Telerau ac Amodau
1. Telerau ac Amodau Allweddol
1.1 I weld rhestr o fanteision aelodaeth sy’n berthnasol ar gyfer bob categori o aelod, trowch at y tudalennau Aelodaeth.
1.2 Mae’r flwyddyn aelodaeth rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth (blwyddyn aelodaeth).
1.3 Ni fydd modd cario unrhyw fantais aelodaeth sydd heb ei defnyddio ymlaen i’r flwyddyn aelodaeth ddilynol nac i unrhyw flwyddyn aelodaeth arall.
1.4 Codir £590 am ddiwrnod llawn a £350 am bob sesiwn hanner diwrnod (graddfa i Aelodau) yn ogystal â chostau teithio am unrhyw hyfforddiant neu ymgynghori a ddarperir y tu hwnt i’r manteision aelodaeth a restrir yn yr Atodiad. Bydd telerau 4.1, 4.2, 4.3 a 4.4 yn berthnasol i unrhyw wasanaethau y codir tâl amdanynt sy’n cael eu darparu i Aelodau. Mae’n bosib y bydd costau ychwanegol hefyd os darperir hyfforddiant neu ymgynghori gan Gydymaith Tai Pawb. Gan y gallai’r costau hyn amrywio, rhoddir amcangyfrif cyn llofnodi’r Cytundeb Gwasanaeth Ymgynghori a Hyfforddi.
1.5 Codir 45c y milltir am y 100 milltir cyntaf a deithiwyd ac wedyn 15c y milltir ar ôl hynny. Rhoddir amcangyfrif o’r gost hon ymlaen llaw. Ni chynigir gostyngiadau i aelodau ar gostau teithio.
1.6 At ddibenion y telerau ac amodau hyn, mae “diwrnod llawn” yn gyfystyr â 7 awr a “hanner diwrnod” yn gyfystyr â 3.5 awr.
2. Hyfforddiant
2.1 Mae hyfforddiant penodol ar gael ar gais ac fe ellir ei deilwra at anghenion Aelodau neu unrhyw un arall. Pan fydd hyfforddiant arbennig yn cael ei ddarparu, mae’n bosib y codir am hanner diwrnod ychwanegol er mwyn paratoi’r hyfforddiant, a hynny ar y raddfa berthnasol yn dibynnu a ydyn nhw’n aelodau neu beidio.
2.2 Dylid archebu hyfforddiant o leiaf 6 wythnos cyn dyddiad yr hyfforddiant. Os bydd dyddiad yr hyfforddiant yn disgyn yn ystod mis Mawrth, dylid archebu’r hyfforddiant o leiaf 8 wythnos o flaen llaw. Os na roddir digon o rybudd ar gyfer archeb ym mis Mawrth, mae’n bosib y bydd yn rhaid darparu’r hyfforddiant yn y flwyddyn aelodaeth ddilynol ar gost y flwyddyn ddilynol.
2.3 Bydd manylion unrhyw hyfforddiant yn cael ei ddiffinio yn y cytundeb gwasanaeth ac yn cael ei anfon at yr Aelod neu unrhyw un arall i’w gymeradwyo. Ni fydd y hyfforddiant yn cael ei ddarparu nes bod y cytundeb gwasanaeth wedi’i awdurdodi..
2.4 Bydd Tai Pawb yn gwneud pob ymdrech i ddarparu deunyddiau hyfforddi mewn fformat hygyrch ar yr amod eu bod yn cael digon o rybudd o flaen llaw ynghylch y gofynion penodol. Dylai Aelodau sicrhau bod unrhyw leoliad sy’n cael ei archebu ganddynt yn hollol hygyrch a’u bod wedi ystyried anghenion eu cyfranogwyr o ran hwyluso mynediad.
3. Ymgynghori
3.1 Bydd manylion unrhyw ymgynghoriad a ddarperir yn cael ei ddiffinio yn ein cytundeb gwasanaeth a’i anfon at yr Aelod i’w gymeradwyo. Ni fydd y gwasanaeth ymgynghori yn cael ei ddarparu nes bod y cytundeb gwasanaeth wedi’i awdurdodi.
4. Canslo
4.1 Canslo hyfforddiant: Os bydd hyfforddiant sydd am gael ei ddarparu yn cael ei ganslo, dyma beth fydd yn digwydd:
(a) pe hysbysir Tai Pawb eich bod am ganslo lai na 5 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr hyfforddiant, codir y ffi hyfforddi llawn;
(b) pe hysbysir Tai Pawb eich bod am ganslo lai na 15 diwrnod gwaith cyn dyddiad yr hyfforddiant, codir 50% o’r ffi hyfforddi;
(c) ac er mwyn bod yn glir, pe hysbysir Tai Pawb eich bod am ganslo fwy na 15 diwrnod gwaith cyn dyddiad yr hyfforddiant, ni chodir ffi hyfforddi.
4.2 Canslo gwasanaeth ymgynghori: Os bydd unrhyw waith ymgynghori sydd am gael ei ddarparu yn cael ei ganslo, dyma beth fydd yn digwydd:
(a) pe hysbysir Tai Pawb eich bod am ganslo cyn dechrau ar unrhyw waith ymgynghori, ni chodir ffioedd ymgynghori;
(b) pe hysbysir Tai Pawb eich bod am ganslo ar ôl dechrau’r gwaith ymgynghori, codir ffi sy’n gyfystyr â’r amser a dreuliwyd;
4.3 Canslo a threuliau: Byddwn yn codi’n llawn am yr holl dreuliau teithio a llety a godwyd ar Tai Pawb mewn cysylltiad ag unrhyw hyfforddiant, ni waeth pryd y canslwyd y gwasanaeth.
4.4 Er mwyn bod yn glir, os byddwch yn aildrefnu dyddiad hyfforddiant, bydd y telerau ac amodau canslo’n dal i fod yn berthnasol oni bai bod yna amgylchiadau eithriadol.
5. Cyffredinol
5.1 Bydd yr holl hawliau hawlfraint a hawliau deallusol eraill yn yr holl ddeunydd hyfforddiant ac ymgynghori yn eiddo i Tai Pawb, yn awr ac i’r dyfodol, oni nodir yn benodol fel arall.
5.2 Cyfyngu Atebolrwydd
5.2.1 Nid yw Tai Pawb yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw ddamwain, anaf na cholled a ddioddefir gan unrhyw berson sy’n mynychu sesiwn hyfforddi.
5.2.2 Y cyfranogwyr sy’n gyfrifol am ofalu am eu heiddo eu hunain bob amser yn ystod sesiwn hyfforddi.
5.2.3 Nid yw Tai Pawb yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled a wynebir yn sgil defnyddio unrhyw ddeunydd neu wybodaeth a ddarperir mewn sesiwn hyfforddi fel rhan o waith ymgynghori neu brosiect.
5.3 O ran hyfforddiant, bydd Tai Pawb yn anfon anfoneb ar ôl y dyddiad cwblhau. Ar gyfer prosiectau ymgynghori, bydd rhaid talu 50% o’r gost ar ôl derbyn y cytundeb a 50% ar ôl cwblhau’r prosiect.
5.4 Rhaid talu anfonebau o fewn 30 diwrnod calendr o’u derbyn.