Polisi a Dylanwadu

 

 

Mae Tai Pawb yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff eraill sy’n gwneud penderfyniadau i sicrhau fod cydraddoldeb yn rhan creiddiol o bolisi tai yng Nghymru. Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod cyfreithiau, polisiau a phenderfyniadau tai yn arwain at effaith cadarnhaol ar fywydau pobl amrywiol Cymru ac nad yw’n arwain at wahaniaethu ac anfantais. Rydym yn ymateb i ymgynghoriadau, yn rhoi sylwadau ar faterion cyfredol ac yn dylanwadu ar rhanddeiliaid o ran pynciau allweddol eraill. 

 

Mae Tai Pawb hefyd yn codi ymwybyddiaeth o dai a’r problemau ehangach o ran anghydraddoldeb sy’n gwynebu pobl gyda nodweddion gwarchodedig. Rydym ni am i ddarparwyr, gwleidyddion, tenantiaid ac eraill fod yn ymwybodol o’r problemau mae pobl o grwpiau gwarchodedig yn eu gwynebu fel bod modd i ni weithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i atebion. Gallwn wneud hyn drwy ymgyrchoedd, cynhyrchu a rhannu ymchwil a chyhoeddiadau, rhoi sylwadau ar faterion cyfredol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy ein blog sylwadau a dadansoddi  a Diweddariadau Cydraddoldeb a Thai.