front-page-welsh

 

NEGES GAN Y CADEIRYDD A’R CYFARWYDDWR

Croeso i’n Hadroddiad Blynyddol 2015/16.

Ar y tudalennau canlynol rydyn ni’n adrodd ar y gwaith sydd wedi bod yn ganolbwynt i ni wrth i ni barhau i gefnogi ein haelodau, ein rhanddeiliaid a’n llywodraeth er mwyn sicrhau Cymru lle mae pawb yn bwysig.

Dathlon ni ein pen-blwydd yn 10 oed y llynedd, ac wrth i ni ddechrau ar ein hail ddegawd, mae maint yr heriau o’n blaen yn glir i ni.  Mae troseddau casineb a rhagfarn ar ei fyny ledled y DU, a bellach mae’n bwysicach dod â phobl ynghyd mewn byd lle mae’r cyfryngau yn megino tensiynau rhwng gwahanol grwpiau o bobl.

Rydyn ni’n falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru fel cyfaill hollbwysig er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu gwerthfawrogi a’u dathlu yng nghymunedau Cymru. 

Rydyn ni hefyd yn falch o barhau i weithio ar ran ein haelodau i hybu ymarfer ardderchog a chefnogi cynhwysiant a pharch i bawb.

Rydyn ni wedi parhau i wneud hyn ar adeg lle mae mwy a mwy o straen ar adnoddau. Mae’r Bwrdd a’r staff yn canolbwyntio ar sicrhau dyfodol cynaliadwy i Tai Pawb, gan ehangu ein haelodaeth a gwneud yn siŵr ein bod yn sicrhau gwerth am arian yn ein holl weithgarwch. Rydym hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at lansio ein cynllun Nod Ansawdd ardderchog newydd yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. 

Gobeithio y cewch fwynhad o ddarllen ein Hadroddiad Blynyddol. Hoffem ddiolch i’n haelodau, ein staff, ein partneriaid ac aelodau o’n bwrdd am eu cyfraniad parhaus at lwyddiant ein sefydliad.

Hoffem ddiolch o galon i Menna Jones – aelod o staff ers blynyddoedd lawer sydd wedi ymddeol eleni, ac i Mair Thomas, sydd wedi mynd ar drywydd arall ar ôl gwneud cyfraniad gwych at Tai Pawb dros y chwe blynedd ddiwethaf. Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar iawn i ddau ymddiriedolwr ardderchog sydd wedi gadael y bwrdd eleni – Kevin Howell a Julie Nicholas, ac i Katija Dew am gamu i’r bwlch ac arwain y sefydliad yn fedrus iawn rhwng mis Ionawr a mis Mai 2016. 

Michelle Reid – Cadeirydd

Alicja Zalesinska – Cyfarwyddwr

 

CYFLWYNIAD

Mae Tai Pawb yn Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ym maes Tai yng Nghymru.

Rydyn ni’n credu bod gan bawb yr hawl i dai o safon mewn cymunedau cydlynol a diogel. Ein bwriad yw lleihau rhagfarn, anfantais a thlodi

Ein Nod

Hybu cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ym maes tai yng Nghymru.

 

Ein Gweledigaeth

Arwain y ffordd o ran hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth ym maes tai, gan arwain at lai o ragfarn, anfantais a thlodi.

Bod yn bartner gwerthfawr sy’n cefnogi gwasanaethau a darparwyr tai i gydnabod, parchu ac ymateb yn briodol i amrywiaeth anghenion tai a nodweddion pobl Cymru, gan gynnwys y rheini sy’n agored i niwed ac ar y cyrion.

 Blaenoriaethau Strategol

Mae gennym bedair blaenoriaeth strategol sy’n ymwneud â’n gwaith i gyd ac yn darparu ffocws iddo.

Polisi: Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff partner i wneud yn siŵr bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan annatod o bolisi tai lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Ymarfer:  Rydyn ni’n cefnogi gwasanaethau a darparwyr tai i wneud yn siŵr bod cydraddoldeb wedi’i wreiddio yn narpariaeth tai a gwasanaethau a mentrau cysylltiedig.

