Ffocws: Gwreiddio Profiadau Bywyd ym maes Arferion Tai – Cwrdd â’n panel Tai Tenantiaid Ethnig Leiafrifol
Dydd Llun, 3 Awst 2026
10.30am-12.00pm
Ar-lein drwy MS Teams
Am ddim i bawb
Yn dilyn ein gwaith parhaus i droi addewidion Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol / Gwneud nid Dweud yn gamau gweithredu ystyrlon a mesuradwy, rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu chi i gyd yn ôl i Gyfarfod Gwneud nid Dweud/Arweinwyr Gwrth-hiliaeth ym mis Awst 2026. Gobeithio eich bod chi wedi bod yn cadw’n iach ac yn parhau’n ymroddedig, yn llawn cymhelliant ac yn canolbwyntio ar weithredu.
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar ffyrdd ymarferol o wreiddio profiadau bywyd mewn arferion tai, ac yn gyfle i glywed ein Panel Tai Tenantiaid Ethnig Leiafrifol yn trafod sut mae datblygiadau presennol yn gofyn am ein hymrwymiadau gwrth-hiliol ar y cyd, yn enwedig wrth wneud safiad yn erbyn hiliaeth a naratifau niweidiol. Mae eich arweinyddiaeth a'ch ymgysylltiad parhaus yn dal i chwarae rhan hanfodol er mwyn sicrhau bod Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol / Gwneud nid Dweud 2.0 yn symud y tu hwnt i eiriau i newid gwirioneddol a chynaliadwy.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd yn fuan.
Sylwer: mae’r sesiynau hyn yn agored i bob arweinydd, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn aelodau o Tai Pawb a’r rhai nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer Gwneud nid Dweud.
