Aelodaeth

Mae gan Tai Pawb dros 60 o aelodau, yn cynnwys cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, mudiadau trydydd sector, grwpiau cymunedol ac unigolion o bob rhan o Gymru. Ein haelodau sydd wrth galon ein gwaith.

Mae ymuno â Tai Pawb yn amlygu eich ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn eich mudiad ac mae’n cynnig buddion sylweddol. Ymunwch â ni yn ein gwaith i alluogi pawb i gael siawns cyfartal. Helpwch ni i ysbrydoli pobl a chymunedau i gofleidio cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Pam ymuno â ni

P’un ai ydych chi’n unigolyn sydd eisiau cefnogi ein gwaith neu’n sefydliad, byddem wrth ein bodd yn eich cael chi fel aelod.

Ydych chi’n credu fod gan bawb yr hawl i gael mynediad at dai o ansawdd a chartrefi sydd mewn cymunedau saff? Os ydych chi eisiau chwarae rhan mewn lleihau rhagfarn, gwahaniaethu, anfantais a thlodi sy’n gysylltiedig â thai – ymaelodwch â Tai Pawb.

Fel yr unig sefydliad sy’n arbenigo mewn Cydraddoldeb a Thai ar y lefel cenedlaethol yng Nghymru, rydym ni wedi bod yn arwain y ffordd ers 2005.

Rydym yn ddiolchgar i bob un o’n aelodau sydd eisioes wedi ymuno â ni. Y mwyaf o aelodau sy’n ymuno â ni, y mwyaf o waith bydd modd i ni ei wneud. Mae eich aelodaeth yn bwysig i ni.

Buddion ymuno

Pan fyddwch chi’n dod yn aelod o Tai Pawb bydd eich llais a’ch cefnogaeth yn ein helpu ni i ddylanwadu ac i godi ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb a thai gan arwain at newid cadarnhaol.

Byddwch chi hefyd yn derbyn ystod eang o fuddion gwych a fydd yn eich cefnogi chi a’ch sefydliad gyda unrhyw beth sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb. Byddwn yn hybu yr hyn rydych chi yn ei wneud, gan rannu’r ymarfer gorau o fewn y sector.

Anghenion a ein aelodau sydd wedi siapio Tai Pawb a’r gefnogaeth rydym ni yn ei chynnig. Mae gennym fewnwelediad unigryw i mewn i anghenion sefydliadau tai a grwpiau cydraddoldeb ac mae hyn yn ein helpu ni i gysylltu pobl gyda’u cymunedau ac i newid eu bywydau er gwell.

Buddion i Aelodau 2020-2021

Ddim yn aelod? Ymunwch nawr.

Ymgeisiwch yma

Neu gallwch drafod ymaelodi a darganfod mwy am y manteision i’ch aelodau trwy gysylltu â Helen Roach: helen@taipawb.org, 029 2053 7635.

 

Mae eich aelodaeth yn cefnogi ein gwaith i ddylanwadu ar lunwyr polisi i wneud polisi tai yn decach ac arwain agweddau yn y sector a thu hwnt.

Mae aelodau Tai Pawb yn hollbwysig i’n gwaith; mae ein cynorthwyo i ddatblygu’n gwasanaethau er mwyn cwrdd ag anghenion y maes yn rhoi cyfle ichi arwain y ffordd gyda’n syniadau a’n datrysiadau arloesol, gan droi amcanion yn ffaith.

Mae llawer o gefnogaeth pellach i’w gael gan Tai Pawb hefyd, yn dibynnu ar eich categori aelodaeth

Cliciwch isod i ddarganfod y buddion llawn a geir gyda phob un o’n pecynnau aelodaeth:

 

Cymorth gan Tai Pawb

  • Mynediad diderfyn rhad ac am ddim i’n Llinell Gymorth ar gyfer eich staff i gyd
  • Disgownt o fwy na 25% ar ymgynghoriaeth wedi’i deilwra

Hyfforddiant

  • Disgownt o fwy na 25% ar unrhyw un o’n cyrsiau hyfforddi, boed yn un parod neu wedi ei deilwra’n bwrpasol at eich anghenion. Gwelwch ein Llyfryn Hyfforddiant am ragor o fanylion.

