28th Hydref 2016

Pam ymunais i â #LeaderLikeMe

jonathan-conway-nch

 

Roeddwn i mewn cyfarfod yn trafod yr ymgyrch ymysg pethau eraill, ac yn sydyn daeth cwestiwn annisgwyl…

“Pryd wyt ti am wneud dy addewid, Jon?” Beth gallwn i ei ddweud? Dydw i ddim yn rheolwr. Beth galla’ i ei wneud? Oni fyddai hynny ychydig yn ddigywilydd? “Na i feddwl am y peth a rhoi gwybod i ti” oedd fy ateb gofalus.

Felly mi wnes i feddwl am y peth. Meddyliais am yr holl resymau pam nad ydw i’n arweinydd. Yna meddyliais, pam fydden nhw’n gofyn i mi? Mae’n rhaid bod ganddyn nhw reswm…
Wrth gwrs bod ganddyn nhw! Does dim rhaid i chi gael swydd arbennig neu fod yn rheoli staff i fod yn arweinydd. Dydy swydd ddim yn eich gwneud yn arweinydd, agwedd sydd, ac yn amlwg mae fy ffrindiau a fy nghyd-weithwyr yn gallu gweld yr agwedd honno ynof i. Dechreuais feddwl am y peth mewn ffordd wahanol. Meddyliais am y prosiectau rwyf wedi eu rhedeg, gyda thimau o gyd-weithwyr o bob rhan o’n busnes yn ceisio arweiniad gennyf i. Meddyliais am y preswylwyr a’r staff rwyf wedi eu mentora, y bechgyn rygbi rwy’n eu hyfforddi, a meddyliais…Rwyf i yn arweinydd. Mae gennyf i rywbeth i’w roi.

Fe wnes i fy addewidion y diwrnod canlynol, ac rwy’n falch iawn fy mod i wedi. Rwyf eisoes yn gweithio ar roi cyfle cysgodi i rywun, a dylwn allu helpu hyfforddai i gael profiad ehangach o lawer na sydd ganddi ar hyn o bryd. Rwy’n gallu gwneud gwahaniaeth, ac yn gallu helpu i gynyddu amrywiaeth, ac felly fy nghyfrifoldeb i yw rhoi cyfle i bobl eraill fanteisio ar y cyfleoedd rwyf i wedi gorfod eu datblygu.

Dyna pam es i ati i wneud addewid, a pham fy mod yn credu bod yr ymgyrch #Leaderlikeme yn bwysig. Os nad ydych chi wedi cymryd rhan eto, rwy’n eich annog chi i wneud. Mae gan bob un ohonom ni rywbeth i’w roi. Treuliwch funud yn meddwl.. ac fe gewch chi ysbrydoliaeth o rywle.

Rwy’n gobeithio y byddaf yn gwneud gwahaniaeth. Gobeithio y byddwch chi hefyd.

Jonathan Conway

Swyddog Ymgysylltu â Phreswylwyr

Cartrefi Dinas Casnewydd

Back