Pwy ydym ni

 

Staff arbenigol

Gwybodaeth am bob agwedd o faes tai a chydraddoldeb

Rhagweithiol, cyfeillgar, agos-atoch ac yn barod i helpu

Staff

Mae gan Tai Pawb dîm ymroddedig o staff arbenigol. Mae gan y tîm ddealltwriaeth eang a manwl o faes tai a chydraddoldeb. Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn rhagweithiol, yn gyfeillgar, yn agos-atoch ac yn barod i helpu.

E-bost: alicja@taipawb.org
Llinell uniongyrchol: 029 2053 7632
Trydar: @AlicjaTaiPawb

Yn gyfrifol am: Darparu arweinyddiaeth o ran datblygu a chynnig cyfeiriad strategol a rheolaeth weithredol Tai Pawb. Hyrwyddo a hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth ym maes tai yng Nghymru.

Profiad a diddordebau: Gweithiodd Alicja yn flaenorol yn y sector cydraddoldeb gan ganolbwyntio ar weithio ar lawr gwlad ac yn y gymuned, gan roi cefnogaeth a chyngor yn ogystal â datblygu strategaeth, polisi ac ymchwil. Mae ganddi M.A. mewn Ieitheg Saesneg ac MSc mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth o Brifysgol Caerdydd. Mae hi’n credu’n gryf mewn gwaith cydraddoldeb sydd wedi’i selio ar dosturi, a pharch a newid diwylliannol. Fe’i ganed yng Ngwlad Pwyl ond symudodd Alicja i Gymru yn 2004 ac mae’n mwynhau cerdded ei chi a gwersylla.

E-bost: martyn@taipawb.org
Llinell Uniongyrchol: 029 2053 7633
Trydar: @martyntaipawb

Yn gyfrifol am: Weithgareddau cyfathrebu, dylanwadu a pholisïau.

Profiad a Diddordebau:  Ymunodd Martyn Jones â’r tîm ym mis Ebrill 2017 fel y Pennaeth Polisi a Chyfathrebu newydd, ac ef fydd yn gyfrifol am weithgareddau cyfathrebu, dylanwadu a pholisïau. Mae gan Martyn brofiad helaeth ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth, hawliau dynol a chyfiawnder troseddol, ac roedd yn un o’r Arweinyddion Polisi ar ran Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Cyn ymuno â ni, ef oedd Prif Swyddog Gweithredol Diverse Cymru.

E-bost: ceri@taipawb.org
Llinell Uniongyrchol: 029 2053 7635
Trydar: TBC

Yn gyfrifol am: Fusnes presennol a busnes newydd, yn ogystal â chynhyrchu incwm.

Profiad a Diddordebau:  Bydd Ceri Meloy yn ymuno â ni ym mis Mehefin 2017 fel y Pennaeth Busnes newydd a hi fydd yn gyfrifol am fusnes presennol a busnes newydd, yn ogystal â chynhyrchu incwm. Mae gan Ceri lawer iawn o brofiad ym maes tai a gofal cymdeithasol ar ôl gweithio i nifer o gymdeithasau tai yn ne Cymru, yn rheoli adrannau tai a thai â chymorth, yn ogystal â thai awdurdod lleol. Yn fwy diweddar, Ceri oedd Cyfarwyddwr Dimensions yng Nghymru.

E-bost: andrea@taipawb.org
Llinell uniongyrchol: 029 2053 7630

Yn gyfrifol am: Trefnu a chydlynu’r swyddfa o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys bod yn gyfrifol am aelodaeth Tai Pawb, gwybodaeth am y gronfa ddata, trefn lywodraethu’r sefydliad a materion ariannol yr elusen.

Profiad a diddordebau: Yn flaenorol, bu Andrea yn gweithio yn y Sector Gofal am 22 blynedd, lle’r oedd hi’n gyfrifol am weinyddiaeth a swyddogaethau ariannol Cymdeithas Cymorth Hafod. Cyn hynny bu’n gweithio ym maes Addysg Bellach. Mae Andrea wrth ei bodd â sioeau cerdd.

Aelodau Cyswllt Tai Pawb

Twitter: @mainestreamcol

Yn darparu ar gyfer Tai Pawb: Arweinyddiaeth Amgen ar Amrywiaeth a’n Cynllun Pencampwyr Cydraddoldeb.

Profiad a diddordebau:  Mae Colin wedi bod yn gweithio fel hyfforddwr, ymgynghorydd a chymhellwr ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth am dros 20 ugain mlynedd. Mae ganddo brofiad o weithio mewn amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys sefydliadau trydydd sector, sefydliadau sector cyhoeddus mawr, cwmnïau bach a nifer o gymdeithasau tai. Mae ganddo Msc. mewn Newid, Tystysgrifau mewn Gwaith Grŵp a Rheoli Adnoddau Dynol, a Diploma mewn arweinyddiaeth, mentora a hyfforddi.

Trwy ei waith mae’n gobeithio sicrhau gwell arferion o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau bod y materion hyn yn cael eu trafod. Mae’n ceisio chwalu’r ymdeimlad fod pobl fel pe baent yn cerdded ar wyau trwy’r amser pan fyddan nhw’n trafod cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Y Bwrdd.

Rheolir Tai Pawb gan fwrdd o ymddiriedolwyr cydnabyddedig. Mae’r bwrdd yn craffu ar waith Tai Pawb ac yn gyrru ein cyfeiriad strategol. Mae aelodau’r bwrdd yn cynrychioli categorïau aelodaeth ac fe gawson nhw eu recriwtio oherwydd eu sgiliau a’u harbenigedd.

