5th Tachwedd 2018

A Allech chi Ddarparu Gwasanaethau Cydraddoldeb ar gyfer Tai Pawb?

Written by Helen Roach

Tai Pawb yw’r unig elusen yng Nghymru sy’n canolbwyntio’n benodol ar hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yn y sector tai. Rydym yn dîm bychan ymroddedig, gydag aelodaeth o dros 60 o fudiadau ledled Cymru, yn cynnwys awdurdodau lleol, darparwyr gofal, mudiadau gwirfoddol a phob un o gymdeithasau tai Cymru.

One of our associates delivering a speech to people sitting around a large tableRydym yn chwilio am ymgynghorwyr llawrydd sy’n arbenigo mewn cydraddoldeb i weithio fel cysylltai i Tai Pawb, i’n helpu i ddarparu ein gwasanaethau i aelodau yn cynnwys hyfforddiant, ymgynghoriaeth, hwyluso ac asesu ansawdd, yn enwedig yng Ngogledd Cymru.

Bydd bod yn arbenigwr cysylltiol i Tai Pawb yn rhoi mynediad i chi at ein hadnoddau, ein cefnogaeth a’n cyrsiau hyfforddiant parod a bydd yn cynnig cyfleoedd gwaith rheolaidd i’w ddarparu ar ein rhan yn y sector tai. Mae gennym ddiddordeb mewn gweithio gydag arbenigwyr cysylltiol sydd ag ystod eang o wybodaeth cydraddoldeb, a fydd yn gallu darparu amrywiaeth o waith ar ein rhan, yn ogystal â’r rhai sydd ag arbenigedd ac yr hoffent ddarparu gwasanaethau sy’n gyfyngedig i bwnc penodol.

Rydym yn chwilio’n arbennig am arbenigwyr cysylltiol yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, yn cynnwys siaradwyr Cymraeg.

Rydym yn dathlu amrywiaeth a gwahaniaeth, ac mae’n ofynnol i’r person a benodir ddangos y gwerthoedd hyn yn eu gwaith.


Os oes gennych ddiddordeb mewn darparu gwasanaethau ar ran Tai Pawb, anfonwch gopi o’ch CV gan ddangos gwybodaeth, profiad a geirda perthnasol ynghyd â llythyr eglurhaol yn amlinellu’r mathau o wasanaeth y byddai gennych ddiddordeb yn eu darparu.

Gwahoddir ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer i gyfweliad.

I drafod y cyfle hwn ymhellach, cysylltwch â Helen Roach, Rheolwr Cysylltiadau Aelodau, ar 029 2053 7635 neu helen@taipawb.org.

Dylid cyflwyno eich CV ynghyd â llythyr eglurhaol i helen@taipawb.org erbyn 23 Tachwedd 2018.


A Allech chi Ddarparu Gwasanaethau Cydraddoldeb ar gyfer Tai Pawb? (.pdf)

Back