28th Tachwedd 2017

Cyllid newydd gan EHRC ar gyfer Pecyn Cymorth Tai Hygyrch

Written by Alicja Zalesinska

Mae Tai Pawb, mewn partneriaeth ag Access Design Solutions, wedi’i gomisiynu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Equality and Human Rights Commission/EHRC) i ddatblygu pecyn cymorth ar gyfer Cynghorwyr lleol yng Nghymru a fydd yn hybu dealltwriaeth ynghylch anghenion tai pobl anabl a darpariaeth tai hygyrch.

Bydd y pecyn cymorth yn cefnogi aelodau etholedig wrth eu gwaith, ac yn eu symbylu i drafod dogfennau cynllunio strategol a pholisïau tai eraill i sicrhau bod anghenion pobl anabl yn cael eu hystyried o’r camau cynharaf.

Bydd yn cynnwys gwybodaeth am ofynion Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus; yr angen i ymgorffori ystyriaethau ynghylch anabledd a thai mewn cynllunio strategol; astudiaethau achos ar arfer gorau; a chyngor ymarferol ar gydymffurfiad cyfreithiol.

Bydd y pecyn cymorth yn cael ei ddatblygu drwy weithio’n agos gyda Chynghorwyr, awdurdodau lleol ac aelodau Tai Pawb i adolygu polisïau cyfredol, prosesau datblygiad strategol, ac i asesu’r ddealltwriaeth bresennol ar y pwnc. Trwy weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, bydd y pecyn cymorth yn rhoi ystyriaeth i’r lleihad yng nghyllidebau awdurdodau lleol.

Bwysicaf oll, bydd Tai Pawb hefyd yn gweithio gyda phobl anabl i sicrhau y caiff eu lleisiau eu clywed a bod y pecyn cymorth yn cael ei lywio gan eu profiadau nhw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2021, gydag disgwyl i 13,000 o’r cyfanswm hwn gael ei gyflenwi gan gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol. Bydd y pecyn cymorth yn chwarae rôl hollbwysig mewn llywio penderfyniadau fel bod nifer briodol o’r cartrefi newydd hyn yn hygyrch ac yn diwallu anghenion pobl anabl yn lleol.

Bydd Tai Pawb yn defnyddio ei sefyllfa unigryw fel y mudiad arweiniol ar gydraddoldeb yn y maes tai yng Nghymru i ddatblygu’r adnodd hon ar gyfer EHRC.

Mae Access Design Solutions yn ymgynghorwyr gyda phrofiad rhyngwladol, sy’n cyfuno profiad helaeth gydag anghenion mynediad a symudedd pobl anabl a phobl hŷn gyda medrau cynllunio ac asesu amgylcheddol proffesiynol, i ddarparu atebion dylunio a rheoli sy’n gyraeddadwy ac yn ymarferol.

Meddai Cyfarwyddwr Tai Pawb, Alicja Zalesinska:

Deallwn fod gwaith anodd yn wynebu Cynghorwyr wrth gydbwyso anghenion pawb yn eu ward, ac nid oes modd iddyn nhw fod yn arbenigwyr ym mhob maes. Gobeithiwn y bydd y pecyn cymorth EHRC newydd hwn yn caniatáu iddyn nhw wneud penderfyniadau mwy gwybodus a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl anabl.

Mae gan bobl anabl hawl i dai diogel, o ansawdd da a gwyddom y gall hyn arwain at welliannau ym mron iawn i bob agwedd o fywyd unigolyn, drwy wella llesiant a hybu annibyniaeth.

Back