Yn 2013, symudodd Elaine i’r sector nid-er-elw yn gweithio i sefydliad a oedd yn cefnogi pobl sydd ag Anableddau Dysgu i fyw’n annibynnol. Rhoddodd y cyfle hwn well dealltwriaeth iddi o bwysigrwydd cael cartref diogel a sut, gyda’r math cywir o gefnogaeth sy’n canolbwyntio ar y person, gall alluogi pobl i dyfu a datblygu.
Rôl ddiweddaraf Elaine oedd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl, Diwylliant a Chyfathrebu gyda ClwydAlyn. Ymunodd â ClwydAlyn yn 2015 fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ac fe’i penodwyd i’r Tîm Arweinyddiaeth Weithredol yn 2018.
Mae Elaine yn falch iawn o fod yn rhan o Fwrdd Tai Pawb a chefnogi’r tîm wrth iddynt gyflawni eu hamcanion strategol.