8th Gorffennaf 2016

Cysylltiadau cymunedol a’r cynnydd mewn digwyddiadau hiliol yn dilyn Refferendwm yr UE

Written by creo

Yma yn Tai Pawb rydym yn credu’n gryf bod ein haelodau yng Nghymru’n arwain y ffordd yn eu hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chyfiawnder cymdeithasol. Mae gan fudiadau tai cymdeithasol hanes hir o groesawu pobl, ac o gefnogi a dathlu amrywiaeth eu tenantiaid.

 

Yn anffodus, mae naws y ddadl ar refferendwm yr UE wedi gwneud i lawer o gymunedau mewnfudwyr a lleiafrifoedd ethnig deimlo’n anghyfforddus ac mae wedi arwain at gynnydd mewn achosion o gam-drin hiliol. Yn ystod y misoedd diwethaf rwyf wedi gwerthfawrogi’n fawr y negeseuon niferus a diffuant o groeso a’r cymorth a gefais gan gydweithwyr, ffrindiau, teulu a chymdogion, ac rwyf yn siŵr bod y cymunedau rydych yn gweithio â hwy’n teimlo’r un fath.

Gwyddom fod y rhan fwyaf o ddigwyddiadau casineb yng Nghymru’n digwydd yn agos at gartrefi pobl ac nad yw’r rhan fwyaf ohonynt (tua 70 y cant) yn cael eu hysbysu i’r awdurdodau. Rwyf yn siŵr y byddwch yn ystod yr amser anodd hwn yn gwneud popeth o fewn eich gallu i roi tawelwch meddwl i denantiaid a chymunedau o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a mewnfudwyr ac yn gwneud iddynt sylweddoli bod croeso iddynt yma ac y byddant yn cael pob help os byddant yn profi unrhyw gamdriniaeth hiliol, aflonyddwch neu fygythiadau. Mae hyn yr un mor bwysig mewn ardaloedd â lefelau uchel ac isel o amrywiaeth lle gall cymunedau deimlo’n fwy ynysig.

Roeddwn mor falch o weld datganiadau gan ein haelodau sy’n cadarnhau hynny: Cymdeithas Tai TafCymdeithas Tai CadwynCymdeithas Tai Cymuned Caerdydd (CCHA)Grŵp Cartrefu Cymunedol Cynon Taf a llawer mwy. Yn fy marn i mae’r digwyddiadau hiliol hyn yn cael eu hachosi gan leiafrif bychan o bobl sy’n credu bod canlyniadau’r bleidlais yn cyfiawnhau eu hymddygiad, ond mae gennym ni i gyd, staff a thenantiaid, ran i’w chwarae i herio hyn.

Wrth edrych ar gyd-destun canlyniadau refferendwm yr UE a phwysigrwydd ymgysylltu â chymunedau ar draws rhaniadau hil, cenedligrwydd, oedran a dosbarth cymdeithasol, rwy’n credu ei bod yn hynod bwysig hefyd ein bod yn meddwl am rôl landlordiaid cymdeithasol a phartneriaid i godi pontydd ar draws y rhaniadau hyn yn y tymor hir er mwyn gwella cysylltiadau cymunedol. Roedd y prif weinidog yn llygad ei le pan ddywedodd, “mae angen inni ddod o hyd i ffordd o siarad â’n gilydd unwaith eto – efallai ein bod wedi pleidleisio mewn ffordd wahanol, ond rydym yn parhau i fod yn gymdogion, ffrindiau a theulu.”

Ym mis Awst, buom yn cynnal seminar ar thema Mewnfudwyr, Ffoaduriaid a Chysylltiadau Cymunedol, i drafod y pwnc pwysig hwn ag aelodau, i rannu arferion gorau ac i ystyried y camau nesaf.

Os bydd angen rhagor o help arnoch i ddelio ag achosion o ddigwyddiadau casineb, gallwch ddefnyddio pecyn cymorth troseddau casineb Tai Pawb a Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys arferion da a rhestrau gwirio i adolygu eich arferion gweithio a’ch polisïau. Mae gennym hefyd gwrs hyfforddi troseddau casineb, ac efallai yr hoffech fanteisio arno.

Gadewch i ni i gyd gydnabod y cryfder sy’n dod yn sgil ein hamrywiaeth a’r rôl mae’n ei chwarae i wneud Cymru’n lle gwell i fyw.

Alicja Zalesinska

Back