Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ym maes Tai yng Nghymru

Polisi Cwcis

Mae’r Polisi Cwcis hwn yn egluro sut mae Tai Pawb yn defnyddio cwcis a thechnolegau tebyg ar ein gwefan, www.taipawb.org.

Dylid ei ddarllen ochr yn ochr â’n Polisi Preifatrwydd, sy'n egluro sut rydyn ni’n casglu, yn defnyddio, yn storio ac yn diogelu gwybodaeth bersonol.

Pwy ydyn ni

Tai Pawb ydyn ni. Elusen gofrestredig, rhif 1110078 a chwmni sydd wedi’i gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau yng Nghymru gyda rhif cofrestru’r cwmni 05282554.

Cyfeiriad: Llys Trident, Tŷ Mariners, East Moors Road, Caerdydd, CF24 5TD.

Gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r manylion ar y wefan hon.

Beth yw cwcis

Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu gosod ar eich dyfais pan fyddwch chi’n ymweld â gwefan. Maen nhw’n helpu gwefannau i weithio’n iawn, cofio dewisiadau rydych chi’n eu gwneud, deall sut mae pobl yn defnyddio’r wefan, a chefnogi diogelwch.

Mae’r polisi hwn hefyd yn cwmpasu technolegau tebyg, fel picseli, tagiau, sgriptiau, storio lleol ac offer eraill sy’n storio gwybodaeth ar eich dyfais, neu’n cael mynediad at wybodaeth oddi arni.

Dim ond tra bod eich porwr ar agor y mae rhai cwcis yn para. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gwcis sesiwn. Mae eraill yn aros ar eich dyfais am gyfnod penodol, oni bai eich bod yn eu dileu yn gynt. Gelwir y rhain yn gwcis parhaus.

Gall cwcis gael eu gosod gan Tai Pawb yn uniongyrchol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gwcis parti cyntaf. Gall sefydliadau eraill y defnyddiwn eu gwasanaethau ar ein gwefan osod cwcis hefyd. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gwcis trydydd parti.

Sut rydyn ni’n defnyddio cwcis a thechnolegau tebyg

Rydyn ni’n defnyddio cwcis a thechnolegau tebyg i wneud y canlynol:

  • sicrhau bod ein gwefan yn gweithio’n iawn;
  • cadw ein gwefan yn ddiogel;
  • cofio eich dewisiadau cwcis;
  • gwella ein gwefan a’n gwasanaethau;
  • cefnogi cynnwys neu ddolenni sydd wedi’u mewnblannu i wasanaethau eraill, lle cânt eu defnyddio.

Ar hyn o bryd nid ydym yn defnyddio cwcis i ddangos hysbysebion wedi’u targedu, ail-dargedu ymwelwyr, nac olrhain ymwelwyr ar draws gwefannau eraill at ddibenion marchnata.

Mathau o gwcis a ddefnyddiwn

Cwcis sy’n gwbl angenrheidiol

Mae angen y cwcis hyn er mwyn i’r wefan weithio’n iawn ac yn ddiogel. Efallai y byddan nhw’n cael eu defnyddio ar gyfer y canlynol:

  • llwytho tudalennau’n gywir;
  • cofio eich dewisiadau iaith;
  • cofio eich dewisiadau cwcis;
  • cefnogi diogelwch;
  • atal twyll neu gamddefnydd;
  • cynnal nodweddion y wefan; a
  • galluogi’r gwasanaethau rydych chi’n gofyn amdanyn nhw.

Ni allwch ddiffodd cwcis sy’n gwbl angenrheidiol drwy ein gosodiadau cwcis oherwydd bod eu hangen ar y wefan i weithredu. Efallai y byddwch yn gallu eu rhwystro drwy ddefnyddio gosodiadau eich porwr, ond efallai na fydd rhai rhannau o’r wefan yn gweithio’n iawn.

