Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ym maes Tai yng Nghymru
Digwyddiad

Cyfarfod Gwneud nid Dweud/Arweinwyr Gwrth-hiliaeth

network
03/08/2026
10:30AM
Arlein
Mae cyfarfodydd arweinwyr bob amser wedi bod yn gyfle da i fyfyrio ar heriau ac atebion, ac i glywed gan sefydliadau eraill am eu harferion. Er mwyn llywio'r gwaith hwn, fe anogir uwch arweinwyr i ymuno â ni a chymryd rhan yn y sesiwn ryngweithiol hon.

Ffocws: Gwreiddio Profiadau Bywyd ym maes Arferion Tai – Cwrdd â’n panel Tai Tenantiaid Ethnig Leiafrifol

Dydd Llun, 3 Awst 2026
10.30am-12.00pm
Ar-lein drwy MS Teams
Am ddim i bawb

Yn dilyn ein gwaith parhaus i droi addewidion Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol / Gwneud nid Dweud yn gamau gweithredu ystyrlon a mesuradwy, rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu chi i gyd yn ôl i Gyfarfod Gwneud nid Dweud/Arweinwyr Gwrth-hiliaeth ym mis Awst 2026. Gobeithio eich bod chi wedi bod yn cadw’n iach ac yn parhau’n ymroddedig, yn llawn cymhelliant ac yn canolbwyntio ar weithredu.

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar ffyrdd ymarferol o wreiddio profiadau bywyd mewn arferion tai, ac yn gyfle i glywed ein Panel Tai Tenantiaid Ethnig Leiafrifol yn trafod sut mae datblygiadau presennol yn gofyn am ein hymrwymiadau gwrth-hiliol ar y cyd, yn enwedig wrth wneud safiad yn erbyn hiliaeth a naratifau niweidiol. Mae eich arweinyddiaeth a'ch ymgysylltiad parhaus yn dal i chwarae rhan hanfodol er mwyn sicrhau bod Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol / Gwneud nid Dweud 2.0 yn symud y tu hwnt i eiriau i newid gwirioneddol a chynaliadwy.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd yn fuan.

Sylwer: mae’r sesiynau hyn yn agored i bob arweinydd, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn aelodau o Tai Pawb a’r rhai nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer Gwneud nid Dweud.

Gwneud nid Dweud

Crynodeb o'r Digwyddiad

Dyddiad
03/08/2026
Amser
10:30AM -
12:00PM
Fformat
Arlein

Cofrestrwch nawr

Oes gennych chi gwestiynau am y digwyddiad?

Help is available. Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua.