefydlog hwn yn golygu ein bod yn deall y cyd-destun polisi, heriau’r sector a’r realiti o ddydd i ddydd sy’n wynebu sefydliadau, gan ein galluogi i ddarparu cymorth gwybodus, perthnasol ac ymarferol.

Hyfforddwyr proffesiynol, profiadol

Mae ein holl hyfforddwyr yn brofiadol iawn ym maes tegwch a thai ac maent wedi ymgymryd â datblygiad arbenigol i gryfhau eu sgiliau hyfforddi a hwyluso.

Mae hyn yn sicrhau eu bod yn gallu cyfathrebu syniadau cymhleth yn glir ac yn effeithiol, gan greu profiadau dysgu diddorol sy’n berthnasol, ymarferol a hygyrch i’ch staff.

Cyflenwi hyblyg i weddu i anghenion eich sefydliad

Gellir addasu pob hyfforddiant Tai Pawb i adlewyrchu eich blaenoriaethau a’ch cyd-destun.

Os oes pynciau penodol yr hoffech eu harchwilio yn fwy manwl, neu feysydd ychwanegol yr hoffech eu cynnwys, gallwn lunio’r sesiwn i weddu i’ch gofynion.

Yn addas ar gyfer pob lefel staff, o'r rheng flaen i arweinyddiaeth

Mae ein hyfforddiant wedi’i gynllunio i fod yn berthnasol ac yn hygyrch i ystod eang o gynulleidfaoedd, gan gynnwys staff, defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau bwrdd.

Rydym yn teilwra’r cynnwys a’r cyflwyniad i sicrhau ei fod yn briodol, yn ddiddorol ac yn ystyrlon i’r rhai sy’n cymryd rhan.

Arbenigedd allanol dibynadwy a phersbectif annibynnol

Ochr yn ochr â’n tîm craidd, rydym yn gweithio gyda nifer fach o hyfforddwyr cyswllt sy’n dod ag arbenigedd ychwanegol o ran tegwch a meysydd cysylltiedig.

Mae hyn yn cryfhau ein cynnig hyfforddi ac yn darparu persbectif annibynnol, gan hefyd gynnal yr un safonau uchel o ansawdd a chysondeb y byddech chi’n eu disgwyl gan Tai Pawb.

Cefnogaeth barhaus y tu hwnt i sesiynau hyfforddiant

Nid yw ein cefnogaeth yn dod i ben pan fydd yr hyfforddiant yn gorffen. Rydym yn cynnig gwasanaethau ymgynghori i helpu i ymgorffori dysgu yn ymarferol, gan gefnogi’ch sefydliad i gymhwyso sgiliau newydd mewn sefyllfaoedd go iawn.

Gall staff hefyd gael mynediad i’n llinell gymorth aelodau ar gyfer cwestiynau dilynol ac arweiniad parhaus pryd bynnag y bydd ei angen arnynt.

Dysgu mewnol a ddarperir yn eich sefydliad

Gellir cyflwyno ein holl hyfforddiant yn fewnol, gan ganiatáu i dimau ddysgu gyda’i gilydd mewn amgylchedd cyfarwydd a chyfforddus. Mae hyn yn annog mwy o drafodaeth agored, dysgu a rennir a chymhwyso ymarferol.

Mae hefyd yn lleihau costau sy’n gysylltiedig â theithio ac amser staff, gan ei gwneud yn ffordd fwy effeithlon o hyfforddi eich sefydliad.

Wedi eich argyhoeddi? Ffoniwch ni heddiw i archwilio manteision a mwy.

Become a member today

Access to our resources is just one great reason to become a member of Tai Pawb. Discover all the perks that come with being a member.