Twitter: @MichReid2014

Mae Michelle wedi bod yn Brif Weithredwr Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf ers Ionawr 2014. Yn flaenorol roedd hi’n Brif Weithredwr TPAS Lloegr o 2009-2014, ac yn Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth George House rhwng 2002 a 2009, sef elusen gofal cymdeithasol HIV blaenllaw. Yn ddiweddar, fe cyfrannodd Michelle at Gomisiwn Llywyddol y Sefydliad Tai Siartredig ar Amrywiaeth ac Arweinyddiaeth.

.

Twitter: @JaniceFionaBell

Mae Janice ar hyn o bryd yn Rheolwr Gwasanaethau Cefnogol yn United Welsh. Mae hi wedi bod yn frwd dros faterion cydraddoldeb erioed. Mae gan Janice dystysgrif lefel 7 mewn Arweinyddiaeth a gradd Anrhydedd mewn Polisi Cymdeithasol a Gweinyddu. Dros y 23 mlynedd diwethaf bu’n gweithio mewn adrannau cefnogol Cymdeithasau Tai mewn rôl Uwch Reolwr. Cyn hynny gweithiodd Janice i’r NHS fel nyrs a bydwraig.

Twitter: @dcmwenya

Mae Mwenya yn Gyfarwyddwr trais yn erbyn merched yn BAWSO. Mae Mwenya yn ymchwilydd brwd sy’n meddu ar 12 mlynedd o brofiad o weithio mewn gwahanol brifysgolion. Mae gan Mwenya BSc mewn Gwyddorau Cymdeithasol, M.A. mewn Newyddiaduraeth a PhD mewn astudiaethau Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol gyda ffocws ar anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Yn 2012 enillodd wobr Marsh Christian am ei gwaith yn y frwydr yn erbyn masnachu pobl.

Twitter: @JC-NCH

Mae Jonathan wedi gweithio ym maes tai ers 2003 mewn amrywiaeth o rolau ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ymgysylltu â thrigolion lleol. Mae Jonathan wedi bod yn gweithio’n agos â chymunedau pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig yng Nghasnewydd ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ffyrdd o ddefnyddio offer digidol i alluogi tenantiaid i gysylltu â’u landlord. Mae’n credu’n gryf bod angen gwneud gwasanaethau tai yn hygyrch i bawb, ac mae’n hynod o falch o fod ar fwrdd Tai Pawb.

Mae Stuart yn Gyfarwyddwr Adnoddau yn Wales and West Housing ar ôl bod yn Bennaeth Cyllid yn flaenorol. Ac yntau’n gyfrifydd siartredig gyda dros 20 mlynedd o brofiad, mae wedi gweithio fel uwch weithiwr cyllid proffesiynol ym maes datblygu eiddo, adeiladu, yr amgylchedd adeiledig, hysbysebu ac archwilio yn Lloegr yn wreiddiol ond hefyd yng Nghymru dros y 15 mlynedd diwethaf. Mae Stuart hefyd yn Is-Gadeirydd Fforwm Cyllid Cartrefi Cymunedol Cymru ac yn gadeirydd y Llywodraethwyr yn ei ysgol gynradd leol.

Mae Mark yn swyddog strategaeth tai yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae ganddo BSc (Anrh.) mewn Astudiaethau Tai, aelodaeth gorfforaethol o CHI, Diploma Ôl-radd mewn Rheoli Tai a Busnes, ac ILM 5 mewn Rheoli. Mae ganddo dros 14 blynedd o brofiad o weithio o fewn llywodraeth leol, gan gyflawni sawl swydd a oedd yn ymwneud â dyrannu. Yn flaenorol, bu Mark yn gweithio i Gyngor Dinas Casnewydd. Ei brif ddiddordebau yw cydraddoldeb ac amrywiaeth, a datblygu cynaliadwy o fewn cyd-destun tai.

Mae Sam yn bennaeth adnoddau dynol a Gwasanaethau Corfforaethol yn Coastal Housing Group.

 

 

Twitter: @ruth_nortey

Mae Ruth yn Swyddog Ymgysylltu â’r Synhwyrau ar gyfer Action on Hearing Loss ac mae hi wedi gweithio yn flaenorol fel Swyddog Cymorth â’r Synhwyrau yn Nghartrefi RCT/ RNIB.

Mae Robin wedi bod yn Bennaeth Tai yng Nghyngor Sir Caerfyrddin ers 2004. Ychwanegwyd Diogelu’r Cyhoedd at ei bortffolio ym mis Ebrill 2014. Yn flaenorol, bu’n gweithio mewn datblygu cymunedol/cydweithredol ym maes rheoli tai. Bu hefyd yn gyfarwyddwr RSL a Phennaeth Tai mewn cyngor yn y de orllewin, bu’n rhedeg ei wasanaeth ymgynghori tai ac adfywio ei hun, a bu’n gweithio i’r Comisiwn Archwilio. Mae Robin yn gynghorydd tai i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn Llywodraethwr Ysgol Gynradd Y Pwll.

Twitter: @Practademia

Mae Helen yn ddarlithydd mewn tai ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae hi hefyd yn ei blwyddyn olaf ar gwrs PhD ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymchwilio i gyfiawnder cymdeithasol a thai yng Nghymru. Mae gan Helen ddiddordeb brwd mewn cyfuno’r byd academaidd â gwaith ar lawr gwlad, ac fe adlewyrchir hyn yn ei hymchwil a’i dysgu.

 

Verified by MonsterInsights