Dathlu Mis Balchder: Taith Bersonol o Wydnwch, Undod, a Chariad gan Dai Thomas
Wrth i ni ddathlu Mis Balchder 2023, mae’n anrhydedd i ni gynnwys blog gwadd gan Dai Thomas, cydymaith Tai Pawb. Yn y darn hynod bersonol hwn, mae Dai yn rhannu ei stori am ddigwyddiad trawmatig Balchder 2022 yn Oslo (dolen) lle bu saethu torfol gan derfysgwr, collodd dau berson eu bywydau yn drasig a chafodd 22 arall eu hanafu. Darllenwch pam fod Dai yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddigwyddiadau Balchder eleni, yn llawn gobaith, iachâd, ac ymdeimlad o bwrpas newydd.
Byddaf yn dathlu Mis Balchder yn 2023 am nifer o resymau, a hoffwn rannu pam, er ei bod yn bwysig mewn unrhyw flwyddyn, yn 2023 mae yna reswm ychwanegol a phersonol iawn. Ond na’i ddechrau gyda rhai rhesymau cyffredinol.
Mae gwreiddiau Mis Balchder yn Nherfysgoedd Stonewall ym mis Mehefin 1969, a ystyrir yn eang i fod yn ddechreuad i’r hyn sydd, erbyn heddiw, yn fudiad hawliau LHDTCRhA+, ac mae’r mis yn talu teyrnged i’r hanes hwnw, a dewrder y rhai fu’n ymladd y pryd hyny dros hawliau ac amlygrwydd ein cymuned. Ni ddylem fyth anghofio’r gwreiddiau protestio hynny wrth i ni ddathlu Mis Balchder, ond mae angen i ni hefyd anrhydeddu pob un o’r hunaniaethau amrywiol yn ein cymuned a’r llawenydd y gall cymuned hynny ei gynnig.
Mae Mis Balchder yn ein hatgoffa y dylai pawb allu cofleidio’u gwir hunain heb ofn na gwahaniaethu. Does ond rhaid i chi edrych o gwmpas y byd i weld faint o wledydd sydd wedi symud ymlaen o ran hawliau LHDTCRhA+, wrth i eraill llithro’n ôl ar gyflymder brawychus. Dylem ddathlu’r cyntaf a sefyll yn gadarn yn erbyn yr olaf.
Felly, wrth i ni gofio, anrhydeddu a dathlu, mae gennym hefyd lwyfan ar gyfer eiriolaeth, gan godi ymwybyddiaeth am faterion parhaus fel gwahaniaethu, trais, triniaeth anghyfartal, ac yn cael ein hatgoffa’n bwerus bod y frwydr dros gydraddoldeb a chyfiawnder bell o fod ar ben.
Mae Mis Balchder yn gyfle i addysgu’r cyhoedd ehangach wrth helpu i chwalu stereoteipiau ac i feithrin empathi a dealltwriaeth. Trwy ddigwyddiadau cyhoeddus, ymgyrchoedd a thrafodaethau, mae Mis Pride yn hyrwyddo deialog ac yn annog unigolion i ddod yn gynghreiriaid yn ein brwydr barhaus dros hawliau LHDTCRhA+. Mae hefyd yn ein hatgoffa ni gyd nad yw’r frwydr dros hawliau LHDTCRhA+ wedi’i chyfyngu i ranbarthau penodol. Mae undod yn hanfodol wrth greu newid ar raddfa ehangach.
Felly dyna’r rhesymau cyffredinol, pob un yn hynod bwysig ond yn wybodaeth am Fis Balchder sydd i’w gweld ar-lein eisoes mewn cymaint o flogiau ac erthyglau. Ond mae pob cymuned yn cynnwys unigolion, pob un â’i stori ei hun, ac felly dyma fy un i, y rhan bersonol o pam mae Mis Balchder eleni yn golygu cymaint i mi.
Dwi’n mynychu tri digwyddiad Balchder ym mis Mehefin a Gorffennaf 2023 – Cymru, Caerffili ac Oslo. A’r olaf o rheiny sy’n gwneud Mis Balchder eleni mor bwysig.
Mae gen i ffrindiau agos yn Oslo ac rydw i wedi bod yna sawl gwaith am sawl rheswm – ymweliadau penwythnos, penblwyddi, priodas a phenwythnosau Balchder blaenorol; mae’n ddinas hyfryd a chroesawgar. Ond yn anffodus roedd Balchder 2022 yn wahanol iawn. Hwn oedd fy nhro cyntaf yn ôl yno yn gweld fy ffrindiau ers y mis cyn i’r pandemig daro, ac roeddwn i mor falch o gael eu gweld nhw eto, ac roeddwn yn edrych ymlaen at y daith.
Mae London Pub a César Bar & Café naill ochr i gyffordd drionglog eang o nifer o strydoedd yn Oslo. Mae yna arhosfan tramiau, caffis eraill, gwesty, Llys Dosbarth Oslo; mae’n stryd ddinas nodweddiadol mewn sawl ffordd.
