#LeaderLikeMe

Mae Tai Pawb yn parhau â’r ymgyrch #LeaderLikeMe trwy ofyn i’r sector tai yng Nghymru i wneud addunedau er mwyn cynyddu cynrychiolaeth cymunedau amrywiol o fewn arweinyddiaeth y sector.

 

 

Mae’r ymgyrch yn rhoi pwyslais ar weithredoedd personol y gall unigolion eu cymryd i wella nifer y bobl yn eu gweithleoedd sy’n dod o gymunedau amrywiol a nifer yr unigolion hynny sy’n llenwi rolau arweinyddion. Mae ymchwil wedi dangos nad oes llawer o amrywiaeth o fewn arweinyddiaeth y sector tai ac nad yw’r amrywiaeth sy’n bod yn cael ei adlewyrchu’n uwch i fyny’r ysgol yrfaoedd.

 

Three people with leader like me pledges

 

Mae Tai Pawb wedi datblygu nifer o addunedau ar gyfer unigolion yn y sector tai. Gall unrhyw aelod o staff addunedu yn ogystal â thenantiaid ac aelodau bwrdd. Cewch ragor o wybodaeth am yr ymgyrch yma.

Back
Verified by MonsterInsights