Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ym maes Tai yng Nghymru

Rhwydwaith Cyswllt EDI

Ein rhwydwaith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) ar gyfer aelodau yn unig

Yn deillio o adborth gan aelodau, bwriad Cyswllt EDI yw cynnig man diogel i aelodau rwydweithio â phobl eraill o’r un anian yn y sector tai i rannu arferion da, a chael cymorth ar unrhyw fater cydraddoldeb y maent hwy neu eu sefydliad yn gweithio arno. Mae’r rhwydwaith yn agored i bob aelod, ac rydyn ni’n annog cynrychiolaeth gan bawb.

Mae eitemau agenda safonol wedi’u gosod, fel Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ARWAP) a diweddariadau polisi/deddfwriaeth, ond mae’r rhan fwyaf o’r agenda’n cael ei siapio gan y rhai sy’n bresennol. Mae rhagor o wybodaeth am y rhwydwaith ar gael ym mlog Vicki: The magic of a community of practice

Mae’r sesiynau hyn yn cael eu cadeirio gan Mena Fombo, Cartrefi Cymoedd Merthyr.

Mae’r rhwydwaith yn cael ei gynnal ar-lein drwy Teams, a bydd cyfarfodydd eleni yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:

23 Gorffennaf 2026: 10am – 12pm

22 Hydref 2026: 10am – 12pm

28 Ionawr 2027: 10am – 12pm

Cyfeiriwch at y EDI Network Terms of Reference am ragor o wybodaeth.

Eisiau ymuno?

Os hoffech chi ymuno â’r rhwydwaith, anfonwch e-bost at Anna yn anna@taipawb.org neu info@taipawb.org

Jobs Page Image (Twitter Post)(8)