Digwyddiadau a Rhwydweithio

  • Disgownt o 20% ar bob un o gyfarfodydd briffio a seminarau Tai Pawb
  • Disgownt o 20% ar ein cynhadledd flynyddol – yr unig gynhadledd tai a chydraddoldeb yng Nghymru – ynghyd â phrisiau rhatach ar gyfleoedd noddi/arddangos
  • Presenoldeb diderfyn rhad ac am ddim yn Rhwydwaith Cydraddoldeb Tai Cymru
  • Cyfleoedd i arddangos eich ymarfer da mewn cysylltiad â chydraddoldeb ac amrywiaeth i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, llywodraeth leol a chenedlaethol a’r gymdeithas yn ehangach
  • Hysbysebu’ch swyddi am ddim ar wefan Tai Pawb er mwyn cyrraedd cynulleidfa fwy amrywiol

Gwybodaeth

  • Caiff ein Briffiau Ymarfer Da Manwl ar faterion penodol eu hanfon atoch
  • Diweddariadau chwarterol drwy ebost ar y datblygiadau diweddaraf ym meysydd tai a chydraddoldeb
  • Mynediad drwy gyfrinair at ystod eang o adnoddau ar ein gwefan sydd ar gael i aelodau’n unig

Aelodau Cyswllt

Cymorth gan Tai Pawb

  • Mynediad diderfyn rhad ac am ddim i’n Llinell Gymorth ar gyfer eich staff i gyd
  • Disgownt o fwy na 25% ar ymgynghoriaeth wedi’i deilwra

Hyfforddiant

  • Disgownt o fwy na 25% ar unrhyw un o’n cyrsiau hyfforddi, boed yn un parod neu wedi ei deilwra’n bwrpasol at eich anghenion. Gwelwch ein Llyfryn Hyfforddiant am ragor o fanylion

Digwyddiadau a Rhwydweithio

  • Disgownt o 20% ar bob un o gyfarfodydd briffio a seminarau Tai Pawb
  • Disgownt o 20% ar ein cynhadledd flynyddol – yr unig gynhadledd tai a chydraddoldeb yng Nghymru – ynghyd â phrisiau rhatach ar gyfleoedd noddi/arddangos
  • Presenoldeb diderfyn rhad ac am ddim yn Rhwydwaith Cydraddoldeb Tai Cymru
  • Cyfleoedd i arddangos eich ymarfer da mewn cysylltiad â chydraddoldeb ac amrywiaeth i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, llywodraeth leol a chenedlaethol a’r gymdeithas yn ehangach

Gwybodaeth

  • Caiff ein Briffiau Ymarfer Da Manwl ar faterion penodol eu hanfon atoch
  • Diweddariadau chwarterol drwy ebost ar y datblygiadau diweddaraf ym meysydd tai a chydraddoldeb
    Mynediad drwy gyfrinair at ystod eang o adnoddau ar ein gwefan sydd ar gael i aelodau’n unig

Dylanwad ac Arloesedd

  • Bydd eich aelodaeth yn cefnogi’n gwaith o ddylanwadu ar lunwyr polisi er mwyn gwneud polisi tai yn decach ac i ysgogi syniadaeth newydd yn y sector a thu hwn
  • Mae aelodau Tai Pawb yn hollbwysig i’n gwaith; mae ein cynorthwyo i ddatblygu’n gwasanaethau er mwyn cwrdd ag anghenion y maes yn rhoi cyfle ichi arwain y ffordd gyda’n syniadau a’n datrysiadau arloesol, gan droi amcanion yn ffaith

Eich Proffil

  • Stondin arddangos am ddim a hy
  • sbyseb chwarter tudalen yn ein cynhadledd flynyddol (taliadau cynrychiolwyr yn weithredol)Disgownt ar noddi’r gynhadledd
  • Cynnwys eich logo ar ein gwefan
  • Y defnydd o’n logo ‘Cefnogwr masnachol Tai Pawb’ ar eich gwefan a’ch deunyddiau

Cefnogwyr Masnachol

Cefnogaeth gan Tai Pawb

  • Ymchwiliad Iechyd Cydraddoldeb Blynyddol undydd rhad ac am ddim
  • Eich dewis o un o’r canlynol (0.5 diwrnod):
    • Adolygiad polisi/strategaeth/gweithdrefn/cynllun gweithredu rhad ac am ddim
    • Cefnogaeth Asesiad Effaith Cydraddoldeb rhad ac am ddim
    • Gweithdy wedi’i Hwyluso ar bwnc o’ch dewis yn rhad ac am ddim
  • Mynediad diderfyn rhad ac am ddim i’n Llinell Gymorth ar gyfer eich staff i gyd
  • Disgownt o fwy na 25% ar ymgynghoriaeth wedi’i deilwra
  • Disgownt o fwy na 25% ar ein nod ansawdd QED
  • Ein presenoldeb yn eich grwpiau gwaith, paneli cydraddoldeb ayyb (gan ddibynnu ar ein hargaeledd)

Hyfforddiant

  • Disgownt o fwy na 25% ar unrhyw un o’n cyrsiau hyfforddi, boed yn un parod neu wedi ei deilwra’n bwrpasol at eich anghenion. Gwelwch ein Llyfryn Hyfforddiant am ragor o fanylion.

