23rd Tachwedd 2017

Penodiad Martyn Jones i Bwyllgor Cymru EHRC

Written by Stewart Harding

Mae’n bleser gennym gyhoeddi penodiad ein Pennaeth Polisi a Chyfathrebu, Martyn Jones, i Bwyllgor Cymru EHRC.

Sefydlwyd Pwyllgor Cymru gan Ddeddf Gydraddoldeb 2006, fel corff penderfynu gyda dyletswyddau a phwerau i gynghori llywodraeth ddatganoledig, datblygu rhaglen waith a sicrhau bod gwaith y Comisiwn yn addas i Gymru. Nhw sy’n gosod cyfeiriad strategol gwaith y Comisiwn yng Nghymru.

Yn sôn am ei benodiad, meddai Martyn:

 

“Rwy’n ei ystyried yn anrhydedd ac yn fraint i gael fy mhenodi i Bwyllgor Cymru EHRC. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Comisiynydd, June Milligan, a Phennaeth Cymru, Ruth Coombs, ynghyd ag aelodau eraill y Pwyllgor a chydweithwyr yn yr EHRC i sicrhau y caiff hawliau pobl Cymru eu gwarchod.

Mae hyrwyddo cydraddoldeb a chefnogi llesiant personol a byw yn annibynnol o fewn cymunedau cydlynol yn her gynyddol, am sawl rheswm. Wrth wynebu’r heriau hyn, credaf y dylem ein hatgoffa ni’n hunain o eiriau ysbrydoledig Jo Cox – “Rydym yn llawer mwy unedig ac mae gennym lawer mwy yn gyffredin na’r pethau sy’n ein gwahanu.”

(Jo Cox: “we are far more united and have far more in common with each other than things that divide us”)

Cyn ymuno â thîm Tai Pawb, roedd Martyn yn Brif Weithredwr ar Diverse Cymru, pan fu, ymysg rolau dylanwadol eraill, yn gadeirydd Grŵp Ymarferwyr ar Drechu Tlodi Llywodraeth Cymru. Cyn hynny, arweiniodd ar gydraddoldeb a hawliau dynol yn swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, bu’n gweithio gydag Age Cymru a Chyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol y Cymoedd, ac mae ganddo MSc mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth o Brifysgol Caerdydd.

Mae gan Martyn gefndir helaeth ym maes cyfiawnder troseddol. Bu’n rheoli partneriaeth diogelwch cymunedol, ac yn ymgynghorydd a rheolwr amrywiaeth gyda’r gwasanaeth prawf. Mae’n gyn-gadeirydd Grŵp Cynghori Annibynnol Heddlu De Cymru ac ar hyn o bryd, mae’n aelod annibynnol o Banel Heddlu a Throseddu De Cymru.

Ef yw cadeirydd Grŵp Cydlyniant Cymunedol Cwm Taf, ac fel Ynad ers 2004, mae’n gadeirydd ar Fainc Canolbarth Cymru ac mae’n aelod o’r Panel Trais yn y Cartref.


Cliciwch yma i ddysgu mwy am waith yr EHRC yng Nghymru.

Back
Verified by MonsterInsights