31st Hydref 2016
Cynnydd TPAS Cymru gyda #LeaderLikeMe
Mae Phoenix Averies o TPAS Cymru wedi recordio diweddariad ar ffurf Vlog ynghylch cynnydd TPAS Cymru hyd yma o ran yr addewidion maent wedi’u gwneud ar gyfer ymgyrch #leaderlikeme Tai Pawb. Mae TPAS Cymru wir yn credu bod amrywiaeth yn y gweithlu yn helpu i wneud y sector yn gryfach ac yn galluogi’r cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw i gael eu gwasanaethu’n well. Mae’n edrych ymlaen at greu rhagor o gyfleoedd ar gyfer cysgodi a dysgu sgiliau newydd wrth barhau i fod yn rhan o’r ymgyrch.