Dadansoddeg a chwcis ystadegol

Rydyn ni’n defnyddio gwybodaeth ddadansoddeg i ddeall sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan a’i gwella.

Caiff ein dadansoddeg ei defnyddio at ddibenion ystadegol. Rydyn ni’n defnyddio gwybodaeth gyfanredol a dienw lle bo modd, fel:

  • nifer yr ymweliadau â thudalennau;
  • sut mae pobl yn symud o amgylch y wefan;
  • pa dudalennau sy’n cael eu defnyddio fwyaf neu leiaf;
  • gwybodaeth am y ddyfais, y porwr a’r system weithredu;
  • gwybodaeth ddaearyddol lefel uchel, fel gwlad neu ddinas;
  • gwybodaeth gyffredinol am gyfeirio, fel a ddaeth ymwelwyr o beiriant chwilio neu wefan arall; a
  • gwybodaeth am berfformiad, fel llwytho tudalennau neu wallau.

Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i ddeall a yw ein gwefan yn gweithio’n dda a sut gallwn ei gwella.

Nid yw ein gwasanaeth dadansoddeg yn gosod cwcis nac yn olrhain gwybodaeth bersonol.

Cwcis Dewisol a Swyddogaethol

Efallai y byddwn yn defnyddio cwcis dewisol neu swyddogaethol i gofio’r dewisiadau a wnewch, fel gosodiadau’r dangosydd neu ddewisiadau eraill ar y wefan.

Mae’r cwcis hyn yn helpu i wella eich profiad o’n gwefan. Os byddwch yn analluogi’r cwcis, efallai na fydd rhai nodweddion yn gweithio’n ôl y disgwyl.

Cynnwys wedi’i fewnblannu a chyfryngau cymdeithasol

Gall rhai tudalennau gynnwys dolenni, botymau neu gynnwys wedi’u mewnblannu o wefannau neu blatfformau eraill, fel platfformau cyfryngau cymdeithasol neu ddarparwyr fideo.

Os ydych chi’n rhyngweithio â chynnwys wedi’i fewnblannu neu’n rhannu botymau, gall y trydydd parti perthnasol osod cwcis neu dechnolegau tebyg. Gall y trydydd partïon hynny ddefnyddio cwcis at eu dibenion eu hunain, gan gynnwys dadansoddeg, personoli neu hysbysebu.

Lle bo’n bosib, rydyn ni’n defnyddio opsiynau sy’n gyfeillgar i breifatrwydd, fel dolenni yn hytrach nag offer olrhain wedi’u mewnblannu. Os caiff cwcis trydydd parti eu defnyddio, byddwn yn darparu gwybodaeth amdanyn nhw ac yn gofyn am ganiatâd lle bo’n bosib.

Caniatâd a’ch dewisiadau chi

Byddwn yn gofyn am eich caniatâd cyn defnyddio cwcis neu dechnolegau tebyg sy’n gofyn am ganiatâd.

Gallwch newid eich dewisiadau cwcis ar unrhyw adeg.

Lle mae’r gyfraith yn caniatáu i ni ddefnyddio cwcis penodol heb ganiatâd, fel cwcis sy’n gwbl angenrheidiol, byddwn yn dal i roi gwybodaeth glir amdanyn nhw. Lle bo angen, byddwn yn cynnig ffordd syml i chi wrthwynebu.

Cwcis a ddefnyddiwn

Mae’r tabl isod yn egluro’r cwcis a’r technolegau tebyg a ddefnyddiwn ar ein gwefan.