Digwyddiadau a Rhwydweithio

  • Disgownt o 20% ar bob un o gyfarfodydd briffio a seminarau Tai Pawb
  • Disgownt o 20% ar ein cynhadledd flynyddol – yr unig gynhadledd tai a chydraddoldeb yng Nghymru – ynghyd â phrisiau rhatach ar gyfleoedd noddi/arddangos
  • Presenoldeb diderfyn rhad ac am ddim yn Rhwydwaith Cydraddoldeb Tai Cymru
  • Cyfleoedd i arddangos eich ymarfer da mewn cysylltiad â chydraddoldeb ac amrywiaeth i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, llywodraeth leol a chenedlaethol a’r gymdeithas yn ehangach
  • Hysbysebu’ch swyddi am ddim ar wefan Tai Pawb er mwyn cyrraedd cynulleidfa fwy amrywiol

Gwybodaeth

  • Caiff ein Briffiau Ymarfer Da Manwl ar faterion penodol eu hanfon atoch
  • Diweddariadau chwarterol drwy ebost ar y datblygiadau diweddaraf ym meysydd tai a chydraddoldeb
    Mynediad drwy gyfrinair at ystod eang o adnoddau ar ein gwefan sydd ar gael i aelodau’n unig

Cymdeithasau Tai

Cefnogaeth gan Tai Pawb

  • Ymchwiliad Iechyd Cydraddoldeb Blynyddol undydd rhad ac am ddim
  • Eich dewis o un o’r canlynol (0.5 diwrnod):
    • Adolygiad polisi/strategaeth/gweithdrefn/cynllun gweithredu rhad ac am ddim
    • Cefnogaeth Asesiad Effaith Cydraddoldeb rhad ac am ddim
    • Gweithdy wedi’i Hwyluso ar bwnc o’ch dewis yn rhad ac am ddim
  • Mynediad diderfyn rhad ac am ddim i’n Llinell Gymorth ar gyfer eich staff i gyd
  • Disgownt o fwy na 25% ar ymgynghoriaeth wedi’i deilwra
  • Ein presenoldeb yn eich grwpiau gwaith, paneli cydraddoldeb ayyb (gan ddibynnu ar ein hargaeledd)

Hyfforddiant

  • Disgownt o fwy na 25% ar unrhyw un o’n cyrsiau hyfforddi, boed yn un parod neu wedi ei deilwra’n bwrpasol at eich anghenion. Gwelwch ein Llyfryn Hyfforddiant am ragor o fanylion

Digwyddiadau a Rhwydweithio

  • Disgownt o 20% ar bob un o gyfarfodydd briffio a seminarau Tai Pawb
  • Disgownt o 20% ar ein cynhadledd flynyddol – yr unig gynhadledd tai a chydraddoldeb yng Nghymru – ynghyd â phrisiau rhatach ar gyfleoedd noddi/arddangos
  • Presenoldeb diderfyn rhad ac am ddim yn Rhwydwaith Cydraddoldeb Tai Cymru
  • Cyfleoedd i arddangos eich ymarfer da mewn cysylltiad â chydraddoldeb ac amrywiaeth i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, llywodraeth leol a chenedlaethol a’r gymdeithas yn ehangach
  • Hysbysebu’ch swyddi am ddim ar wefan Tai Pawb er mwyn cyrraedd cynulleidfa fwy amrywiol

Gwybodaeth

  • Caiff ein Briffiau Ymarfer Da Manwl ar faterion penodol eu hanfon atoch
  • Diweddariadau chwarterol drwy ebost ar y datblygiadau diweddaraf ym meysydd tai a chydraddoldeb
    Mynediad drwy gyfrinair at ystod eang o adnoddau ar ein gwefan sydd ar gael i aelodau’n unig

Pecyn Hyfforddiant a Chefnogaeth ar gyfer Awdurdodau Lleol

Cefnogaeth gan Tai Pawb

  • Disgownt o fwy na 25% ar ymgynghoriaeth wedi’i deilwra

Hyfforddiant

  • Disgownt o fwy na 25% ar unrhyw un o’n cyrsiau hyfforddi, boed yn un parod neu wedi ei deilwra’n bwrpasol at eich anghenion. Gwelwch ein Llyfryn Hyfforddiant am ragor o fanylion.