Ymwybyddiaeth: Rydyn ni’n codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud ag anghydraddoldeb yng nghyswllt tai ac yn ehangach sy’n wynebu pobl â nodweddion gwarchodedig, a rôl tai o ran galluogi cydraddoldeb.

Cynaliadwyedd: Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod Tai Pawb yn parhau i fod yn addas i’r diben ac yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ehangu ei gapasiti a’i gynaliadwyedd, a hynny’n rhagweithiol.

UCHAFBWYNTIAU U’R FLWYDDYN

training-welsh

consultancy-welsh-png

 

 

 

 

helpline-welsh

events-welsh

 

networks-welsh

consult-responses-welsh

 

 

welsh

members-welsh

 

twitter1-welsh

“We are proud to continue working on behalf of our members to promote excellent practice and to support inclusion and respect for all.”

EIN CYFLAWNIADAU

Poisi

impact

Mae Tai Pawb yn chwarae rôl allweddol o ran dylanwadu ar ddadleuon a phenderfyniadau cenedlaethol sy’n effeithio ar ddarpariaeth tai gyfartal. Mae ein llais a’n barn arbenigol yn helpu i sicrhau bod yr effaith y bydd penderfyniadau yn ei chael ar fywyd pobl amrywiol a rhai dan anfantais yn cael ei hystyried o’r dechrau un.

 

 

Eleni, buon ni’n gweithio’n agos gyda’n cyd-weithwyr yn Llywodraeth Cymru drwy roi cymorth iddynt gyda’u gwaith yn ymwneud â chydraddoldeb, a thrwy arfer ein dylanwad gwleidyddol a’n dylanwad arall lle bu modd. Buon ni’n helpu Llywodraeth Cymru i fonitro cynnydd cenedlaethol y broses o ddatblygu Cofrestri Tai Addas yng Nghymru. Cynigion ni ein cyngor, ein hadborth a’n cyfraniad ynghylch amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys mewnfudo, tai addas, digartrefedd, monitro cydraddoldeb, dyraniadau, a mwy.

Rydyn ni wedi gwneud hyn drwy ymgysylltu â swyddogion unigol, gwleidyddion a gweithgorau megis  y Gweithgor Strategaeth Ddigartrefedd, y Grŵp Gwybodaeth am Dai, y Grŵp Tai Trawsbleidiol, y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd, Sipsiwn a Theithwyr, a mwy.

 

“Fe ddarparon ni dystiolaeth ysgrifenedig a llafar fel rhan o broses ddeddfwriaethol y Bil Rhentu Cartrefi, a buon ni’n gweithio mewn partneriaeth â Cymorth Cymru i gyflwyno sylwadau i’r gweinidog ar y materion allweddol sy’n effeithio ar y sector cefnogi pobl, megis gwaharddiadau dros dro. Rydyn ni hefyd wedi cymryd rhan weithgar yng Ngrŵp Rhanddeiliaid Rhentu Cartrefi”.

Gweithion ni’n agos gyda’r rheoleiddiwr fel rhan o’r Grŵp Cynghori ar Reoleiddio a’r tu allan iddo – cydweithrediad effeithiol a arweiniodd at ddatblygu’r cynlluniau ar gyfer ein Nod Ansawdd.

Hefyd, fe godon ni ymwybyddiaeth o’r prif faterion yng nghyswllt archwiliadau Hawl i Rentu. Buon ni’n gweithio mewn partneriaeth â’n cyfoedion yn Shelter Cymru, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Diverse Cymru, Tai Cymunedol Cymru a Sefydliad Tai Siartredig Cymru er mwyn amlygu risgiau a chynnig atebion yng nghyswllt y datblygiadau pwysig hyn yng nghyfraith mewnfudo, a allai arwain at gynnydd mewn digartrefedd ymysg pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Ysgrifennon ni at y gweinidog a thrafod â senedd y DU, a buom yn cwrdd â’n cyd-weithwyr yn y Swyddfa Gartref a’u gwahodd i siarad yn ein seminar oedd yn canolbwyntio ar fewnfudo y trefnon ni mewn partneriaeth â BAWSO.

