Buddion Llinell Gymorth Tai Pawb

029 2053 7635 / helpline@taipawb.org

 

Heddiw, bydd staff yn eich sefydliad chi wedi gwneud rhywbeth yn eu gwaith sy’n gysylltiedig a chydraddoldeb ac amrywiaeth. Bydd llawer o’r pethau rydym ni’n eu gwneud, yn enwedig o ran tai, yn cael effaith uniongyrchol neu an-uniongyrchol ar wahanol grwpiau. Gall hyn ymddangos yn her. Sut ydych chi’n gwneud yn siŵr eich bod chi’n gwneud pethau’n iawn ar gyfer grwpiau amrywiol ac yn gwybod sut gall pethau effeithio arnyn nhw? Mae’n bosib eich bod yn ansicr o ran ymarfer gorau a beth yw arwyddocad deddfwriaeth cydraddoldeb ar gyfer y gwaith rydych chi’n ei wneud.

Yn ffodus, mae cymorth wrth law drwy ein gwasanaeth llinell gymorth ar gyfer aelodau, sy’n darparu atebion am ddim i unrhyw gwestiynau neu ymholiadau gallech gael ar unrhyw faes o gydraddoldeb ac amrywiaeth. Gellir ei defnyddio gan unrhyw un o’ch staff unwaith rydych chi’n rhan o Tai Pawb. Ar gyfer ymholiadau ehangach mae’n bosib y byddwn ni’n eich cyfeirio at ein gwasanaeth ymgynghori.

Mae ein staff yn meddu ar arbenigedd mewn cydraddoldeb a thai, sy’n golygu bod modd i ni roi’r gefnogaeth orau posib i chi gyda’ch ymholiad.

Esiamplau o'r math o gwestiynau mae ein llinell gymorth yn ateb:

A fyddai’n bosib i chi ddarparu canllawiau ar ymarfer gorau o ran hunaniaeth rhyw, newid enwau, cofnodion a chyfrinachedd?

Lle fyddai modd i mi ddod o hyd i ddata allanol ar gyfer asesiad effaith cydraddoldeb rwy’n gweithio arni?

Rydym yn y broses o ddiweddaru ein polisi troseddau casineb, oes gennych chi unrhyw esiamplau?

Beth mae modd i mi ofyn i’n contractwyr ei wneud ar gyfer cydraddoldeb?

Sut ddylen ni eirio cwestiynau sy’n gysylltiedig a chyfeiriadedd rhywiol yn ein ffurflenni proffilio cwsmeriaid a monitro cydraddoldeb?

Beth sy’n ddisgwyliedig ein bod ni’n gwneud yn nhermau addasiadau rhesymol ar gyfer tenant Byddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain?

Information

Beth nad ydym ni'n ei gynnig

Nodwch nad oes modd i ni ddarparu cyngor cyfreithiol.

Nid oes modd ychwaith i ni ddarparu cyngor i denantiaid na staff ynghylch eu achosion unigol/personol. Fodd bynnag mae modd i ni gyfeirio pobl at sefydliadau all ddarparu cyngor a chymorth.