Digwyddiadau a Rhwydweithio

  • Disgownt o 20% ar bob un o gyfarfodydd briffio a seminarau Tai Pawb
  • Disgownt o 20% ar ein cynhadledd flynyddol – yr unig gynhadledd tai a chydraddoldeb yng Nghymru – ynghyd â phrisiau rhatach ar gyfleoedd noddi/arddangos
  • Presenoldeb diderfyn rhad ac am ddim yn Rhwydwaith Cydraddoldeb Tai Cymru
  • Cyfleoedd i arddangos eich ymarfer da mewn cysylltiad â chydraddoldeb ac amrywiaeth i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, llywodraeth leol a chenedlaethol a’r gymdeithas yn ehangach

Gwybodaeth

  • Caiff ein Briffiau Ymarfer Da Manwl ar faterion penodol eu hanfon atoch
  • Diweddariadau chwarterol drwy ebost ar y datblygiadau diweddaraf ym meysydd tai a chydraddoldeb

Cefnogwyr Unigol a Grwpiau Cymunedol

Ffioedd 2020-2021

Categori

Ffi Flynyddol

Aelodaeth Gyswllt
Ar gyfer: Mudiadau’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus
£230
Cefnogwyr Masnachol
Landlordiaid preifat a chanddynt lai na 10 eiddo £25*
Sector Rhentu Preifat yn cynnwys asiantau gosod, asiantau rheoli a landlordiaid preifat a chanddynt 10 eiddo neu ragor £230*
Holl gefnogwyr masnachol eraill £500
Pecyn Hyfforddiant a Chefnogaeth ar gyfer Awdurdodau Lleol
Awdurdodau Lleol gyda stoc £1,750
Awdurdodau Lleol ar ôl trosglwyddo stoc £250
Cefnogwyr Unigol a Grwpiau Cymunedol £25
Cymdeithasau Tai
0 – 500 o Gartrefi £320
501 – 1,000 o Gartrefi £550
1,001 – 2,000 o Gartrefi £935
2,001 – 3,000 o Gartrefi £1,050
3,001 – 7,000 o Gartrefi £1,830
7,001 – 10,000 o Gartrefi £2,090
10,001 – 15,000 o Gartrefi £2,620
15,001+ o Gartrefi £3,100

*Nid yw’r gyfradd is hon yn cynnwys stondin arddangos/hysbyseb am ddim yn ein cynhadledd

Tabl Prisio Gwasanaethau 2020-2021

Mynegol yn unig yw’r ffioedd isod a gallant amrywio o bryd i’w gilydd (er enghraifft, lle mae cyflenwyr allanol ynghlwm â’r gwasanaeth).

Fodd bynnag, mae’r gostyngiadau i aelodau yn gyson (gostyngiad o >25% ar hyfforddiant ac ymgynghoriaeth, , a gostyngiad o 20% ar ddigwyddiadau).

Pris Aelod

Pris Di-aelod

Ymgynghoriaeth a hyfforddiant yn eich sefydliad – 1 diwrnod (heb gynnwys teithio) £730 (>25% Arbed dros) £975
Ymgynghoriaeth a hyfforddiant yn eich sefydliad – 0.5 diwrnod (heb gynnwys teithio) £405 (25% Arbed dros) £540
Hyfforddiant mynediad agored – diwrnod llawn i bob person £105 (25% Arbed dros) £140
Hyfforddiant mynediad agored – diwrnod hanner i bob person £75 (25% Arbed dros) £100
Seminar – 1 diwrnod £105 (20% Arbed dros) £130
Seminar – 0.5 ddiwrnod £72 (20% Arbed dros) £90
Digwyddiadau briffio £52(20% Arbed dros) £65
Cynhadledd flynyddol £160 (20% Arbed dros) £200
Nod ansawdd QED (Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) LCC <399 Staff

Cam 1  – £5,400
Cam 2 – £2,200
Cyfanswm – £7,600

LCC >400 Staff

Cam 1 – £6,200
Cam 2 – £2,200
Cyfanswm – £8,400

ddim ar gael i’r rhai nad ydyn nhw’n aelodau
Cyfraddau Teithio 45c am y 100 milltir gyntaf, 15c wedyn

 

Ymgeisiwch yma