 

glasses

Bu eleni yn flwyddyn brysur ar gyfer ymgyngoriadau hefyd – rydyn ni wedi darparu ymatebion ysgrifenedig cynhwysfawr i 25 ymgynghoriad gwahanol eleni, gan gynnwys y Bil Trais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig, y Bil Rhentu Cartrefi, newidiadau i ddeddfwriaeth a chodau sy’n ymwneud â digartrefedd yn ogystal â strategaethau a chynlluniau cenedlaethol sy’n ymwneud â materion Traws* ac iechyd meddwl (fe ddylanwadon ni ar gynnwys y cynllun gweithredu cenedlaethol ar Gydraddoldeb Trawsryweddol drwy amlygu rôl darparwyr tai).

Darparon ni hefyd dystiolaeth ar lafar i bwyllgor uchel ei fri’r Cenhedloedd Unedig ynghylch hawliau pobl ag anableddau, gan ddylanwadu ar adroddiad y Cenhedloedd Unedig ar sut mae gwledydd yn perfformio yng nghyswllt cydraddoldeb anabledd a byw’n annibynnol.

 

Ymarfer

????????????????????????????????????

Mae Tai Pawb yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o gefnogi ein haelodau, a’u herio a’u helpu nhw i wella eu hymarfer yng nghyswllt cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae ein cefnogaeth yn ysbrydoli pobl a chymunedau i groesawu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Arweinir ein gwaith nid yn unig gan ein harbenigedd a’n gwybodaeth am faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth, ond hefyd, yn hollbwysig, gan anghenion ein haelodau. Eleni, fe wnaethon ni barhau â’n gwaith ar rymuso a galluogi ein haelodau i roi cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth galon eu hymarfer.

Gwnaethon ni hefyd barhau i hwyluso Rhwydwaith Cydraddoldeb Tai Cymru, sy’n cael ei arwain gan ei aelodau ac yn helpu aelodau i rannu eu hymarfer gorau, trafod materion allweddol ac atebion ymarferol i heriau cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Rhoddon ni’r wybodaeth ddiweddaraf i’r rhwydwaith am faterion polisi sy’n effeithio ar ei waith, yn ogystal â helpu i hwyluso cyfarfodydd ar faterion megis Asesiadau Effaith Cydraddoldeb, Ymgorffori Newid a Safonau Iaith Gymraeg, gan sicrhau bod yr holl randdeiliaid allweddol a sefydliadau ymarfer gorau yno i gyfrannu. Rydyn ni hefyd wedi sefydlu grŵp Yammer ar gyfer y rhwydwaith, er mwyn i aelodau allu rhannu gwybodaeth rywfaint yn haws.

“Fe wnaethon ni hefyd barhau i hwyluso’r Rhwydwaith Cofrestr Tai Addas, gan alluogi Awdurdodau Lleol, Cymdeithasau Tai a sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn datblygu Tai Addas ymhellach i gyfnewid ymarfer a dysgu oddi wrth eraill.” 

Mae ein gwasanaethau hyfforddi wedi mynd o nerth i nerth – yn dilyn adolygiad o’n buddion aelodaeth, rydyn ni wedi ehangu ein cynnig hyfforddi, gan gynnwys gofyn i bartneriaid ddarparu cyrsiau ardderchog, megis Rhagfarn Ddiarwybod, neu ddatblygu cwrs partneriaeth newydd gyda TPAS sy’n canolbwyntio ar ennyn cyfranogiad grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Lansion ni ein llyfryn hyfforddi newydd a chynnal diwrnod blas ar hyfforddiant. Arweiniodd hyn at gynnydd yn y galw am ein hyfforddiant (fe ddarparon ni 30 sesiwn a chael llawer o archebion ar gyfer y flwyddyn nesaf), a chawson ni adborth gwych, megis:

“Mae Grŵp Tai Pennaf wedi gweithio gyda Tai Pawb sawl gwaith i ddarparu hyfforddiant ar gyfer ein Bwrdd, ein Tîm Rheoli a’n Staff.  Rydyn ni wedi gweld eu bod yn cyflwyno pob pwnc gydag angerdd, brwdfrydedd a gwybodaeth wirioneddol dda am y pwnc. Mae’r hyfforddwyr parod eu cymwynas a hynod garedig yn gwneud y profiad yn bleser” – Grŵp Tai Pennaf

