Mae Consortiwm y We Fyd-eang, sy’n gyfarwydd fel “W3C”, wedi amlinellu canllawiau manwl i wefannau eu dilyn fel rhan o’u Menter Hygyrchedd Gwefannau.
I gyflawni hyn, rydyn ni wedi gweithredu a dilyn safonau 2.2 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG), a ddylai hefyd wneud i’r wefan hon gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010. Drwy fodloni o leiaf Lefel AA o’r safonau hygyrchedd hyn, dylai tudalennau’r wefan hon fodloni holl ofynion Blaenoriaeth 1 a 2.
Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i’r canlynol:
- Defnyddio meintiau ffont cymharol, fel y gall gwylwyr newid maint y testun yn y porwr, er hwylustod.
- Darparu testun amgen ar gyfer delweddau a chynnwys gweledol nad ydynt yn addurniadol er mwyn sicrhau y gall defnyddwyr sydd ag amhariad ar eu golwg gael mynediad at y wybodaeth sydd ynddyn nhw.
- Sicrhau bod gan yr holl destun a chynnwys gweledol gyferbyniad digonol i’w wneud yn hawdd ei ddarllen i ddefnyddwyr â lliwddallineb neu olwg gwan heb yr angen i newid y dudalen.
- Sicrhau y gellir gweithredu pob ffurflen drwy ddefnyddio bysellfwrdd er mwyn helpu defnyddwyr nad ydyn nhw’n gallu defnyddio llygoden.
- Darparu sain-ddisgrifiadau neu drawsgrifiadau ar gyfer cynnwys fideo er mwyn sicrhau y gall defnyddwyr sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw gael mynediad at y wybodaeth sydd ynddyn nhw.
- Defnyddio penawdau a labeli disgrifiadol i’w gwneud hi’n hawdd i ddefnyddwyr sy’n dibynnu ar ddarllenwyr sgrin ddeall strwythur a chynnwys y dudalen.
- Darparu cymaint o gynnwys â phosib ym mhrif ieithoedd ein cynulleidfaoedd; Cymraeg a Saesneg.
Newid eich gosodiadau
Mae’r porwyr modern rydyn ni’n eu cefnogi yn cynnwys offer hygyrchedd mewnol, gan gynnwys chwyddo a newid maint testun, sy’n golygu nad oes angen mwy o reolaethau ar y wefan.
Gallwch chi newid maint y testun neu addasu’r broses o chwyddo’r dudalen yn eich porwr drwy ddilyn y cyfarwyddiadau hyn:
Cynnwys trydydd parti
Gall ein gwefan gynnwys cynnwys trydydd parti. Nid oes gennym reolaeth dros hygyrchedd na phrif iaith y cynnwys hwn ac nid ydym yn gyfrifol amdanyn nhw, ond rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i weithio gyda thrydydd partïon hygyrch lle bo’n bosib. Fel arfer, mae unrhyw achosion lle nad yw’r cynnwys yn bodloni safonau hygyrchedd neu iaith yn enghreifftiau o faich anghymesur ar Tai Pawb.
Gallai’r cynnwys hwn gynnwys:
- Dolenni i wefannau nad ydynt yn cael eu gweithredu gan Tai Pawb
- Cynnwys a ddarperir yn uniongyrchol gan ein haelodau ac sy’n cael ei lanlwytho i’r wefan ganddyn nhw yn uniongyrchol
- Cynnwys hanesyddol sydd wedi’i symud o fersiynau blaenorol o’r wefan nad oedden nhw’n cydymffurfio
- Cynnwys neu swyddogaethau ar ein gwefan sy’n cael eu cynnal ar wefan neu wasanaeth trydydd parti
- Cynnwys sy’n cael ei gynnal ar wefannau eraill, fel safleoedd cyfryngau cymdeithasol
- Dogfennau sy’n cael eu hanfon atom ac sy’n cael eu lanlwytho i’n gwefan
Riportio problemau
Rydyn ni’n gwneud ein gorau i ddarparu profiad positif a hygyrch i bob defnyddiwr. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw rwystrau hygyrchedd ar ein gwefan rhowch wybod i ni. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i fynd i’r afael â’ch pryderon.
Os oes gennych unrhyw bryderon parhaus ynglŷn ag hygyrchedd y wefan hon neu unrhyw wefan arall, mae’n hawdd ei riportio i elusen ar-lein Fix the Web, sy’n gweithio i wneud y rhyngrwyd yn lle mwy hygyrch.