Ar ddydd Gwener, Mehefin 24ain 2022, roedd fy ffrindiau a minnau allan, ac wedi bod allan am oriau, gan ei bod hi’r noson cyn Dydd Sadwrn Balchder, cyn yr orymdaith enfawr a’r prif ddigwyddiad. Roedden ni wedi cerdded heibio i London Pub ond heb fynd i mewn, gan i ni weld ei fod yn llawn iawn, felly cerddon ni ar draws yr heol i’r César Bar & Café.
Tua 1am fe benderfynon ni wneud ein ffordd adref ac felly roedden ni’n sefyll ar y sgwâr ger y arhosfan tramiau yn aros am dacsi. Gyferbyn â ni, roedd pobl yn bwyta ac yn yfed yn ardal allanol bwyty a thafarn Per på Hjørnet. Yna’n sydyn clywsom bobl yn gweiddi a sŵn fel tân gwyllt bach. Roedden ni’n meddwl mai bach o hwyl Balchder oedd hyn, nes i un o’m ffrindiau weiddi mewn sioc mai dryll oedd.
Rwy’n siŵr mai dim ond eiliadau y cymerodd y rhan nesaf, ond gallaf gofio o hyd y sgwrs fewnol, hir (ac i ddweud y gwir bach yn chwerthinllyd) a gefais i, am sut na allai hyn fod yn ddryll o gwbl, achos nid yw drylliau’n swnio fel hynny mewn ffilmiau ac ar y teledu, mae nhw’n swnio’n llawer yn uwch ac yn ddyfnach na’r clecian roeddwn i’n gallu clywed; rhaid mai tân gwyllt bach oedd y rhain. Dwi’n gallu cofio teimlo bach fel fy mod wedi datod o realiti, am beth oedd yn teimlo fel amser hir, cyn i reddf goroesi gymryd drosodd a chael fy ymennydd i ofyn pam ar wyneb y ddaear oeddwn i’n sefyll yna’n meddwl am effeithiau sain ac nid yn rhedeg i ffwrdd.
Felly wnaethon ni redeg lawr stryd ochr ac i fyny stepiau i geisio rhoi pellter a chorneli rhyngom ni a beth oedd yn digwydd, y synau’n atseinio o bob cyfeiriad oherwydd eu bod yn bownsio oddi ar yr adeiladau cyfagos. Mae’n deimlad iasol, yn meddwl tybed a fyddwch yn teimlo ergyd yn eich cefn ond eto, roeddwn i’n dal i deimlo ar wahân i bethau, hyd yn oed wrth i mi redeg.
Wrth gwrs, roedden ni mor lwcus, ond doedd llawer ddim. Lladdwyd dau ac anafwyd llawer mwy o bobl, a newidiwyd eu teuluoedd am byth.
Roedd fy mhartner gartref yng Nghymru ac yn y gwely, ac o ystyried yr amser o’r nos, byddai’r rhan fwyaf o fy nheulu a ffrindiau wedi bod yn cysgu hefyd. Ond gwelodd tri a oedd dal ar ddihun fy neges ddryslyd ar-lein, fy mod i a fy ffrindiau yn iawn, ac roedd eu cyswllt a’u cefnogaeth yn meddwl y byd i fi. Fel oedd cefnogaeth y ffrindiau yr oeddwn gyda nhw yn Oslo, ar y noson honno ac am weddill y penwythnos. Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod niwlog mewn ffordd, llawn dagrau bob hyn a hyn, galwadau ffôn oedd mawr eu hangen gyda fy mhartner a lot fawr o yfed.
Hedfanais adref ar y dydd Llun, gyrrais adref o Heathrow, ac yna dechreuais feichio wylo pan oeddwn yn gyrru ar draws y lôn gefn o’r diwedd a gweld drysau’r garej a chefn y tŷ. Doeddwn i ddim yn gallu edrych ym myw llygaid fy mhartner pan es i mewn, rhag ofn i fi dorri’n llwyr. Ond roeddwn i adref.
Na’i orffen gydag atgof o’r dydd Sul hwnnw yn Oslo. Aethon ni’n ôl i’r union fan, roedden ni’n gwybod bod yn rhaid i ni wneud; erbyn hynny roedd y stryd wedi’i gorchuddio â blodau a baneri’r enfys ac roedd cymaint o ddagrau gan bawb oedd yn sefyll yno, lot gen i hefyd. Roedd yn foment ar y cyd o gydnabod y sioc a’r galar, ond hefyd yn foment hynod bwysig o undod ar y cyd.
Dyma’r llun wnes i dynnu o London Pub y dydd Sul hwnnw, o’r tu ôl i gadwyn yr heddlu.
Balchder Hapus a thyllau’r bwledi.
Felly dyna pam y byddaf yn dathlu Mis Balchder eleni, hyd yn oed yn fwy na’r arfer, ac yn annog eraill i wneud yr un peth.
Oherwydd er gwaethaf y math o gasineb a arweiniodd at y noson honno, er gwaethaf yr holl frwydro, mae’n rhaid i ni gofio a dal i gredu bod cariad yn ennill, bod cariad bob amser yn ennill.
Dai Thomas