 “Roedd hyfforddiant Cydraddoldeb Tai Pawb yn ddefnyddiol iawn.  Mae’r staff a’r tenantiaid a gymerodd ran bellach yn llawn ddeall ystyr monitro cydraddoldeb a pham ei fod mor bwysig.  Darparwyd yr hyfforddiant mewn dull oedd yn hawdd ei ddeall ac yn ennyn diddordeb.  Mae wedi gwneud y staff yn fwy ymwybodol o nodweddion gwarchodedig a sut mae modd darparu ein gwasanaethau mewn ffordd deg sydd ddim yn camwahaniaethu.” – Cymdeithas Dai Hafod

 

img_0063

Datblygon ni hyfforddiant ar ddyletswyddau digartrefedd ac ystyriaethau cydraddoldeb newydd, a darparu 6 sesiwn i bob awdurdod lleol yng Nghymru drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  Roedd y cynnydd yn y galw am hyfforddiant i fyrddau yn galonogol iawn.

Rydyn ni’n gwybod bod ein haelodau yn amlwg yn gwerthfawrogi ein cyngor a’n cymorth arbenigol manwl yng nghyswllt eu gwaith bob dydd. Eleni, fe ddarparon ni 26 prosiect ymgynghori gwahanol, o bolisi bwrdd gwaith i adolygu cynlluniau, a hynny drwy weithdai wedi’u teilwra ar faterion megis iechyd meddwl neu sesiynau asesu effaith cydraddoldeb, ynghyd â phrosiectau tymor hir yn cynnwys timau llawn, megis adolygu systemau dyrannu a’u heffaith ar grwpiau amrywiol o ddefnyddwyr gwasanaeth.

Mae ein llinell gymorth i aelodau yn dod yn fwys poblogaidd hefyd. Gwnaethon ni ymdrech wirioneddol i’w hyrwyddo ac eleni fe ddelion ni â 103 o ymholiadau llinell gymorth, gan gynnwys rhoi cymorth i staff drwy roi cyngor ar recriwtio pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, monitro cydraddoldeb a phroffilio, addasiadau rhesymol i bobl anabl a newid enwau ar gytundebau tenantiaeth. Datblygon ni arbenigedd mewn meysydd newydd hefyd, er enghraifft fe helpon ni awdurdod lleol i gynnal ymgynghoriad â Sipsiwn a Theithwyr i gyfrannu at eu hasesiad anghenion statudol, ac fe ddatblygon ni archwiliad iechyd cydraddoldeb i sefydliadau – gyda llawer o aelodau yn defnyddio’r gwasanaeth hwn i lywio eu blaenoriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Eleni, rydyn ni hefyd wedi dechrau gweithio ar ein datblygiad mwyaf a gorau hyd yma – nod ansawdd cenedlaethol a fydd yn sbarduno rhagoriaeth yn y sector ac yn cael ei gymeradwyo gan y rheoleiddiwr. Wedi’i ddatblygu drwy gydweithio’n agos â’r sector, y nod hwn fydd y cyntaf o’i fath yng Nghymru. Bydd yn gosod y safon o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth ym maes tai, yn gwella profiadau tenantiaid, cwsmeriaid a staff amrywiol, yn darparu fframwaith ar gyfer gwaith cydraddoldeb ac amrywiaeth sefydliadau, ac yn ennyn egni a ffocws staff ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth. Caiff y nod ei lansio fis Ebrill 2017, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at adrodd arno yn ein hadroddiad blynyddol nesaf.

 

Ymwybyddiaeth

nch-ceri-refugees-welcome

Rhan o’n rôl ni yw gwneud pobl yn ymwybodol o bwysigrwydd cydraddoldeb a’u hysbrydoli i groesawu cydraddoldeb ac amrywiaeth yn eu sefydliadau. Eleni, rydyn ni wedi canolbwyntio ar ddatblygu’r rhan hon o’n rôl. 

