Tai Pawb yn lansio Pecyn Cymorth Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb

Mae Tai Pawb wedi lansio Pecyn Cymorth Newydd Sbon i helpu mudiadau tai i gynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb.

Copy of Tai Pawb's Equality Impact Assessment Toolkit

Cafodd y pecyn cymorth ei gynhyrchu i roi arweiniad i’r broses sydd wedi bod yn her i lawer o fudiadau tai. Defnyddiodd Tai Pawb adborth gan ddarparwyr tai i ddyfeisio pecyn cymorth sy’n defnyddio proses cam wrth gam i greu dull syml a fydd yn galluogi mudiadau i ddeall yn llawn effaith eu penderfyniadau ar unigolion a chymunedau amrywiol ac i wella eu harferion gweithio.
Mae’r pecyn cymorth yn cael ei ategu hefyd gan ail gyhoeddiad What is an Equality Impact Assessment 2016, sy’n ymdrech i helpu staff i ddeall yr angen am asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb a’u rôl yn eu mudiad. Mae’r pecyn cymorth hefyd yn cynnwys enghraifft o ffurflen i asesu’r effaith ar gydraddoldeb.
Gallwch ddarllen rhagor am asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb a llwytho’r pecyn cymorth i lawr yma.

Back
Verified by MonsterInsights