Cwci neu dechnoleg
Darparwr
Pwrpas
Math
Hyd
Caniatâd neu eithriad
wp-wpml_current_language
taipawb.org
Yn storio’r iaith/gosodiadau iaith cyfredol.
Parti Cyntaf
sesiwn
Swyddogaethol
elementor
taipawb.org
Yn caniatáu i berchennog y wefan weithredu neu newid cynnwys y wefan mewn amser real. Wedi’i osod ar gyfer gweinyddwyr sydd wedi mewngofnodi ac sy’n gallu addasu’r wefan yn unig. Ni fydd yn cael ei osod ar gyfer ymwelwyr nac aelodau sydd wedi mewngofnodi.
Parti Cyntaf
byth
Angenrheidiol
wpEmojiSettingsSupports
taipawb.org
Gosod pryd mae defnyddiwr yn rhyngweithio ag emojis ar y wefan. Mae’n helpu i benderfynu a all porwr y defnyddiwr arddangos emojis yn iawn.
Parti Cyntaf
sesiwn
Swyddogaethol
beacon_vid
Beacon CRM
Rheoli eich sesiwn Beacon – a ddefnyddir i nodi ymwelwyr sy’n dychwelyd a rheoli cyd-destun sesiynau ar draws gwahanol dudalennau
Trydydd parti
1 blwyddyn
Swyddogaethol
__Secure-ROLLOUT_TOKEN
YouTube
Mae’r cwci hwn wedi’i osod gan YouTube ac mae’n cyflwyno nodweddion newydd YouTube fesul cam.
Trydydd parti
180 diwrnod
Angenrheidiol

Darparwyr dadansoddeg

Mae ein gwefan yn defnyddio Plausible – darparwr dadansoddeg sy’n gyfeillgar i breifatrwydd – i’n helpu i ddeall sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan.

Mae Plausible yn darparu dadansoddeg ffynhonnell agored annibynnol wedi’i lleoli yn yr UE ac yn cynnig ffordd syml i berchnogion gwefannau ddeall traffig heb fonitro eu hymwelwyr. Nid yw’n creu cwcis ac nid yw’n casglu data personol, yn hytrach mae’n cynhyrchu gwybodaeth gyfanredol a dienw. Nid ydym yn defnyddio gwybodaeth ddadansoddeg i adnabod ymwelwyr unigol, proffilio unigolion, na’u holrhain ar draws gwefannau eraill.

Gall darparwyr dadansoddeg brosesu gwybodaeth ar ein rhan. Gall rhai darparwyr brosesu gwybodaeth y tu allan i’r DU. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn sicrhau bod mesurau diogelwch priodol ar waith, fel yr eglurir yn ein Polisi Preifatrwydd.

Gallwch chi reoli cwcis drwy osodiadau eich porwr.

Sut i reoli cwcis drwy eich porwr

Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu i chi reoli cwcis drwy osodiadau eich porwr. Fel arfer gallwch chi wneud y canlynol:

  • gweld pa gwcis sydd wedi’u storio ar eich dyfais;
  • dileu cwcis;
  • rhwystro pob cwci;
  • rhwystro cwcis trydydd parti; neu
  • osod dewisiadau ar gyfer gwefannau penodol.

Mae’r gosodiadau sydd ar gael yn dibynnu ar eich porwr. Os byddwch yn rhwystro pob cwci, efallai na fydd rhai rhannau o’n gwefan yn gweithio’n iawn.

Gwefannau trydydd parti

Gall ein gwefan gysylltu â gwefannau eraill. Nid yw’r Polisi Cwcis hwn yn berthnasol i’r gwefannau hynny.

Gall gwefannau a phlatfformau eraill ddefnyddio eu cwcis eu hunain a thechnolegau tebyg. Rydyn ni’n eich annog i ddarllen eu polisïau cwcis a’u hysbysiadau preifatrwydd.

Newidiadau i’r Polisi Cwcis hwn

Efallai y byddwn yn diweddaru’r Polisi Cwcis hwn o bryd i’w gilydd i adlewyrchu newidiadau yn ein gwefan, cwcis, technoleg, gofynion cyfreithiol neu ganllawiau.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Polisi Cwcis hwn neu sut rydyn ni’n defnyddio cwcis a thechnolegau tebyg, cysylltwch â ni.

Diweddarwyd Ddiwethaf: July 14, 2026