Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ym maes Tai yng Nghymru

Hwyluso Gweithdai

Mae Tai Pawb yn cynnal ac yn hwyluso gweithdai wedi'u teilwra, sy'n edrych ar faterion neu heriau cydraddoldeb penodol y mae sefydliad yn dymuno mynd i'r afael â nhw.

Er enghraifft, gwella ymagwedd sefydliad at ymgysylltu ag aelwydydd Lleiafrifoedd Ethnig, neu edrych ar sut y gallai sefydliad ddefnyddio ei wybodaeth proffilio cwsmeriaid yn well.

Rydym hefyd yn cefnogi sefydliadau sy'n datblygu cynlluniau gweithredu neu gynlluniau tegwch, gan hwyluso trafodaethau ystyrlon gyda staff a defnyddwyr gwasanaeth i lunio eu dull gweithredu.

Hwyluso Gweithdai

“Roedd yr hwylusydd yn angerddol iawn ac yn wybodus, gan greu gofod diogel ar unwaith.”

Mae’r sesiynau hyn yn canolbwyntio ar ddatrysiadau, ac yn aml yn gweithredu fel cyfle da ar gyfer dysgu a rennir, a chryfhau cysylltiadau rhwng staff sy’n gweithio mewn gwahanol adrannau neu lefelau o fewn sefydliad.

Yr hyn y gallwn ei gynnig

Rydym yn darparu ystod o sesiynau wedi’u hwyluso sydd wedi’u teilwra i anghenion eich sefydliad, gan gynnwys:

  • Cyflwyniad i degwch ym maes tai – meithrin dealltwriaeth a hyder a rennir
  • Ymgorffori AEGau a dulliau sy’n seiliedig ar hawliau wrth wneud polisi a phenderfyniadau
  • Mynd i’r afael â naratifau sydd yn erbyn tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant a sgyrsiau anodd gydag eglurder a gofal
  • Dylunio a darparu gwasanaethau cynhwysol ar draws gwasanaethau tai
  • Gwrth-hiliaeth a mudo ym maes tai
  • Tai hygyrch a chynhwysol i bobl anabl
  • Arweinyddiaeth a llywodraethu ar gyfer tegwch – cefnogi byrddau ac uwch dimau

Gellir addasu pob gweithdy ar gyfer byrddau, timau arweinyddiaeth, staff rheng flaen neu gynulleidfaoedd cymysg.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw heriau tegwch y gallwn eu cefnogi.

Oes gennych ddiddordeb yn y gwasanaeth hwn?

Trefnwch alwad gyda ni heddiw a byddwn yn trafod eich anghenion ymgynghori gyda chi

Pam dewis Tai Pawb ar gyfer ymgynghori?

“Mae bod yn aelod o Tai Pawb wedi bod yn brofiad gwych i’n sefydliad. Rydym wedi elwa o hyfforddiant, cyfarfodydd rhwydwaith ac rydym wedi cwblhau’r achrediad QED gyda Tai Pawb. Mae holl dîm Tai Pawb wedi bod yn hynod o barod i helpu ac yn barod bob amser i roi adborth ac arweiniad defnyddiol, gan ein cefnogi i ymdrechu bob amser i wneud mwy fel cyflogwr a landlord cynhwysol.”

Luke Takeuchi

Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol

BEACON CYMRU