Gwiriadau Hawl i Rentu

 Mae Deddf Mewnfudo 2014 yn cynnwys darpariaethau sy’n ei wneud yn ofynnol i landlordiaid wirio statws mewnfudo pob tenant oedolyn newydd. Gall peidio â chynnal y gwiriadau, sy’n cael eu galw’n “Hawl i Rentu”, a darparu llety ar gyfer pobl sydd heb yr hawl i aros, arwain at gosbau o hyd at £3000. Ar hyn o bryd dim ond yn Lloegr mae’r darpariaethau wedi’u rhoi ar waith. Fodd bynnag mae’n debygol y byddant yn cael eu rhoi ar waith yng Nghymru yn fuan – er nad oes dyddiad wedi’i gyhoeddi. 

 

Mae Tai Pawb yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y sector i ddarparu llais ar effaithiau rhoi’r polisi ar waith yng Nghymru. Mae gan Tai Pawb bryderon difrifol y bydd rhoi’r polisi ar waith yng Nghymru yn arwain at wahaniaethu ac ymyleiddio pellach ymysg pobl o Leiafrifoedd Ethnig  Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw effeithiau negyddol posib Hawl i Rentu yn cael eu lleihau. Byddwn yn parhau i wylio’n agos yr hyn sydd yn digwydd yn Lloegr a’r modd y mae’r cynllun yn effeithio ar gymunedau.

 

 

Information

Am ragor o wybodaeth am wiriadau Hawl i Rentu a’i oblygiadau ar gyfer Cymru mae croeso i chi gysylltu â Swyddog Polisi a Materion Allanol Tai Pawb Emma Reeves-McAll emma@taipawb.org 029 2053 7634 .

Verified by MonsterInsights