Mewn partneriaeth â Sefydliad Tai Siartredig Cymru, Tai Cymunedol Cymru a Chwarae Teg, fe gynhalion ni lansiad Cymreig amlwg ar gyfer menter Arwain Amrywiaeth erbyn 2020 y Sefydliad Tai Siartredig, sy’n herio’r sector i ymrwymo i 10 addewid a’u gwireddu yn y blynyddoedd nesaf, a fydd, gyda gobaith, yn arwain at gynnydd yn yr amrywiaeth mewn safleoedd arwain – rhywbeth sy’n dal i fod yn her ledled Cymru a’r DU. Cyn y lansiad fe gynhalion ni sesiwn lle ymrwymodd bob partner i hyrwyddo a monitro llwyddiant y fenter hon, ac rydyn ni’n falch iawn o weld y sylw cadarnhaol a roddwyd i’r sesiwn yn y cyfryngau, ac roedd hi’n bleser cael Lesley Griffiths yno. Ar y pryd, hi oedd y Gweinidog oedd yn gyfrifol am dai.

“Rydyn ni hefyd wedi lansio ein hymgyrch #LeaderLikeMe sy’n gofyn i unigolion wneud addewidion ymarferol a phersonol sy’n ymwneud â chefnogi pobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ar eu taith arwain. Yn ystod y flwyddyn ar ôl y lansiad, fe welon ni effeithiau cychwynnol ardderchog #LeaderLikeMe, a byddwn yn adrodd arnynt yn y flwyddyn ganlynol.”

Mae mynd i’r afael â’r stigma ynghylch iechyd meddwl a chodi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl ac atebion iddynt wedi bod yn rhan bwysig o’n gwaith eleni, ac yn flaenoriaeth glir i’n haelodau. Cynhalion ni seminar lwyddiannus iawn ar y pwnc hwn, yn ogystal â darparu gweithdai mewn sefydliadau a chodi ymwybyddiaeth o’r mater pwysig hwn ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl.

Gwnaethon ni barhau i ddarparu cynnig digwyddiad arloesol ac amrywiol ar y prif faterion polisi ac ymarfer, gan ganolbwyntio ar hyrwyddo atebion ac ymarfer da. Cawson ni adborth ardderchog ar ein cynhadledd Creu Cartrefi flynyddol, a gynhaliwyd ar yr union ddiwrnod “yn y dyfodol” sydd yn y ffilm “Back to the Future” enwog. Roedd hi hefyd yn ben-blwydd arnom yn 10 oed, ac yn ddigon teg fe roeon ni sylw i gyflawniadau yng nghyswllt cydraddoldeb ac amrywiaeth, a hefyd i’r heriau y mae’n rhaid i ni ganolbwyntio arnynt o hyd. Yn ein barn ni, mae adborth un cyfranogwr yn crynhoi’r diwrnod:

“Am gynhadledd wych!  Cynnwys ardderchog wedi’i gyflwyno’n ardderchog.  Siaradwyr di-ail.  Fe ddysgais gynifer o bethau defnyddiol ac roedd llawer i feddwl amdano.  Roedd y lleoliad yn gampus a’r bwyd a diod yn hyfryd.  Doedd dim byd o’i le.  Rwy’n edrych ymlaen at gynhadledd flwyddyn nesaf yn barod!”

Rydyn ni hefyd wedi cynnal seminarau ar bynciau megis Arweinyddiaeth ac Amrywiaeth, cysylltiadau rhwng agendâu gwrth-dlodi a chydraddoldeb, iechyd meddwl a chymhwysedd tai yng nghyswllt mewnfudo.  Roedd pob un o’n digwyddiadau eleni yn llwyddiant, gan i ni ganolbwyntio ar arloesedd, ymarfer sy’n ysbrydoli a chyfle i rwydweithio – pynciau teilwng iawn ym marn ein haelodau a’n partneriaid.

