Amdanom

Mae Tai Pawb yn hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru. Credwn fod gan bob unigolyn yr hawl i gael mynediad at dai a chartref o ansawdd da mewn cymunedau cydlynol a diogel. Rydyn ni am leihau rhagfarn, bod dan anfantais a thlodi.

Rydyn ni am ddarparu gwell mynediad at wasanaethau llety a thai, yn ogystal â chynnig gwell canlyniadau i grwpiau megis pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl anablpobl Lesbiaidd, Hoyw a Thrawsrywiol (LGB), pobl Trans*, pobl hŷn ac ifanc amrywiol, ac eraill.

Rydyn ni’n dîm arbenigol o staff ac aelodau bwrdd ymroddedig sy’n driw i’n gwerthoedd. Rydyn ni’n gweithio i ddylanwadu ar wneuthurwyr penderfyniadau, cefnogi sefydliadau ar faterion cydraddoldeb ac yn codi ymwybyddiaeth o heriau allweddol ym maes tai a chydraddoldeb.

Rydym yn sefydliad o aelodau. Rydyn ni’n cefnogi ac yn gweithio gyda’n haelodau ar draws y sectorau tai a chydraddoldeb. Gweithiwn yn agos hefyd â rhanddeiliaid megis Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.


Ein cenhadaeth

I hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ym maes tai yng Nghymru.

Ein gweledigaeth

I fod yn geffyl blaen wrth hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym maes tai, gan arwain at lai o ragfarn, anfantais a thlodi.

I fod yn bartner gwerth chweil sy’n cefnogi darparwyr a gwasanaethau tai i gydnabod, i barchu ac i ymateb yn briodol i amrywiol nodweddion ac anghenion tai pobl sy’n byw yng Nghymru, yn cynnwys y rheini sy’n agored i niwed ac sydd ar y cyrion.

Our values

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Tai Pawb yn hybu hyn yn frwd wrth ddelio ag eraill, yn ogystal ag yng ngwaith y sefydliad ei hun.

Annibyniaeth

Fydd y sefydliad ddim yn cyfaddawdu ar ei annibyniaeth oherwydd ei fod yn credu bod hyn yn hanfodol wrth geisio cyflawni ei weledigaeth a’i genhadaeth.

Atebolrwydd

Mae trefniadau llywodraethu a strwythurau adrodd tryloyw ar waith a chroesawir prosesau adolygu a chraffu manwl.

Proffesiynoldeb

Mae Tai Pawb yn gweithio i sicrhau bod gan ei aelodau staff y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad i ddarparu gwasanaeth proffesiynol.

Cynhwysiant

Mae’r sefydliad yn gwneud ei orau i gynnwys pawb ac yn hybu dulliau o gynhwysiant sy’n cyrraedd cynulliedfa mor eang â phosib.

Partneriaeth

Mae Tai Pawb yn gwerthfawrogi ei bartneriaid ac yn cydnabod mai dim ond drwy weithio mewn partneriaeth y gall gyflawni ei weledigaeth a’i genhadaeth.

Grymuso

Tybir bod hyn yn allweddol wrth sicrhau bod gwasanaethau tai yn cael eu gyrru gan y bobl sy’n eu defnyddio, yn cynnwys pobl agored i niwed a’r rheini sydd wedi’u gwthio i gyrion cymdeithas.

Cynllun Strategol ac Adroddiadau Blynyddol

Cynllun Strategol 2014 -2017

Adroddiad Blynyddol 2015

(cliciwch yma am fersiwn wedi’i Drawsgrifio)

Adroddiad Blynyddol 2014

(cliciwch yma am fersiwn wedi’i Drawsgrifio)

Adroddiad Blynyddol 2013

Adroddiad Blynyddol 2012