Tai a chymorth i ffoaduriaid

Yn Ebrill 2019, cyhoeddodd Tai Pawb adroddiad newydd yn edrych ar wella sefyllfa tai ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru. Mae’r adroddiad, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a ysgrifennwyd gan Joy Kent, yn archwilio dichonoldeb sefydlu llety a chymorth dros dro ar gyfer ffoaduriaid yng Nghymru, yn seiliedig ar fodelau a sefydlwyd eisoes gan ddarparwyr arbenigol yn Lloegr.

Amcan y llety a’r cymorth arfaethedig yw atal digartrefedd trwy gynnig sylfaen sefydlog a chymorth wedi’i ddylunio’n bwrpasol i ffoaduriaid i’w helpu i integreiddio a chyflawni eu nodau. Mae’r astudiaeth ddichonoldeb yn edrych yn benodol ar ddigartrefedd ffoaduriaid yn ystod y cyfnod ‘symud ymlaen’.

Ar hyn o bryd, pan fo person yn cael statws ffoadur, rhoddir 28 diwrnod iddynt symud allan o’r llety ceiswyr lloches a ddarperir drwy’r Swyddfa Gartref. Yn ystod y cyfnod hwn, mae angen iddynt ddod o hyd i gartref, cael rhif Yswiriant Gwladol a gwneud cais am fudd-daliadau neu ddod o hyd i waith. Mae oedi gweinyddol yn ystod y cyfnod hwn yn aml yn arwain at amddifadrwydd. Gall y ffoaduriaid a theuluoedd o ffoaduriaid hynny sy’n cael eu hystyried fel bod mewn angen blaenoriaethol dreulio cyfnodau hir mewn llety dros dro sydd yn aml yn anaddas neu’n anniogel. Yn gyffredinol, nid yw’r bobl nad ydynt yn cael eu hystyried mewn angen blaenoriaethol yn gallu cael gafael ar dai rhent preifat, oherwydd bod angen talu ffioedd asiantaethau, talu mis neu ddau o rent ymlaen llaw, yr angen am warantwr a’r oedi hir wrth brosesu benthyciadau integreiddio. (Adroddiad Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ‘Roeddwn i’n arfer bod yn rhywun’, 2017)

Mae’r astudiaeth ddichonoldeb yn cynnwys nodi modelau a ddatblygwyd mewn mannau eraill, ac mae’n ystyried eu potensial i fod yn gynaliadwy a chyfrannu’n cadarnhaol at fywydau ac integreiddiad ffoaduriaid yng nghyd-destun Cymru, gan ystyried yn benodol y materion a’r rhwystrau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a’i bartneriaid ac a ymatebwyd iddynt gan bolisi Llywodraeth Cymru.

Mae’r adroddiad yn gwneud argymhellion gyda’r nod o sicrhau dichonoldeb unrhyw ddarpariaeth tai posibl ar gyfer ffoaduriaid. Mae hefyd yn argymell bod Tai Pawb yn gwneud gwaith pellach gyda mudiadau tai, mudiadau ffoaduriaid a phartneriaid eraill i symud ymlaen gyda datblygu’r atebion tai a argymhellir.

Yn ystod ac ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, dechreuodd Tai Pawb weithio gyda Llywodraeth Cymru, Joy Kent a nifer o gymdeithasau tai yng Nghymru i symud argymhellion yr adroddiad ymlaen. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag alicja@taipawb.org.

Astudiaeth Ddichonoldeb Tai a Chymorth i Ffoaduriaid

 

Ein gwaith ar argymhellion

Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad uchod, aeth Tai Pawb ati i weithio gyda nifer o gymdeithasau tai i symud argymhellion yr adroddiad ymlaen:

  • Ym mis Mai 2019, fe wnaethom gyfarfod â Llywodraeth Cymru a nifer o gymdeithasau tai i ddechrau archwilio’r goblygiadau ymarferol o sefydlu cynlluniau peilot yng Nghymru. Roeddem yn falch o’r ymrwymiad gan y sector tai i fynd i’r afael â materion digartrefedd a chymorth tai.
  • Ym mis Gorffennaf 2019, fe wnaethom hwyluso cyfarfod rhwng y cymdeithasau tai sydd â diddordeb, Llywodraeth Cymru a’r Action Foundation – mudiad yn Newcastle sy’n darparu tai a chymorth yn llwyddiannus i ffoaduriaid ac i geiswyr lloches a wrthodwyd, gan ddefnyddio eiddo’r sector rhentu preifat. Rhoddodd y sesiwn wybodaeth ymarferol a thechnegol yr oedd mawr angen amdano am y materion ymarferol sydd ynghlwm â sefydlu tai â chymorth dros dro yng Nghymru. Rhoddodd blatfform hefyd ar gyfer cytuno ar y camau nesaf tuag at gyflawni’r nodau sy’n sylfaen i adroddiad dichonoldeb Tai Pawb. Mae hyn yn cynnwys:
    • gwell defnydd o’r tai a’r cymorth sy’n bodoli eisoes
    • dysgu pellach gan fudiadau yn Lloegr
    • gwneud achos ar y cyd dros yr angen i fynd i’r afael â digartrefedd ymysg ffoaduriaid mewn ardaloedd lleol fel sail ar gyfer datblygu cynlluniau peilot yn unol â Strategaeth Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru
    • ymgysylltu â mudiadau ffoaduriaid a cheiswyr lloches fel partneriaid hanfodol.