Hyfforddiant

Mae Tai Pawb yn darparu gwasanaeth hyfforddi mewnol poblogaidd iawn ar gydraddoldeb, amrywiaeth a meysydd cysylltiedig. Rydym yn arbenigo mewn darparu hyfforddiant ar gydraddoldeb sydd wedi’i deilwra ar gyfer y sector tai.

Y cyrsiau mwyaf poblogaidd

Hyfforddiant ar Godi Ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb ac Amrywiaeth

Cynyddu gwybodaeth a gwella arferion

Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb.

Rydym am eich helpu chi i gael y broses yn iawn ar gyfer eich sefydliad

Delio â Digwyddiadau a Throseddau Casineb

Rydym yn hyrwyddo arfer gorau ac offer effeithiol

Cyrsiau

Cliciwch ar y cyrsiau isod i gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau hyfforddi rydyn ni’n eu cynnig a sut i archebu lle. Gallwch hefyd lawrlwytho copi o Gyfleoedd Hyfforddi a Dysgu Tai Pawb.

Pam ein dewis ni?

Tai Pawb yw’r unig sefydliad yng Nghymru sy’n meddu ar arbenigedd mewn tai a chydraddoldeb. Mae hyn yn golygu os y byddwch yn derbyn hyfforddiant gennym ni, bydd popeth yn canolbwyntio ar realiti tai yng Nghymru. Mae’r mwyafrif o’n staff wedi gweithio yn y sector tai ac mae ganddyn nhw ddyfnder gwybodaeth yn y ddau faes.

Mae deall cydraddoldeb ac amrywiaeth yn hollbwysig ar gyfer unrhyw un sy’n darparu gwasanaeth, waeth ym mha sector maent yn gweithio. Mae gan ein staff yr arbenigedd sy’n angenrheidiol i helpu eich sefydliad, p’un ai rydych yn y trydydd sector, y sector cyhoeddus neu’r sector breifat.

Mae Tai Pawb wedi bod yn darparu ein harbenigedd i’r sector dai ers 2005, gan ddarparu wybodaeth drylwyr ynglŷn â thai yng Nghymru.

Mae pob un o’n hyfforddwyr wedi cymryd rhan mewn cyrsiau er mwyn datblygu eu gallu fel hyfforddwyr fel y gallwch chi fod yn sicr eu bod yn gwybod sut i gyfleu eu harbenigedd i’ch staff.

Mae modd teilwra holl gyrsiau Tai Pawb i gyfarfod eich hanghenion. Os oes unrhyw faes penodol yr hoffech ganolbwyntio arno, neu os hoffech weld pwnc arall yn cael ei gynnwys, rydym ni bob tro yn hapus i wneud newidiadau lle mae angen.

Mae Tai Pawb bob amser yn ymgeisio i sicrhau bod ein hyfforddiant yn berthnasol i’r rheini sydd yn ei dderbyn. Boed yn staff, yn denantiaid neu’n aelodau’r bwrdd, byddwn wastad yn ymgeisio i wneud ein hyfforddiant mor berthnasol â phosib ar gyfer y gynulleidfa sy’n ei derbyn.

Er mwyn gwella ein darpariaeth hyfforddi, rydym hefyd yn defnyddio hyfforddwyr cefnogol sy’n meddu ar raddfa uchel o arbenigedd mewn cydraddoldeb. Mae ein hyfforddwyr cefnogol yn hynod o brofiadol ac maent yn cynnig yr un safon uchel o wasanaeth y byddech yn ei ddisgwyl gan Tai Pawb.

Nid hyfforddiant yw’r unig beth y mae Tai Pawb yn ei wneud. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau ymgynghori fel bod modd ffitio’r hyfforddiant i mewn i becyn ehangach o gefnogaeth gennym. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gallu gweithio gyda’ch staff i roi’r sgiliau maen nhw wedi dysgu ar waith yn ymarferol. Rydym hefyd yn cynnig llinell gymorth, sy’n golygu y bydd staff yn gallu gofyn eu cwestiynau ychwanegol eu hunain lle bo angen.

Mae ein holl gyrsiau hyfforddi wedi’u dylunio i gael eu darparu’n fewnol. Mae hyn yn galluogi i’n staff gael eu hyfforddi gyda’i gilydd, mewn awyrgylch cyfarwydd a chyfforddus. Mae’r dull hwn yn arwain at drafod a dysgu gwell. Mae hefyd yn lleihau costau teithio ac amser staff ar gyfer eich sefydliad.

Information

Sut i archebu cwrs

Os hoffech chi archebu sesiwn hyfforddi neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth cysylltwch drwy helpline@taipawb.org neu ffoniwch 029 2053 7630.

 

Taliadau

Mae’r ffioedd isod yn ddangosol ac mae’n bosib y byddant yn amrywio o dro i dro. Bydd aelodau Tai Pawb yn derbyn gostyngiad o 30% ar ein cyrsiau:

Hanner Diwrnod: £500 (rhai nad ydyn nhw’n aelodau) / £350 (aelodau)

Diwrnod Llawn: £850 (rhai nad ydyn nhw’n aelodau) / £590 (aelodau)

Gweler y Telerau a’r Amodau am fwy o wybodaeth. Mae costau teithio’n ychwanegol. Does dim TAW i’w thalu.

Mae gostyngiadau ar gael ar gyfer archebion bloc neu ail-archebion, felly cysylltwch â Tai Pawb i gael dyfynbris llawn.

Adborth ar ein cyrsiau hyfforddi:

“Mae Grŵp Tai Pennaf wedi cysylltu â Tai Pawb ar nifer o achlysuron er mwyn darparu hyfforddiant ar gyfer ein Bwrdd, ein Tîm Rheoli a’n Staff. Rydym yn credu eu bod yn cyflwyno pob pwnc ag angerdd, brwdfrydedd a gwybodaeth ddwfn ynglŷn â’r pwnc. Mae’r hyfforddwyr hael sy’n meddu ar bersonoliaethau hyfryd yn gwneud y profiad yn bleser.” – Grŵp Tai Pennaf

“Roedd yr Hyfforddiant ar Gydraddoldeb a ddarparwyd gan Tai Pawb yn hynod o ddefnyddiol. Mae’r staff a’r tenantiaid a gymerodd rhan nawr yn deall beth mae monitro Cydraddoldeb yn ei olygu a pham ei fod yn mor bwysig. Cafodd yr hyfforddiant ei ddarparu mewn fformat oedd yn hawdd i ddeall ac yn ddifyr. Mae hyn wedi codi ymwybyddiaeth ein staff ynghylch y nodweddion gwarchodedig a’r modd y gall ein gwasanaethau gael eu darparu mewn ffordd sy’n deg ac heb wahaniaethu.” – Cymdeithas Dai Hafod

Hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

“Agoriad llygaid da ar gyfer problemau sefydliadol”

Hyfforddiant Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb

“Roedd yn ddefnyddiol a byddwn i’n sicr yn ei ddefnyddio’r hyn wnes i ddysgu”

Delio â Digwyddiadau a Throseddau Casineb

“Cwrs gwych, hyfforddwr gwybodus iawn, roedd y cynnwys yn real – wnes i garu’r astudiaethau achos a’r ymarferion”