Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ym maes Tai yng Nghymru

Caffi Gwneud nid Dweud

Pwrpas y sesiynau hyn yw creu man diogel a chyfrinachol i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y sector ddod at ei gilydd i sgwrsio. Byddwn yn gofyn fesul un sut mae pawb, ac yna’n trafod gwahanol bynciau.

Rydyn ni’n falch iawn o’ch croesawu chi’n ôl i Gaffi Gwneud nid Dweud (Boreau Coffi Gwneud nid Dweud gynt) – man diogel, cefnogol a chyfrinachol sydd wedi’i greu’n benodol ar gyfer cydweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar draws y sector tai.

Gwybodaeth am Gaffi Gwneud nid Dweud

Mae Caffi Gwneud nid Dweud yn gyfarfod anffurfiol sydd wedi’i gynllunio i ddod â phobl at ei gilydd i gael sgwrs onest, dysgu ar y cyd, a chefnogi ei gilydd. P’un a ydych chi’n newydd i Gwneud nid Dweud, neu wedi bod mewn cysylltiad ers y cychwyn cyntaf, mae hwn yn fan lle mae eich profiadau’n bwysig.

Rydyn ni’n cwrdd tair gwaith y flwyddyn – mae dyddiadau’r cyfarfodydd yn y dyfodol wedi’u rhestru isod. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal ar-lein, ond bydd y ddau gyfarfod nesaf yn cael eu cynnal mewn lleoliad i’w gadarnhau.

Byddwn yn dechrau drwy ofyn fesul un sut mae pawb, cyn cynnal trafodaeth agored, dan arweiniad, sy’n canolbwyntio ar y pynciau canlynol:

  • Pa heriau ydyn ni’n eu hwynebu ar hyn o bryd?
  • Pa brofiadau cadarnhaol allwn ni eu dathlu?
  • Ydy Gwneud nid Dweud wedi cael effaith? Os naddo, pam?
  • Beth ellir ei wella?
  • Sut gall y Panel eich cefnogi chi’n well?

 

Ein nod yw creu amgylchedd cynnes a chynhwysol lle gall y rhai sy’n bresennol rannu’n agored a theimlo eu bod nhw’n cael eu clywed.

Cyfrinachedd

Mae’r caffi hwn yn fan cyfrinachol, caeedig.
Ni fydd unrhyw beth y bydd cyfranogwyr yn ei rannu yn cael ei gofnodi, ei adrodd, na’i briodoli i unrhyw un. Rydyn ni am i chi deimlo’n ddiogel, eich bod yn cael eich parchu a’ch bod yn gallu siarad yn agored.

Pwy all fod yn bresennol?

Mae’r sesiwn hon yn agored i weithwyr proffesiynol Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n gweithio yn y sector tai.

Mae croeso i chi anfon y neges hon ymlaen at bawb a fyddai’n cael budd o ddod i’r sesiynau.

Dyddiadau wedi’u cynllunio ar gyfer eleni

Rydyn ni’n cyfarfod tair gwaith y flwyddyn:

  • 18 Mehefin 2026 – Ar-lein (MS Teams)
  • 8 Hydref 2026 – Wyneb yn wyneb, lleoliad i’w gadarnhau
  • 11 Chwefror 2027 – Wyneb yn wyneb, lleoliad i’w gadarnhau

 

Eisiau ymuno?

Cysylltu

Os hoffech chi ymuno â’r rhestr gyswllt ar gyfer Caffi Gwneud nid Dweud, cysylltwch â:
evelyn@taipawb.org neu info@taipawb.org

Latte art in cappuccino coffee cup at cafe table. Closeup of rosetta flower drawing in foam.