Eleni, rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu ein gwefan newydd ac wedi dechrau’r gwaith hwnnw, er mwyn cael gwefan â gwell nodweddion a chynllun, ond yn bwysicach na dim, gwefan a fydd yn gallu bod yn ganolbwynt gwybodaeth arloesol ar gyfer pob agwedd ar gydraddoldeb, amrywiaeth a thai. Bydd hefyd yn golygu bod gwell cyfle i arddangos gwaith ein haelodau ac ehangu ein hagweddau arwain yn y sector drwy gyfrwng blogiau, fideos ac astudiaethau achos.

 

Cynaliadwyedd

piggy

Mae cynaliadwyedd yn bwysig iawn i ni. Mae Tai Pawb yn sefydliad bach gyda chylch gwaith mawr, a gallai unrhyw risgiau ariannol fod â goblygiadau difrifol i’n gweithgarwch. Rydyn ni wedi mabwysiadau agwedd ragweithiol at sicrhau ein cynaliadwyedd yn y tymor hir.  Yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi colli tua 23% o’n cyllid grant craidd, ond wedi tyfu fel sefydliad er gwaethaf hynny – o 5 i 6 aelod o staff, gan wneud gwaith ardderchog.

 

Ni fu newid yn hynny o beth eleni. Er enghraifft, fe wnaethon ni adfywio ein rolau tîm a chyflogi Rheolwr Datblygu Busnes er mwyn sbarduno cynaliadwyedd tymor hir y sefydliad, rheoli datblygiad busnes presennol a newydd Tai Pawb ledled Cymru, a helpu i sicrhau adnoddau digonol i helpu’r sefydliad i gyflawni ei weledigaeth a’i nod.

Canolbwyntion ni ar fentrau sydd nid yn unig yn cael effaith uchel o ran ein nod, ond hefyd yn darparu ffynhonnell incwm fwy cynaliadwy neu’n sicrhau’r effaith ariannol orau, gan gynnwys y nod ansawdd, tendrau a cheisiadau am grantiau.

Datblygon ni gynllun cyfathrebu a alluogodd ni i sicrhau gwell cydbwysedd rhwng ein gweithgareddau a’n cyfathrebu drwy gydol y flwyddyn, ac i farchnata’n hunain yn fwy effeithiol.

Gwnaethon ni hefyd ddatblygu ac ehangu ein cronfa ddata cysylltiadau i wneud yn siŵr ein bod yn cysylltu â’r bobl gywir, ar y lefel gywir, yn y sefydliadau cywir.

 

EIN CYLLID

  • Incwm
      • Buddsoddiadau £2,465
      • Ffioedd Aelodaeth £59,575
      • Digwyddiadau Tai Pawb £9,956
      • Gweithgareddau Elusennol £212,328
      • Incwm arall £566
      • CYFANSWM =£284,890
  • Expenditure
      • Gweithgareddau Elusennol: £264,921
      • Cyfanswm: £264,921

DIOLCH YN FAWR

Hoffem ddiolch i’n holl aelodau am gefnogi Tai Pawb eleni. Fydden ni ddim wedi gallu gwneud hyn heboch chi! Hoffem ddiolch hefyd i’r bobl a’r sefydliadau canlynol yn arbennig, gan gynnwys cyllidwyr, noddwyr, aelodau a phartneriaid:

 

Llywodraeth Cymru

Cymorth Cymru

Tenantiaid Cymru

Shelter Cymru

TPAS Cymru

Sefydliad Tai Siartredig Cymru

Cartrefi Cymunedol Cymru

Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Uzo Iwobi OBE

Y Parch Aled Edwards OBE

Tamsin Stirling

CREO

Yogi Creative

Bron Afon

Cymdeithas Tai Sir Fynwy

Diolch o galon i’n staff a’n ymddiriedolwyr rhagorol hefyd:

Katija Dew –  am arwain y sefydliad fel Cyfarwyddwr Dros Dro yn fedrus iawn

Tim Crahart

Andrea Penny

Menna Jones

Mair Thomas

Matthew O’Grady

Emma Reeves-McAll

Alicja Zalesinska

Michelle Reid

Victoria Hiscocks

Samantha Morgan

Helen Taylor

Stuart Epps

Kevin Howell

Janice Bell

Mwenya Chimba

Mark Jennings

Robin Staines

Julie Nicholas

Ruth Nortey

Jonathan Conway