Cadeirydd newydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Tai Cymru
Mae Tai Pawb yn falch o gyhoeddi bod Amanda Attfield wedi ymgymryd â rôl Cadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Tai Cymru.
Ymunodd Amanda â’r Sector Tai yng Nghymru yn 2014, ar ôl bod yn gweithio mewn llywodraeth leol, yn y sectorau preifat, gwirfoddol ac annibynnol. Mae hi hefyd yn Gymrawd o Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.
Dywedodd Amanda, ‘Rwy’n falch iawn o fod yn Gadeirydd newydd y Rhwydwaith, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda phawb. Cyfarwyddwr Datblygu Sefydliadol ym Mron Afon yw fy rôl ar hyn o bryd, swydd sydd wedi ei lleoli yng Nghwmbran. Rwy’n angerddol ynglŷn â rôl tai cymdeithasol o ran gwella ansawdd a chyfleoedd bywyd. Ochr yn ochr â’r grŵp defnyddwyr, rydym wedi datblygu dull strategol tuag at Gydraddoldeb ym Mron Afon, a gafodd ei lansio yn gynharach eleni, gyda staff a thenantiaid yn gwneud addewidion eu hunain. Mae heriau mawr o’n blaenau gyda Diwygio Lles a galw mawr am dai, ond gyda’r sylfeini priodol, byddwn ni mewn sefyllfa dda i fynd i’r afael â nhw ac i anelu’n uchel. Gyda’n gilydd rydym yn gryfach, ac mae gan rwydweithiau rôl hanfodol o ran helpu i ddod â ni ynghyd.’
Mae Tai Pawb yn edrych ymlaen at weithio gydag Amanda drwy’r cyfnod newydd hwn yn y rhwydwaith.