Yn dod yn fuan – Marc Cydraddoldeb ac Amrywiaeth newydd sbon gan Tai Pawb
“Sut beth yw da?”
Dyna’r cwestiwn gan ein haelodau pan maent yn gweld bod angen gwneud mwy ym maes Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae Tai Pawb yn credu’n gryf bod darparwyr tai yng Nghymru yn arwain y ffordd o ran eu hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Ond, nid yw’n faes hawdd i fynd i’r afael ag ef, yn enwedig heb ffordd gyson o fesur ymrwymiadau yn erbyn realaeth a heb ffordd o fesur cynnydd. Yn sicr mae awydd ymysg ein haelodau i wella eu gwasanaethau, dileu rhwystrau a diwallu anghenion cwsmeriaid amrywiol.
Y newyddion da yw ein bod ni wedi gwrando ar yr hyn sy’n cael ei ddweud ac rydym wrthi’n datblygu Marc Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Tai Pawb newydd sbon (dylid nodi mai teitl dros dro yw’r enw hwn).
Er ein bod yn dal i berffeithio diwyg y marc, gallwn ddweud y bydd ar flaen y gad o ran datblygiadau diweddaraf ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth. Bydd yn cynnig cyfle go iawn i ddangos cynnydd ac yn trawsnewid ffyrdd o feddwl, gwasanaethau a diwylliannau sefydliadol.
Bydd y marc yn darparu set o ganlyniadau a safonau y gellir asesu sefydliadau yn eu herbyn er mwyn gweld sut maent yn perfformio ym maes Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Bydd yn:
• Gosod y safon
• Gwella profiadau tenantiaid, cwsmeriaid a staff amrywiol
• Darparu fframwaith i sefydliadau ar gyfer gwaith cydraddoldeb ac amrywiaeth
• Cynnig cyfle i ennyn egni a ffocws staff ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth
Er mwyn i’r marc fod yn drawsnewidiol a chreu newid cadarnhaol a gwirioneddol mewn sefydliadau, roedd yn hanfodol i ni nad yw’n ymarfer ticio’r blwch nac wedi’i ffocysu ar gydymffurfio’n unig. Dyna pam bod yr asesiad rydyn ni’n bwriadu ei ddefnyddio yn heriol ond nid yn feichus, a bydd Tai Pawb yno i’ch cynorthwyo yn ystod pob cam. (Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses rydyn ni’n bwriadu ei defnyddio isod).
Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda Melin Homes i gynnal archwiliad ar y fframwaith y byddwn yn ei defnyddio, ac wedi ymgynghori â’r sector ehangach. Mae yna eisoes lawer iawn o ddiddordeb ac agweddau cadarnhaol ynghylch y marc. Rydyn ni hefyd wedi bod yn gweithio’n agos gyda Thîm Rheoleiddio Tai Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y marc yn diwallu eu gofynion rheoleiddio sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth, ac i wneud yn siŵr bod modd ei ddefnyddio fel tystiolaeth ar gyfer asesiadau.
Cwestiynau Cyffredin
Sut fydd y broses yn edrych?
Bydd Cam 1 y broses o sefydlu’r marc yn cynnwys holiaduron, adolygiadau bwrdd gwaith, grwpiau ffocws a chyfweliadau â staff a thenantiaid sydd wedi’u ffocysu ar ganlyniadau a safonau’r fframwaith. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni lenwi unrhyw fylchau a chanfod meysydd o arferion da. Yn dilyn y cam hwn, byddwn yn eich cynorthwyo i ddatblygu cynllun gweithredu i roi sylw i unrhyw fylchau. Bydd sefydliadau yn cael amser i wella unrhyw feysydd lle bydd bylchau wedi’u canfod a bydd Cam 2 yn cynnwys adolygiad o’r cynnydd (lle bydd y marc, gobeithio, yn cael ei dyfarnu).
Faint fydd hyn yn ei gostio?
Bydd y marc yn costio tua £5,000. Bydd y gost yn cael ei rhannu, gyda 70% yn cael ei dalu yng Ngham 1 a 30% yn cael ei dalu yng Ngham 2. Yn ymarferol, efallai y bydd y costau’n cael eu rhannu rhwng dwy flynedd ariannol.
Beth yw manteision y marc Cydraddoldeb ac Amrywiaeth?
I gyrraedd y marc, bydd eich sefydliad yn sicrhau bod ei wasanaethau yn deg a chyfiawn, a bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu prif ffrydio drwy bob lefel o’r busnes; o staff rheng flaen i’r bwrdd. Bydd gennych hefyd gynllun clir o’r hyn sydd angen i’ch sefydliad ei wneud i wella ei wasanaethau a’i ddiwylliant yn barhaus mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth.
Mantais ychwanegol cyflawni’r marc yw y bydd yn gyson â’r gofynion rheoleiddio o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth ac y gellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth ar gyfer asesiadau rheoleiddio, am fod y rheoleiddiwr yn fodlon cydnabod y marc yn y ffordd hon.
Am ba hyd fydd y marc yn ddilys?
Ar hyn o bryd mae’n debygol y bydd y marc yn ddilys am ddwy i dair blynedd.
A fydd gwahanol lefelau neu dim ond un safon?
Un lefel yn unig fydd ar gael, ond gallwn ddatblygu mwy o lefelau yn y dyfodol.
Pa feysydd fydd y canlyniadau’n ymwneud â nhw?
Y canlyniadau yw:
1.Defnyddio dull strategol clir i sicrhau cydraddoldeb ym mhob rhan o waith y sefydliad
2.Darparu gwasanaethau teg, sydd ddim yn gwahaniaethu ac sy’n diwallu anghenion pobl, gan ymateb yn barhaus i newidiadau a heriau wrth iddynt ddatblygu.
3. Bydd yr holl bobl yn ymwybodol o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu, bydd ganddynt fynediad atynt a phrofiadau cadarnhaol ohonynt.
4. O ganlyniad i’r ymgysylltu, bydd y sefydliad yn un tecach ac yn fwy ymatebol o ran sut mae’n gweithio a’r hyn mae’n ei wneud.
5.Bydd yn weithle cynhwysol sydd â diwylliant sefydliadol sy’n hyrwyddo, yn croesawu ac yn rhoi gwerth ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.